Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhybudd i Bawb o Deulu yr Aelwyd,—0 hyn allan cyfeirier pob gohebiaeth perthynol i'r Cvfailu fel hyn;— BERIAH GWYNFE EVANS, Golygydd ' Cyfaill yr Aelwyd," CARDIFF. Cyf. VII.—Rhif 6—Mawrth, 1887. CYFAILL-YR-AELWYD: $tjft0etltliatt IRiiwI at WmmtiU y titymry. Y DIWEDDAR BARCH. EVAN EVANS, NANTYGLO.* BYR GOFFA AM DANO. Gan ün a'i Hadwaenai am dros Ddeugain Mlynedd. ANWYD ef Mawrth 8fed, 1804, rnewn fferrndy o'r enw Gellillyndu, plwyf Llan- ddewi-brefi, Sir Aberteifi. Yr oedd yn hanu o linach enwog am eu crefydd, ac yr oedd ei hynafiaid am oesoedd o'i flaen yn grefrddol. Enwau ei rieni oedd Dafydd a Margaret Evans. Yr oedd ei dad, Dafydd Evans, yn aelod gyda Rowlands, Llangeitho, er yn bur ieuanc, a'i daid o ochr ei dad yn un o'r rhai oedd gyda Rowlands yn cynal y society gyntaf erioed a gynaliwyd yn eglwys LÌangeitho. Derbyniwyd ei fam, Mar- garet Evans, yn aelod gan RowJands pan yn ddeuddeg oed. Yr oedd hithau yn hanu o hyn- afiaid oeddynt yn ddiarebol am eu crefyddolder a'u lletygarwch, ac yn flaenllaw gyda chrefydd er dyddiau Walter Garadoc neu Cradoc. Yr oedd Margaret, fel ei hynafiaid, yn nodediç am ei chrefyddolder, a'i hyddysgedd yn yr Ysgryth- yrau. Os dygwyddai i bregethwr ar ei bregeth, gamddyfynu cyfran o'r Ysgrythyr, ni phetrusai ei argyhoeddi a'i gywiro yn gyhoeddus ar ganol ei bregeth. Galwai y Parch. Ebenezer Richards hi yn un "hynod yn mysg yr apostolion," gan gyfeirio at ymadrodd Paul am Junia (Rhuf. xvi. 7). Pau oedd Evan Evans yn faban, cafodd y frech wen yn drwm iawn, a chollodd oleu ei lygad chwith yr adeg hono. Bu agos iddo golli ei fraich ddeheu hefyd, a phenderfynodd y medd- ygon ei thori ymaith, ond gwrthododd ei rieni ganiatau i hyny gael ei wneyd, a daeth yn mhen amser agos cystal a'r llall, er fod ei law ddeheu ychydig yn llai o faint a'i fraich ddeheu ychydig yn wanach na'r aswy tra bu byw. Bu yn wanaidd o iechyd a bychan o gorff nes oecld tua phymtheg oed, pryd y cryfhaodd ac y tyf- odd i fod y talaf o'r teulu, er nad oedd wedi hyny ond dyn o gorffolaeth bychan. Arferai ddyweyd yn ei ddull ffraeth :—" Deuwn yn ddynion mawr rywbryd. Yr wyf fi yn dalach na'm tad, yr hwn oedd dalach na'i dad yntau. Tuag i fyny y'm ni'n myn'd o hyd ! " Hynodid ef pan yn blentyn fel un gwrol a diofn er mor eiddil, ac am gyflymdra ei amgyff- rediad a'i allu i ddysgu a chofio. Dysgodd ddarllen cyn ei fod mewn oedran i gofio hyny, a'r cof cyntaf oedd ganddo am hyny oedd, ei fod yn cael ei symud i ddosbarth y Testamentau yn yr Ysgol Sul. Arferai ef a'i frodyr, pan yn ieuainc iawn, adrodd penodau ar ddechreu oed- faon yn hen gapel Llangeitho. Pan oedd yn wyth oed, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o'r eglwys tuno, er nad oedd y Methodistiaid y pryd hwnw yn arfer dwyn plant i fyny yn yr eglwys, nac yn eu derbyn i aelodaeth mor ieuanc a hyn. Ond aeth ef o hono ei hun i geisio aelodaeth, a derbyniwyd ef, gan nad oedd amheuaeth yn meddwl neb o'r eglwys fod ei feddwl yn ddigon goleuedig, a'i amgyffredion yn ddigon clir i wybod a deall pwysigrwydd yr hyn oedd yn ei wneyd. Cyn ei dderbyn, cafodd ei holi yn fanwl yn nghylch amcan a natur y Sacrament, a rhoddodd atebion boddhaol. Dywedai y diweddar Bamh. D. Hughes, Llanelli, yr hwn oedd ychydig flwyddi yn hŷn nag ef, a'r hwn a'i adwaenai er yn blentyn, ei fod " fel Jeremiah, Ioan Fedyddiwr, a Thimotheus, â gras yn dormant yn ei galon pan yn faban, a chyn i'w ddeall ddadblygu." Tynodd sylw yn fuan fel adroddwr penigamp, ac Ysgrythyrwr hyddysg. Wedi tyfu yn fach- genyn, gosodwyd ef i fugeilio y praidd, a gweithio yn ol ei allu ar y fferm, ac ni chafodd ond ychydig o fanteision addysg, oddieithr am- bell i dri mis yn y gauaf. Pan gaffai y cyfleus- derau hyn, yfai ddysgeidiaeth fel dwfr, a phar- häai i astudio bob cyfle a gaffai pan nad oedd yn yrysgol. Pan yn ugain oed aeth i Pontypool, Sir Fynwy, i gadw ysgol. Tra yno, astudiodd mor galed yn ei lety, nes gwanhau ei iechyd, a gorfu iddo fyned yn ol gartref y flwyddyn ganlynol. Pan gartref yr adeg hon, anogwyd ef i ddechreu pregethu gan y Parch. Ebenezer Richards, yr hwn a gymerai ddyddordeb mawr ynddo, a'r Parch. J. Williams, Lledrod, yr hwn oedd y pryd hwnw yn byw yn Llangeitho. Yn 1826 dychwelodd drachefn i Sir Fynwy, ac aeth i gadw ysgol i Goetre, ardal rhwng Pontypool ac Abergafenni, lle yr arosodd ddwy flynedd ; yna symudodd i Nantyglo. Tra yn y Goetre, daeth i adnabyddiaeth a theulu Ẅilíiam Yalentine, * Sylw.—Mewn rhifyn dyfodol bwriedir cyhoeddi darlun cywir o wrthddrych yr ysgrif hon.