Skip to main content

CYFAILL YR AELWYD. 113 I'r Fanon Buddug erfynir—Oes hir Ar sedd ein Hynysdir; Ei chlod o'i hôl fytholir Ar lafar geirlyfr y Gwir. Nathan Dyfed. Yr ydym yn dysgwyl atebiad i Hol. 115 oddi- wrth rai o'n gohebwyr galluog o'r Gogledd, ac yn neillduol am ychydig o hanes " Perthi Ohwareu," ger Llandegla, oddiwrth y ffyddlon H. Myllin. Cadrawd. holiadau. 130.—Dygwyddodd i mi glywed gair yn cael ei ddefnyddio yn ddiweddar am y waith gyntaf, a chefais ei fod yn arferedig yn y Gogledd, sef Rhagatt. Dywedwyd wrthyf hefyd fod lle yn Swydd Dinbych o'r enw " Berth-Rhagatt." Carwn yn fawr wybod yn mha ystyr ei defnyddir, a pha beth mae yn ei arwyddo 1 Deheuwr. 131. Pwy, a pha ryw gymeriad ydoedd " Colyn üolphin î" Yr wyf yn dygwydd weithiau dd'od ar draws ei euw. Teimlwn yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth yn ei gylch. Morriston. Hen Fab. Atebion. 11 Y Mis Mêl" (Hol. 103).—Gelwid y mis cyntaf ar ol priodi gan y Teutoniaid, neu frodor- ion gogleddbarthau Ewrop, oddiwrth arferiad yn eu plith—ar fod i'r pâr ieuanc wedi eu priodas yfed mêdd am ddeng niwrnod ar hugain yn olynol, a hyny fu, mae yn debyg, yn achlysur Íalw y cyfnod hwnw yn fis, neu yn Lleuad fel. )ywedir am un o'r enw Attila, iddo ddyfoli ar y mêdd gymaint yn nbymor ei briodas, nes iddo farw o'r herwydd. Mae y " mis môl" yn bre- senol yn arwyddo yr un tymor, neu hyny a dreulir gan y rhai fyddo newydd briodi oddi- cartref. Fenffotdd. Un wedi ei dreulio. HoLiad 127 (tudal. 76, Cyf. VII.).—Mae yn dda genyf gael cyüeusdra i ddyweyd yr ychydig wyf yn ei wybod am Llewelyn Prichard, awdwr " Hanes Twm Sion Catti," mewn atebiad i ** Pabi" yn yr " Holiadur" am Ragfyr diweddaf. Mae coffadwriaeth Llewelyn Prichard yn teil- yngu gwel) sylw nag mae eto wedi ei dderbyn oddiar law ei gydgenedl, y Cymry. Ni wnaeth nemawr un yn ystod y ganrif bresenol wasan- aethu ei genedl yn ffyddlonach, ond fel y Bardd o Glan y Gors, nid oes nemawr sylw wedi cael ei dalu i'w goffadwriaeth. Nid wyf yn gwybod o ba le yr oedd yn ened- igol, nac ychwaith pa fath ddygiad i fyny gafodd ; mae yn rhaid ei fod pau yn ieuanc wedi derbyn addysg dda.ac mae y ffaith ei fod wedi cyhoeddi ei weithiau yn Seisnig yn brawf o hyny. Cyhoedd- wyd yr argraffìad cyntaf o " Twm Sion Catti" yn Aberystwyth, yn y fìwyddyn 1828, dros yr awdwr, gan un John Cox. Argraffwyd ef yr ail waith, yn y Bontfaen, gan J. T. Jones. Mae yr argraffìad hwn yn gytìawnach na'r un blaenorol, ac ar daflen ar ddiwedd y gyfrol hon, gwneir yr hysbysiad a ganlyn:— " Wi rks ready. prepaiingfor the. Press, oy the Author of ' 7Wt Sion CattL' " 1. A Tale of the Times of Terror, and specimens