Skip to main content

Cyí. VII.—Rhií 3.—Rhagfyr, 1886. CYFAILL-YR-AELWYD: (SytoeMiftft Wteẁ »* WëmmúU tj <&\jmnj. ADGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL. YSGWYLIEM allu cyhoeddi y parhad o'r ysgrifau dyddorol hyn yn y rhifyn hwn. Yn lle hyny mae genym i hysbysu nad yw yr awdwr hybarch ei hun erbyn hyn yn ddim ond Adgof; canys mae EVANS NANTYGLO WEDI MARW ! Bu farw yn nhŷ ei ferch a'i fab-yn-nghyfraith yn Curtis, Arkansas, Unol Daleithiau America, dydd Gwener, Hydref 2oain, 1886. Yr oedd wedi dyoddef cystudd trwm am dri mis, ond bu farw mewn ystyr " yn yr harnais." Buasai wedi dychwelyd at ei dylwyth i Ohio oni bae ei fod yn aros i ddysgwyl dyfodiad dyn ieuanc i ofalu am yr achos Crefyddol yn yr ardal. Yn y llythyr diweddaf ysgrifenodd, bythefnos cyn ei farw, soniai am yr " Adgofion," a'i fwriad i'w parhau. Fel y gwelir dygodd ei " Adgofion" i lawr hyd amser ei garwriaeth yn unig. Aeddfedwyd y garwriaeth trwy briodas, a bu ef a'i gariad cyntaf yn byw yn hapus a chariadus gyda'u gilydd am dros haner can' mlynedd. Claddwyd hi ddechreu'r flwyddyn hon. Er iddo gael ei ran o helbulon, un chwerwedd mawr gafodd yn ystod ei oes, a bu farw yn ddiamheu gan deimlo ei fod wedi cael cam, a bod y cam a'r anghyfiawnder hwnw heb ei gywiro. Mae mynych gyfeir- iadau yn ei " Adgofion" at yr amgylchiad fu yn chwerwedd ei oes. Erbyn heddyw mae efe uwch cyrhaedd pob anghyfiawnder. Gan nad beth allai fod ei ffaeleddau, fFaeleddau gonestrwydd argy- hoeddiad oeddynt, a bydd pawb a'i hadwaenai yn cydnabod na bu gon- estach, cywirach, na mwy cydwybodol dyn o flaen y cyhoedd erioed. Saif ei enw yn gysegredig yn mhlith noddwyr blaenaf yr Ysgol Sul, a sefydlwyr cyntaf Dirwestiaeth yn Nghymru. Bu ei enw yn hir yn air teuluaidd drwy Gymru benbaladr. Ei le nid edwyn ddim o hono ef mwyach. Eto, yn ei fywyd diar- gyhoedd, yn ei lafur diflino, yn ogystal ag yn ei ysgrifeniadau, wele y mae efe, er wedi marw, yn llefaru eto. " O ! Fy nhad, fy nhad ! Cerbyd Israel a'i farchogion ! " ■*