Skip to main content

Cyí. VII.—Rhif 7.—Ebrill, 1887. CYFAILL-YR-AELWYD: O FARW YN FYW. GAN ALEXANDRE DÜMAS. (Cyfaddasiad arbenìg i Gífaill ye Aelwyd gan Alltüd Gwent.) NOD XXYlL —GOSOD VlILEFOET DAN ewymau i'e Coünt. N yr hwyr, dychwelodd y Count i Auteuil, gan gymeryd Ali gydag ef. Tua thri o'r gloch tranoeth, gwysiodd ef ato i'w ystafell, a dywedodd,— " Ali, yr ydych wedi amlygu i mi amryw droion eich bod yn fedrus i daflu y lasso, onid ydych V Amneidiodd Ali ei ben yn gadarnhaol. " A'ch bod wedi maglu ac atal llewod a theigrod ar ganol eu gyrfa ddinystriol ac ysglyf- aethus V ebe y Count. Amneidiodd Ali ei ben drachefn. " A ydych yn meddwl y gallech atal pâr o geffylau chwim pan yn carlamu heibio yn orwyllt î" gofynai ei feistr. Gwenodd y mudan i arwyddo mai gorchwyl hawdd iawn oedd hyny ganddo. Yna dy wedodd y Count,— "Gwrandewch, ynte. Yn mhen ychydig amser rhuthra cerbyd heibio yma. yn cael ei dynu gan bâr o geffylau brithion, sef yr anifeiliaid hardd oedd genyf fi ddoe. Rhaid i chwi lwyddo i atal eu eyrfa pan o flaen y porth yma, pe byddai rhaid i chwi beryglu eich bywyd i wneyd hyny." Aeth Ali allan i'r beol, yn cael ei ganlyn gan ei feistr, a thynodd linell yn groes i'r heol gyferbyn a'r porth, i arwyddo na ch'ai y cerbyd fyned drosti. Amlygodd ei feistr ei foddhad trwy ei guro yn ysgafn ar ei gefn—ei ddull arferol o'i ganmol; yna aeth Ali ychydig gamrau yn mlaen, ac, wedi tanio ei bibell, pwysodd ar y mur, i ddysgwyl yn hamddenol am ddyfodiad y cerbyd, tra y dych- welodd Monte Cristo i'r ty, ac i ystafell lle y gallai ganfod yr hyn a ddygwyddai. Yn mhen tuag awr. neu lai, clywodd swn cerbyd yn gyru yn orwyllt ar yr heol, ac yn dynesu ; ac yn union wedi hyny, daeth y cerbyd i'r golwg, yn cael ei dynu gan bar o geffylau aflywodraethus a dychrynedig, a rhuthrent yn mlaen ar waethaf pob ymdrech o eiddo y gyriedydd i'w hatal. Yn y cerbyd eisteddai boneddiges, yr hon, yn fud gan ofn, a wasgai blentyn saith neu wyth mlwydd oed at ei mynwes. Rhuthrai y cerbyd yn mlaen fel pe i ddinystr anocheladwy, er braw ac arswyd y fforddolion ar yr heol ; ond pan yn agos i'r fan lle y safai Ali, gosododd* hwnw ei bibell o'r neilldu, a thynodd lasso (sef rhaff hir, gyda phelen o blwm ar un pen iddi, yr hon a ddefnyddir gan frodorion Affrica ac America i ddal anifeiliaid gwylltion pan yn hela) allan o'i logell, a chyda medrusrwydd un cynefìn a'r gor- chwyl, pan oedd y ceffylau gyferbyn a'r fan y safai, tafìodd y lasso, yr hon a ymdorchodd o amgylch coesau yr anifail nesaf ato, gan ei faglu a'i lesteirio. Cadwodd Ali ei afael yn mhen arall y rhaff, a thynwyd ef yn mlaen ychydig gamrau, trwy yr hyn y tynhaodd y rhaff am yr anifail nes y cwympodd i'r liawr, gan dori polyn y cerbyd, ac atal, hefyd, ruthr gwyllt yr anifail arall. Yna llamodd Ali yn mlaen at y llall, gan ymaflyd yn ei ffroenau, a'u gwasgu nes ei orfodi yntau i ymlonyddu, ac ymollwng i'r llawr wrth ochr y cyntaf. Yna neidiodd y gyriedvdd i lawr, a phrysurodd i agor drws y cerbyd. Erbyn hyn, yr oedd y Count ac amryw o'i weision wedi dyfod allan o'r ty, ac wedi cyrhaedd y lle. Cludwydy foneddigesa'rplentyn, y rhai oeddynt erbyn hyn yn anymwybodol, i'r ty, a gosodwyd hwynt i orwedd ar sofa. Dadebrodd y foneddiges yn fuan,pany dywedodd y Count,"Ymdawelwch, Madame ; mae pob perygl drosodd." Edrychodd hithau i fyny, a chan ei bod yn analluog i ddyweyd gair, cyfeiriodd â'i bys, gydag agwedd erfyniol, at y plentyn oedd eto heb ddadebru. " Ni raid i chwi ofni, Madame" ebe y Count; " nid yw wedi derbyn un niwed ; effaith y dychryn a gafodd y w, a daw ato ei hun yn fuan." " Ond edrychwch mor welw y mae," llefai hithau yn dorcalonus ; " 0 fy mhlentyn ! Fy Edward anwyl! Edrychwch ar eich mam unwaith eto ! 0! Syr! er mwyn y nefoedd anfonwch am gymhorth ; ni fydd dim yn ormod genyf dalu am adferyd fy mhlentyn anwyl!" Gwenodd Monte Cristo, ac amneidiodd arni i fod yn dawel, yna cymerodd gostrel fechan o gist oedd yn ymyl, a dyferodd un dyferyn o hylif o liw gwaedlyd ar wefusau y plentyn. Agorodd y bychan ei lygaid yn ddioed, ac edrychodd yn