Skip to main content

Cff. VII.— RaiF 1,—Hîdäbf, 1836. CYFATLL-YE-AELWYD: ^ìnot&AM ffliwl flt mtmmttu s «s»»9- ADGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITBASOL, A CHREFYDDOL Y DRYDEDD GYFRES. Gan y Paech. Evan Evans (Nantyglo). Llith I. GWEITHIO YN RHY GALED—HANFODION ATHRAWIAETH YR Efengyl—Y Ffordd i gael Ychain Cryfion—Cwest- iwn Cynil !—Llanw lle Brawd—Llediaith Gern- ywaeg Llaneirwg—Edward Costlett—Sefydliad y Cernywiaid yn y Morfa Glas — Whilbobyn I Swper !—Y Fanw yn y Gwrlod !—Angen Cymdeith- as yr Iaith Gernywaeg er's Ugain Mlynedd yn ol —Y Camsyniad am Dorothy Penarth—Melldithion Dolly — Rhagfarn — Undeb Ysgolion Cyntefig— " DWEYD ClATH YN NAIS FEL NI ! "—DECHREU TaFLU Llygad Sly—Cydmares o ach Rufeinig—" Swper ClG MAN Y BANW "—Yr UN ENW A'R D-------L ! HYSBYSAIS o'r blaen i mi fyned yn 1824 i Bontypool (Pont ap Hywel), Swydd Fynwy, i gadw ysgol. Gan nad oeddwn wedi cael ond ycbydig fanteision, ymroddais i astudio fore a nos yn fy llety, er mwyn dyfod yn fwy cymhwys fel athraw ysgol ; a hefyd yr oeddwn yr un amser yn astudio mewn gwybodaeth Feibl- ig, ac, i raddau, mewn duwinyddiaeth. Rhwng yr oll, darfu i mi, fel Uawer o bobl ieuainc, ym- drechu mwy nag a allai fy nghyfansoddiad ddal, oblegid gwanaidd oeddwn er paa yn blent?n ; wedi cyrhaedd tua chanol oed daeth fy iechyd yn sefydlog. 0 herwydd gorlafur gwaelodd 'fy iechyd, fel y gorfu i mi ddychwelyd i dy fy nhad cyn diwedd y flwyddyn ganlynol, a bum agos blwyddj n gartref, ac yn y flwyddyn hono de- chreuais bregethu yn Llangeitho. Yr oedd y Parcb. John Williams, Llethrod, er's blynydd- oedd yn trigianu gyda'i fab mewn fferm c'r enw Pentre Padarn, tua dwy filltir neu ychydig llai o'r capel. Bum gydag ef yn ei gartref rai gweithiau yu ymgynghori ag ef yn nghylch myned i bregethu. Holai fì yn nghylch pa Iyfrau oedd genyf, a chan fy mod yn brin o lyfrau, cy- nghorai fi i ymgydnabyddu yn fanwl â Hyffcrdd- wr Charles a Chatecism Jones, Llanddowror, y cawn yn y ddau hyny holl hanfodion athrawiaeth yr efengyl, ac y gallent fod yn guìde i mi i'm c.adw rhag myned ar gyfeiliorn wrth ddarllen Uawer llyfr oedd yn cael ei ganmol. Dywedais Jod yr Hyfforddwr oll ar fy nghof,"a ílawer o Gatecism Jones hefyd. Wedi dwyn y mater^i gyfarfod y blaenoriaid a'r pregethwyr, yr hwn gedwid yn fisol, penderfynwyd yno ei ddwyn ger bron yr eglwys, a chael y Parch. Ebenezer Richards gyda Mr. Williams i'm holi. Yn ol yr arfer yn Llangeitho, yr oedd y gyfeillach ar ddydd Mercher a phregeth o'i blaen, ac i mi gael fy holi y pryd hwnw, ac felly y bu. Yr oedd Mr. Ẅilliams yn llawn bywiogrwydd, ac yn holi rhyw bethau yn o fanwl, ac yn dyweyd, "Mae arnaf chwant yn fy nghalon fagu'r lloi yn dda ; fel hyny cawn ychen cryfion." Yr oedd Mr. Richard yn f\vy pwyllog, ond yn fwy dwfn ; ond gwyddai pa faint allwn ddal, gan ei fod gymaint gyda holi yr ysgolion Sabbothol, a minau yn mysg yr atebwyr, ac yn gorfod bod yn y ffront y rhan amlaf. Wedi holi a fwriadent, gorchy- mynwyd i mi fyned allan i dy y capel tra bydd- ent yn ymddyddan â'r eglwys yn_ fy nghylch. Yn mhen enyd anfonwyd i'm galw i mewn dra- chefn, a ûywedwyd fod yr eglwys yn ewyllysio fy nghynyg i'r Öyfarfod Misol yn ol y rheol, a gofynwyd rhyw bethau amgylchiadol i mi drachefn, ac, yn mysg pethau ereill, A oeddwn wedi ymgredu a neb merch ieuanc—y dichon y gofynid hyny iddynt pan ddygent fy achos i'r Owrdd Misol—i'r hyn yr atebais yn nacaol, gan ddyweyd na bum erioed yn siarad â neb ar y pen hwnw, nid oddiar feddwl treulio fy oes yn sengl, ond fy mod yn anghymeradwyo dull yr ieuenctyd yn ymgyfeillachu yn gellweirus ac anwadal cyn sefydlu eu meddwl ar neb i'w chy- meryd os gwnai gydsynio. Dygodd y Parchn. Williams a Richards fy achos i'r Cwrdd Misol ; ac wedi cael eu cenad pregethais fy mhregeth gyntaf ar nos o'r wythnos mewn ty fferm o'r enw Gellihir, lle cynelid cwrdd gweddi yn fisol, a'r nos Sabboth yn nghapel Llangeitho. ^ua diwedd y fiwyddyn daeth galwad i mi fyned i Tredegar, Swydd Fynwy, i gymeryd gofal ysgol go luosog a gedwid yno gan Pafydd fy mrawd, tra byddai ef yn dyfod adref i gael seibianttros amser. Pan ddychweloddfymrawd yr'oeddwn yn cael fy rhyddhau i edrych am ]e i mi.fy^hun. Gtx îo'à Cyfarfod Misol y Method-