Skip to main content

Cyf. VII.—Rhií 5.—Chwefeoe, 1887. CYFATLL-YE-AELWYD: O FARW YN FYW. GAN ALEXANDBE DÜMAS. (Cyfaddasiad arlmig i Gypaill ye Aelwyd gan Allttjd Gwent.) Penod XXIII—Gweesyll Luigi Vampa. DEALLODD Franz yr holl belynt yn drwy- adl wedi darllen yr ol-ysgrif hon. Yr oedd ei gyfaill Albert wedi syrthio i ddwylaw y penaeth ysbeilwyr enwog ag yr oedd wedi bod mor gyndyn i gredu yn ei fodolaeth. Ond nid oedd dim amser i'w golli. Aeth i ddesc ei gyfaill, chwiliodd ei logell-lyfr, cyfrifodd yr ar- ian gafodd yno, rhoddodd ei arian ei hun atynt, a chafodd ei fod eto yn fyr o'r swm gofynol o tua wyth cant o piastres. Tybiodd y gallai ddi- bynu ar M. 'iorlonia, yr arianydd, i gyflenwi y diffyg. Yr oedd ar fedr cychwyn yn ol i balas Bracciano i"w geisio, ac i ddyweyd ei helynt, pan y cofiodd am y Count Monte Cristo. Galw- odd am Pastrini, y gwestywr, a gofynodd iddo a ydoedd y boneddwr hwnw yn y ty. " Ydyw," atebai Pastrini, " mae newydd dd'od i mewn." " A ydyw wedi myned i orphwys ?" "Nacydyw." " Ewch, ynte, i ofyn iddo a gaf fi ei weled am ychydig fynydau." Aeth Pastrini, a dychwel- odd yn fuan gyda'r genadwri fod y Count yn barod i'w dderbyn. Aeth Franz i ystafelloedd y Count, yr hwn a'i derbyniodd yn wresawus, gan ofyn iddo,— " Pa ffawd dda a'ch dygodd yma yr amser hyn o'r nos 1 A wnewch swpera gyda mi ? Bydd yn dda eenyf gael eich cwmni." " Na," ebe Franz, " yr wyf wedi d'od ar neges bwysig iawn," ac estynodd lythyr ei gyfaill iddo, gan ddyweyd, " Darllenwch hwna." " Ha ! " ebe'r Count wedi iddo ddarllen. "Betb ydych yn dybied o hono?" gofynai Franz yn bryderus. " A ydyw yr arian gofynol genych ?" gofynai y Count. "Ydynt,oddigerth rhyw wyth cantopiastres" Gosododd y Count gist iechan yn llawn o aur ar y bwrdd o fiaen Franz, a dywedodd,— "Gobeithio na thramgwyddwch fi trwy fyned at neb arall i ofyn help, ond ataf fi." " Yr ydwyf wedi dyfod atoch chwi yn ddi- oed, fel y gwelwcb," atebai Franz. 11 Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am eich ym- ddiried ynof, cymerwch gymaint a fynoch o'r gist yna." " A ydyw yn anhebgorol, ynte, i ni dalu yr arian hyn i Luigi Vampa'? " gofynai Franz, gan syllu yn ei wyneb. " Barnwch chwi," oedd yr ateb. " Mae yr ol- ysgrif yn ddigon diamwys a phendant." " Ydyw, ond yr wyf yn credu y gallech chwi gael ffordd i'w ryddhau ar delerau esmwytbach." "Pa fodd hyny?" gofynai y Count mewn syndod. " Pe baem yn myned ein dau at Vampa, yr wyf yn sicr na wrthodai efe ei ryddhau ar eich cais chwi." " Pa ddylanwad all fod genyf fi ar y penaeth ysbeilgar ì" " Onid ydych wedi gwneyd cymwynas fawr iddo, trwy gael arbediad bywyd i Peppino ?" <(Ha !" ebe'r Count. " Pwy ddywedodd hyny wrthych ?" " Ni waeth pwy, yr wyf yn gwybod mai felly y mae." Safodd y Count mewn dystawrwydd am enyd, yna gofynodd,—" Pe awn i at Vampa, a ddeuech chwi gyda mi ?" " Deuwn; os na fyddai fy nghwmni yn an- nerbyniol." " O'r goreu ; mae hi'n noson hyfryd, a bydd tro oddiallan i'r muriau yn llesiol i ni ein dau." " A fydd angen arfau arnom, neu ariau ì" "Na, ni bydd angen y naill na'r llall. Yn mha le mae'r dyn ddygodd y llythyr i chwi ?" " Yn yr ystryd, yn dysgwyl yr atebiad." " Rhaid i mi gael gwybod i ba le yr ydym yn myned : mi a'i galwaf yma." " Ni fyddwch ddim gwell: gwrthododd ddyfod i'r ty gyda mi." " Fe allai hyny; ond ni wrthyd ddyfod i'm ystafelloedd i." Áeth y Count at y ffenestr agored, a rhoddodd chwibaniad mewn dull neill- duol. Daeth dyn allan o gysgod y mur i ganol yr heol, ac edrychodd i fyny. " Dewch yma! " ebe y Count, fel pe bae yn rhoddi gorchymyn i un o'i weision ei hun. Llamodd y dyn i'r ty, ac i fyny y grisiau yn ddioed, a gwnaeth ei ym- ddangosiad wrth ddrws yr ystafell.