Skip to main content

Cyf. VII.-Rhiî 8.-Mai, 1887. CYFAILL-YR-AELWYD: DARLLENIADAÜ O LYFRAU NEWYDDION. COFIANT Y DR. HARRIS JONES.*-(Parhad). fR ydym wedi bod yn edrych yn mlaen gyda phleser at drenlio awr yn ychwaneg '.Tr; yn nghwmni Dr. Harris JoT.es. a'i gy- feillion gallnog a dyddan, Edward Matthews a Cynddylan Jones. Gadawsom ef y tro o'r blaen yn nghanol ei helbul gyda'r Uwyth ymenyn an- ffodus. Yn awr i fyned yn mlaen cawn fod John Harn'a Jones, wedi methu ei wneud vn fTermwr, wedi myned i yssrol Caerfyrddin at Dr. Lloyd. Dywedir am dano yno :— " Yr oedd ei wers vn wastad yn barod, heb un amserfradychu'esgeulusdodnen frvs angbymedrol, tra yr oedd ereill yn rhoddi ffordd i dueddiadau naturiol natur lygredig." Ymddengys ei fod wedi gosod ei fryd ar bre- gethu, ond nid gwaith rhwydd oedd cyrhaedd y pwlpud y pryd hwnw. " Y pryd hwnw yr oedd y ffordd i'r pwlpud yn fwy ansathredig, garw, ac anhygyrch nag yn bre- senol. • Lìwybrau culion, dyrus anhawdd,' oedd y llwvbrau a arweinient i'r weinidogaeth. A ddarfu i erwinder y ffordd rwystro rbai i fyned i'r pwlpud ag y buasai yn ddvmunol eu eweled yno. nid ydym yn gwybod— efallai hyny. Cyfyng oedd y porth, a chul y ffordd ag oedd yn arwain ['r by wyd gweinidogaethol." " Y pryd hvn y gwelid mewn llawn waith yr egwyddor o the survival of the fittest—y cedyrn o nerth yn unig a allent orfyw goruchwyliaeth mor broíedigaethus. Yn sicr cewri oedd ar y ddaear yn v dyddiau hyny. Yn awr y mae y ffordd i'r pwlpud yn Uyfn, ewastad a lîathrog ; nid oes yma lew na bwystfil gormesol yn trigo—dim ond ychydig o fân reolau wedi eu gwau yn fân rwvd- au ; ac os sanga dyn yn ysgafn a ehamu yn fân, caiff ei hun yn glamp o bregethwr yn y man. Pell ydym ni o grew rhwvstrau ar ffordd ein pobl ieuainc ; ond pellach fyth ydym o daflu drysau ein pwlpudau yn agored i gymeriadau amheus." Daeth yr amser iddo ymadael o'r coleg. "Cyn iddo ymadael â Choleg Caerfyrddin, naturiol awn oedd i'r ì)r. Lloyd ofyn i'w hoff ddisgybl, ' Well, John, what next f Beth eto, John ? Ymddengys fod yr efrvdydd wedi gosod ei fryd ar enill Ysgolor- iaeth Dt. "Williams." Fel hyn y dywedir :— " Cyn ymadael o Gaerfyrddin, raewn atebiad i ym- holiad ei hen athraw caredig, meiddiodd ddatgan yn ddystaw ei obaith. Tarawyd y Dr. Lloyd â syndod gan ei feiddgarwch, ond wedi iddo adfeddianu ei hun, dvwedodd : ' It's no use, John, it is no use: Dr. Williams' Scholarship has never yet cotne to Wulcs: trwible not yourself about that? " Ni ddigaloncdd y dysgybl gan yr hyn a ddywed- odd yr athraw." Cawn gan yr awdwyr bictiwr byw o'r ymdrech galed yr aeth John Harris Jones drwyddi i gyr- haedd y nod oedd wedi osod o'i flaen. Pwy, wrth ddarllen a ganlyn, na theimla fod dewrder y llanc yn haeddu llwyddiant ì " Yr elfen o benderfynolrwydd'sydd yn dyfod i'r amlwsc yn y symudiad hwn, fel yn ei holl symudiadau ereill, er gwaethaf barn addfed ei hen athraw, ac er gwaethaf poblogrwydd ei weini- dogaeth, dvma efe ati hi eto â'i holl egni. Am y flwyddyn hon y bu gartref, byddai yn pregethu y Sabbothau gyda chymeradwyaeth anarferol; a bu cymaint a hynv o fyned allan yn ddiameu yn foddion effeithiol i gadw ei iechyd rhag an- mharu, canvs yn yr ystafell gyda'i efrydiaethau y byddai ddydd a nos. Ychydig o gwsg a gafodd y flwyddyn hon, yn ol tystiolaeth ei frawd. Yn oriau v dydd nid ydoedd i'w weled ond yn y ddyledswydd deuluaidd ac ar brydiau bwyd, ac yn y nos byddai y ganwyll yn llosgi ac yn goleuo yn ffenestr ei ystafell hyd oriau bychain y boreu. O'r llechweddau yr ochr draw i Benybanc, gellid gweled canwyll fel seren fach yn y pellder, drwy y coedydd tewfrig sydd o amgylch y ty. Pryd y gorweddai yr anifeiiiaid mewn cwsg, a phryd yr oedd holl ffenestri y gymydogaeth yn dywyll, gellid gweled un ty, a dim ond un, yn arwyddo byw. Y ty hwnw oedd Penybanc. Yr oedd canwyll yn llosgi yno bob nos wedi i holl gan- wyllau y plwyf hir ddiffodd. Gweithiodd v dyn ieuanc yn gawraidd y deuddeg mis hyn. Rhaid Cofiant y Parch. J. Har-is Jones, M.A., Ph.D., Trefecca, gan y Parchedigion Edward Matthews Cynddylan Jones, D-D. Llanelli: D. Williarns a'i Fab- Pris 4s. 6c.