of an unpublished work, to be entitled the Worthies of Wales, &c. " 2. The Points and Poetry of the Welsh Watering Places and other Cambrian haunts of pleasures. " 3. The Dolorous Doings and Merry Mishaps of 'DicSionDafydd.' " 4. The life and adventures of Will y Tee Heer (Wil o'r Ty Hir), the Wehh Smuggler." Nid wyf yn gwybod pa un a gyhoeddwyd un o'r gweithiau uchod; os do, nid wyf eto wedi d'od o hyd iddynt. Cyhoeddwyd ei gerdd, " Cantref y Gwaelod " ; hefyd, casgliad o fardd- oniaeth a alwodd " The Cambrian Wreath " ; " Heroines of Welsh History" ; yn nghyd â " Guide to Aberystwyth." Clywsom iddo dreulio y rhan ddiweddaf o'i oes yn Abertawe, ac iddo ddyoddef dygn dlodi, ac oni bae am ^haeledd un neu ddau o gyfeillion haelionus, buasai wedi gorfod diweddu ei yrfa yn y Worhhouse. Ei gyfaill goreu oedd tafarnwr cenedlgarol yn y dref uchod. Caraswn fod yn gwybod enw y Samariad da hwnw, hwyrach y gall rhai o ddarllenwyr y Cyfaill sydd yn byw yn nghymydogaeth Abertawe ein hysbysu mewn rhifyn dyfodol. Bu farw rhywle tua'r flwyddyn 1874, neu 1875, a chladdwyd ef yn mynwent y Tabernacle, lle y dylai cofnodiad o'r amgylchiad fod yn nghadw. Pwy eto wna gymeryd arno i chwilio ì Dywedwyd wrthyf gan gyfaill sydd yn byw yn awr yn Llundain fod ei bapyrau, a'r byn a adawodd arol o'i weithiau anghyhoeddedig, yn meddiant boneddwr yn byw yn Page-street, Abertawe. Tybed a ydyw yn bosibl d'od o hyd iddynt ì Os oes gan rai o'n gohebwyr ar yr Aelwyd unrhyw adgof, neu ychwaneg i'w ddyweyd am Llewelyn Prichard, bydd iddo wresaw calon ei draethu yn y golofn hon. Beth am Nathan Dyfed ì Cadrawd. *** Hywel Dda (Hol. 128, tudal. 76, Cyf. VII.).— Mewn atebiad i ofyniad Hywel, Penyrbeol, yn nghylch—Pwy oedd Hywel Dda, a pha beth ddarfu iddo wneyd i gael ei alw feíly, ac yn mha ganrif yr oedd yn bodoli? ceisiwn roddi ychydig bach o'i hanes i ohebydd Penyrheol; ac os caiff ei foddloni, byddwn wedi cyrhaedd yr amcan oedd genym mewngolwg pan yn cymeryd y pin ysgrifenu yn ein llaw. Nid oes genym ddefnyddiau wrth law ar hyn o bryd a'n galluoga i ddyweyd yn mha le a pha bryd y ganed Hywel Dda ; ond dywed hanes- iaeth wrthym mai un o ddeiliaid cywir y ddegfed ganrif oedd, mai efe oedd yr enwocaf o holl djwysogion Cymru, ac iddo ddechreu teyrnasu yn y flwyddyn 940. Dywedir wrthym mai mab i Cadell ab Rhodri Mawr oedd Hywel Dda. Ymddengys yn ol hanesiaeth mai un tywysog a reolai yr oll o Gymru ar y cyntaf, ac i Rodri Mawr. yr hwn ddechreuodd deyrnasu yn y flwyddyn 843, ranu Cymru yn dair rhan, rhwng ei dri mab, sef, Cadell, Anarawd, a Merfyn. Wele ychydig o englynion o waith Dafydd Nanmor yn y flwydd- yn 1450 i'r tri brawd :—