Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cmbes VI.—Rhif 12,—Medi, 1886, CYFAILL-YR-AELWYD: ADG0FI0N PEDWAR ÜGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIADAU YN Y BYP CELFYDDYPOD, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL AIL GYFEES. Gan y Parch. Evan Eyans (Nantyglo). Llith XI. Anfanteision Addysgol—Y Paech. Edward Jones, P.Ph.A.—Dyfyniadau dyddorol o'i Gofiant—Llyfr Gweddi y Methodistiaid !—Ar goll yn y Daflod— cwch gwenyn yn talu am yr ysgol—" mae gan yr Arglwydd rywbeth i ti WNEYD ! "—Myned i'r Ysgol am Bedwar o'r Gloch y Boreu—Pregethwr neu Deiliwr—Effaith annysgwyliadwy Amen— Bod yn gynil ar y bara—y ddafad ddu ddwy troed—llys barn byrfyfr—y düedfryd. AN fy mod, drwy gael fy arwain o'r naill beth i'r Uall, wedi son am bregethwyr, &c, darjgosaf rai o'r anhawsderau yr oedd llawer o fechgyn tlodion yn gorfod myned trwyddynt er's tua thriugain mlynedd ac uchod yn ol er cael addysg athrofaol pan wedi dechreu pregethu, trwy osod gerbron ddyfynion o Gofiant y diweddar Barch. Edward Jones, P.Ph.A., Portsmouth, Ohio, America, genedigol o Swydd Aberteifi, Cymru, yr hwn Gofiant gyfansoddwyd o'i lawysgrifau Huosog ef ei hun. Gwraig weddw mewn sefyllfa isel, drafferthus, oedd ei fam, yn dal tyddyn bychan ar ochr Plynlumon, ac ei hunan yn gwneyd y gorchwylion o aredig, a hau, a medi, a chywain, a dyrnu, &c. Pa beth feddyliai boüeddesau yr oes hon am wneydfelly? Ond gallodd o'i phrinder helpu Edward i gael dysgu crefft dilledydd, a chyn hyny roi ambell gwarter yn y gauaf iddo fyned i ysgol wledig, tra y rhwymid ef y gweddill o'r fiwyddyn feí bugail, &c, gyda ffermwyr, lle weithiau y cai driniaeth go galed. Yr oedd ganddi amryw blant, ac oll yn gorfod gwneyd goreu y gellid. Dysgodd ei fam ef i ddarllen Cymraeg, trwy ddysgu'r llythyrenau a silliadau yn " Llyfr y Ficer." Nid oedd ganddi Iyfr at ddysgu plant, nac un llyfr arall ond Béibl; ac, wrth reswm, ni roddai hwnw i'w halogi gan dtíwylaw plentyn. Yr oedd hyn tua 90 mlynedd yn ol. Ganwyd efyn 1793. Dy weiir :—" Parai iddo seinio'r llythyrenau yn uchel, a'u rhoddi at eu gilydd i wneyd geiriau, pan byddai hi yn nyddu, a daeth yn fuan yn ddarllenwr rhwydd. Nid oedd Ysgol Sabbothol yn y gymydogaeth y pryd hwnw. Pan wybu y cymydogion ei fod yn medru darllen, daeth amryw wragedd anllythyrenog ato i geisio ganddo ddarllen ' Llyfr y Ficer' iddynt ; darllenodd yntau ddarnau dyddorol, megys 'Canmoliaeth gwraig dda,' ' Y diafol a'r meddwyn/ 'Cynghor Deifes i'w bum' brodyr,' a'r cyffelyb. Ymddengys fod tuedd grefyddol yn y gwragedd anllythyrenog hyny, a thybient hefyd fod y bachgen bach yn ddysgedig iawn." " Pan yn ddeng mlwydd oed, cafodd fyned i'r ysgol yn y gauaf, a chan ei fod yn dysgu yn dda, addawodd ei fam wrtho os gallai fyned i'r Spelling Booìc yn fuan, y rhoddai chwe' cheiniog iddo. Ymdrechodd yntau, a chyrhaeddodd y nod, ond yr oedd ei fam yn methu cael arian i brynu Spelling Bocìc, nac hyd yn nod i dalu y chwe' cheiniog ; aeth yntau i weddio am lyfr, a rhoddwyd benthyg Common Prayer iddo, a chafodd ddefnyddio hwnw yn lle Spelling Boolc. Ychydig wyr plant yr oes hon am yr anhaws- derau yr oedd plant er's pedwar ugain mlynedd yn ol yn orfod ymdrechu yn eu herbyn i allu cael ychydig ysgol i ddysgu darllen ac ysgrifenu." " Gan mai yn eglwys y plwyf yr oedd ei fam yn aelod, a'i bod o ysbryd crefyddol, anogodd ef i gynal addoliad teuluaidd nos a boreu, a gofyn bendith ar y bwyd trwy ddefnyddio y Llyfr Gweddi Cyffredin. . . . Byddai yn dda^ i rieni ac ereill gymeryd gwers oddiwrth y wraig hono i gyfarwyddo plant a rhai gweiniaid i ddechreu trwy ddysgu ar eu cof weddi o lyfr i fod fel gocart i blentyn ymsymud cyn bod yn alluog i gerdded. Ond os bydd plentyn dwy- fiwydd yn methu cerdded heb y gocart, mae rhywbeth o'i le. . . . Yr oedd ysgolfeistr wedi dyfod i'r ardal ag oedd yn weddiwr doniol, a chan yr ewyllysiai ei fam i Edward bach fod mor ddoniol ag yntau, ac nas gwyddai fod neb yn gweddio yn gyhoeddus heb lyfr, parodd iddo ofyn i'w feistr am fenthyg ei Lyfr Gweddi. Gwênodd ei feistr, a rhoddodd "Hyfforddwr" Charles o'r Bala iddo, gan ddweyd mai hwnw oedd yr un goreu oedd ganddo. Aeth yntau âg ef adref yn llawen; ond wedi edrych drosto, methodd weled un weddi ynddo. Achwynodd