Skip to main content

Oyf. VII.—Rhif 9.—Mehepin, 1887. CYFAILL-YR-AELWYIj: öfSjfcoeMiad lítisol at Hteaaaítfc jj ®j)raríi. JOHN CEIRIOG HUCHES, Ganwyd Medi 25ain, 1832. Bü Farw Ebrill 23ain, 1887. ENGLYN BEDDARGRAFF. Ysgrifenwyd ganddo ef ei hun $w osod ar eì gareg fedi. Oarodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd, Carodd fyw'n naturiol; Oarodd gerdd yn angerddol, Dyma ei lwch—a dim lol. ER COFFADWRIAETH. Ceiriog, y bardd cywiraf,—un ytoedd I natur ffyddlonaf; Ei hael awen dryloewaf Yn bur oedd fel boreu haf. Ceiriog ! mae dagrau cariad,—yn gwlawio Ar drigleoedd caniad ; Dy ddystaw ymadawiad Ai'n daran glir drwy ein gwlad. DíFED. MAWRyw'n cur,—marw'n Ceiriog!—Dyna fwlch! Dwyn i fedd eneiniog 0 athrylith wir heulog,—a chnydiol, 0 urddiad oesol, yn Fardd Bywysog. Wyled, wyled ein talaeth,—tywallted Heilltion ddagrau hiraeth ; Rhoi'r enwog Geiriog yn gaeth—mewn amdo, Sy gwedi sigo y Dywysogaeth. Dafydd Morganwg. Yr awen yn Ebrill rywiog—wyla 'N hylif ar ol Ceiriog ; Mwy ni chawn emyn na chog, A'i llon gân yn Llangynog. Nathan Dyfed. "Pa odlau cymhwysach Dilynir ei elor na'i odlau ei hun." Altjn. Ni heneiddia awenyddiaeth—Ceiriog, Fe'i cerir trwy'n talaeth ; Ei ddawn gyflawn, ffrwythlawn, ffraeth, Ro'dd enaid i'w farddoniaeth. Elfyn. Clywch eiriau galar, ciywch ! Mae Ceiriog wedi huno ; Clywch eiriau galar, clywch ! A Chymru oll sy'n wylo. Tarawyd ni yn syn Gan y newydd, Ro'i yn oer glai y glyn Y prif awenydd. Chwi feirddion Hen Walia galerwch yn uchel, Heillt'ddagrau tywallted y gu awen werdd, 0 herwydd fod pen yr awenydd yn isel. Ni lunia mwy ernyn, Cywydd nag englyn, Dystawodd ei gerdd. Henri Myllin. Erys ei waith wedi'r oes hon—yn fyw Ar fil o'n halawon ; Iawn y tery cantorion Ar aidd dant ryw beraidd dôn. Bardd o wîg uchel-frigog—yn canu Tlws acenion bywiog ; D'wed awen dan glaerwen glog— Coron ar gopa Ceiriog. Idris Fychan.