Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. VII.—Rhif 2.—Taohwedd, 1886. CYFAILL-YR-AELWYD: ADGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL Y DRYDEDD GYFRES. Gan y Paech. Evan Evans (Nantyglo). Y Pabch. D. Williams, Pontmorlais—Dadl Athraw- iaethol—Beio'r Cyffes Ffydd—Y Parch. James HüGHES A D. WlLLIAMS—CAMSYNIED EHYDDERCH — CeFNOGWR RHY BAROD—DlARDDEL EGLWYS GYFAN ! — gwrthod debbyn y pregethwr yn aelod—dechreu yr achos annibynol yn adulam---tori calon gwr da — magl cenad duw—esboniwr rhyfedd !—caru gwyllt—Mrs. Elizabeth Williams, Ehymney, a'i Chyngor—Myn'û I garu—Caru ar ol Brecwast yn LLE AR OL SWPER. ^AETHUM yn dra chydnabyddus â Mr. Williams, gan fod genyf lawer o serch at yr Ysgol Sabbothol, ac yntau yn o amlwg gyda hi heblaw fod ei bregethau yn nerthol, ac yn fwy athrawiaethol na'r cyffredin. Tebygol i D. Ẅilliams gael ei droi o'r neilldu gan y Oorff mewn dull ac ysbryd nad yw egwyddor yr Efengyl yn ei gymeradwyo. Nià oedd dim cyhuddiad neillduol yn erbyn ei fuchedd, a barnwyd am y pwnc athrawiaethol fu yn achos o'r derfysg, nad oedd ddim yn groes i'r "Cyffes Ffydd;" ac yr oedd yntau wedi gwneyd llawer o ddaioni yn ei weinidogaeth, ac yn egwyddoriad yr ieuenctyd, ond yr oedd yn dlawd. Gwyddom am rai wnaeth lai o ddaioni nag ef, a mwy llawdrwm ac ystyfnig, ond â swm helaeth o ras yn eu pocedau (beth bynag am eu calonau), yn cael eu goddef a'u parchu. Terfysg yn eglwys Merthyr oedd yr achos, a'r hyn barodd y derfysg oedd fod D. Williams yn pregethu fod Crist wedi prynu bendithion ysbrydol a daearol y cyfamod, a rhai oedd yn ddadleuwyr medrus yn yr eglwys yn gynddeiriog wyllt yn erbyn y gyfryw athrawiaeth ; yr oedd yntau, o berwydd hyny, yn ei wneyd yn bwnc amlwg yn ei bregethau yn gyffredinol, ac yn arferyd rhai ymadroddion cryfíon iawn (er mwyn yr hyn a eilw boneddwr sydd yn awr yn Casnewydd, Mynwy, yn " Gario'r Dorch,") nes yr aeth yn derfysg drwy yr holl eglwys, a'r ddadl yn lledu i Swydd Fynwy. Yr oeddwn i yr un syniad ag ef am brynu y bendithion, ond yn gochel defn- yddio yr un termau ag ef er mwyn gochel dadl. Yr oedd rhai o ddoethion Pen-y-cae yn boeth yn erbyn yr athrawiaethj ao os dygwyddai i m: roddi i'w ganu un o benillion Williaais Panty- celyn a fyddai yn cyfeirio at hyny—megys, "Prynu'm bywyd, talu'm dyled," &c, gelwid fi i gyfrif ar ol yr oedfa. Pan ddywedwn mai rhoi'r penill fel yr oedd yr awdwr wedi ei roddi yr oeddwn, dywedent na ddylaswn roddi penill o'r fath i'w ganu, ond mai hyny oedd fy marn i. Pan ddywedem nad oeddwn yn arfer y term " Prynu'r bendithion," ond yr un geiriau a'r "Cyffes Ffydd," sef mai "trwy y Prynwr a trwy y prynedigaeth yr oeddynt yn dyfod," elai rhai o honynt mor bell a dyweyd nad oedd y " Cyffes Ffydd " yn iawn, mai hen bobl dda heb erioed astudio ystyr geiriau oedd wedi ei wneyd, ac y dylasid newid yr ymadrodd hwnw ynddo. Pan ofynwn a oeddent ddim yn arfer dyweyd " Er mwyn Crist" wrth ddiolch am eu bwyd, a pha fodd yr oeddent yn deall Eph. v. 20, a Col. iii. 17? dywedent nadoedd hynyddim yn cynwys mai trwy brynedigaeth yr oeddynt yn dyfod, a bod y geiriau yn y " Cyffes Ffydd " yn anmhriodol. Yr oedd rhai o'r personau hyny yn mhen llawer o fiynyddoedd wedi hyn yn mysg y prif erlidwyr a fynasant derfysgu fy sefyllfa, a'm colîedu o ganoedd o bunoedd, er nad oedd arnaf ddim swllt iddynt hwy na neb o'u perthynasau. Ond i ddychwelyd at hanes D. Williams. Yr oedd y Parch. James Hughes, Llundain, yn wa- hanol ei farn ar y pwnc i D. Williams, ond nid oedd yn arfer dadleu arno ; ond gan ei fod yn fardd, cyffyrddodd ag ef mewn rhyw gân,yr hon argraffwyd yn rhyw gyhoeddiad. Yr oedd un penill ynddi yn dechreu fel hyn :— " Nid y nefoedd na'r bendithion Brynodd Iesu ar y groes ; Ond fe brynodd fyrdd o ddynion Pan ddyoddefodd angeu loes." Yr oedd D. Williams yn Tredegar ar Sabboth, a phregethodd ar y pwnc gyda dylanwad mwy na chyffredin. Yr oedd yno hen wr duwiol o'r enw Ëhydderch, yr hwn yr oedd cynhesrwydd ei deimlad yn amlycach na eangder ei wybodaeth ; a byddai yn aml, pan wedi teimlo dan y bregeth,