Skip to main content

Cyfbes VI.—Rhif 11.—Awst, 1886. CYFATLL ■ YE • AELWYD: ADGOFION PEDWAR ÜGAIN MLYNEDD AM GYFNÉWLDIADAU YN Y EYP CELFYDPYDOL, CYMDEITEASOL, A CBftEFYDDOL AIL GYFBES, Gan y Parcf. Evan Eyans (Nantyglo). Llíthye X. Ymwelydd anrhydeddedig—Teuluyddes drafferth- ÜS —Y FFORDD I FERWI CAWL—GwERS MEWN CyNIL- deb—Y pryd Te cyntìf!—Yr un Feddyginiaeth I Mrs. Pryse, Gogerddan, a buwch Shon Dafydd— Cawl Te,—a Halen ynddo!—Te yn y Drawer!— Tair oes o ymddyddan teuluaidd—Clefyd hynod— Myned ar gefn ceffyl drwy dair sir I GEIBIO potelaid o Ddw'r Llandrindod—Dygwyddiad an- nysgwyliadwy—taith drafferthcs—dlal haedd- edig—Hiliogaeth y Feech o Landrindod—Tad TEULU O OfFEIRIAID—MARW CYN TRAì)DODI Y BREG- eth gyntaf-Y diweddab Babch. D. Hughes, Llan- elli—Yr hyn ddywedai ac a ysprifenai am danaf—tystiolaeth werthfawr. YN 1824, y Nadolig cyntaf wedi i mi fyned i Swydd Fynwy i gadw ysgol, rhoddais rai wythnosau owyliau i'rplant, acaethumi ymwel- ed â'm rhieni ger Llangeitho. Cyfarfu gwraig i fleimwr oedd berthynas i ni â mi pan ar ddydd Mercher yn myned i oedía i'r capel, a gwahodd- odd fi i dreulio diwrnod a noswaith yn eu ty hwy. Ar ol yr oedfa, aeth at fy mam, a dy- wedodd,— "Yr vtyf wedi ceisio gan Evan i ddyfod ì'n ty ni yfory, ond mi warantaí ei fod ef yn arfer yfed te lle mae ef yn awr." *• Ydyw," ebe mam, "mae pawb yno yn yfed te." Ebe hithau, "Wn i ddim ffordd mae ei wneyd, wnaethum i ddim te erioed." Dywedodd fy mam y gwnawn i y te, os oedd hi yn dewis hyny. Ceisiodd y wraig gan mam ddyfod gyda hi i'r shop i'w brynu: prynodd y foneddes wrth gyfarwyddyd fy mam haner wns o de a chwarter pwys o sugr, gan y byddai hyny yn ddigon tra y byddwn i yno, ac mai gwastraff fyddai prynu rhagor, gan nad oedd neb yn eu ty hwy yn defnyddio te. Aethum yno cyn pryd cinio, ac yr oedd y crochan cinio ar y tân, a chig eidion a chig moch a cbloron a moron (carrots) a bresych (cabbage) gyda'u gilydd yn berwi ynddo. Pan ddaeth pryd cinio, cefais gawl mewn phiol bren, a llwy bren i'w yfed, ac yr oedd y cawl o'r gymysgfa hono yn flasus rhagorol, a charwn gael ei fath yn aml pe bae y boneddesau yn ddigon difalch i'w wneyd íelly yn lle gwastraffu trugareddau trwy ferwi'r ffrwyth- au ar wahan, a thaflu'r dwfr ymaith pan mae rhan o rinwedd y ffrwythau ynddo, er na byddai y dwfr y berwid ffrwythau ar eu pen eu hunain yn flasus, heb eu cydferwi â'r cig. Byddai y flrwythau hefyd yn fwy blasus felly. Wedi gor- phen y cawl, cefais gig a'r ffrwythau ar ol hyny. Hyn oedd ein cinio—dau gwrs. Pan yn agos i'r hwyr, dywedodd y wraig, " Mae eich mam wedi dyweyd eich bod yn caeí te Ue yr ydych yn awr ; mae genyf fi de a sugr, ond fedra'i ddim ei wneyd." " 0 mi gwnaf fi e," ebe finau. (Yr oedd mam wedi fy hysbysu ) " Nid oes dim tugell genych, mae yn debyg ; rhoddwch ddwfr ar y tân mewn saucepan, a phlad ar ei hwyneb." Wedi iddo ferwi, gofynais am y te a jug, dangosais iddi ffordd yr oeddwn yn rhoddi'r te, ac yn arllwys y dwfr berwedig arno, yna gofynais am liain sych, glân, a rhoddais ef yn ngenau y jug i gadw yr anwedd i mewn, a cheisiais ganddi ddyfod â dau gawg (hasin) i'r ford, a dwy gyllell fwrdd, iddi gael te gyda mi am dro Yr oedd hi wedi parotoi bara ac ymenyn o fara gwenith da. Arllwysais y te i'r cawgiau, a chymerais y gyllell—gan nad oedd llwyau yn y ty—i roi sugr ynddo a'i gymysgu yn 'fy un i, a cheisiais ganddi hithau wneyd yr un fath yn ei chawg hithau. Ar ol gorphen yfed, dywedodd, " Yn wir, mae yn neis iawn." Bore tranoeth, yr oedd yn medru ei wneyd heb fy help i, a daeth i'w hoífi, ac yn mhen amser daeth i'w arfer ei hun. Wedi dangos yr hyn welais gyda'r te, dichon y bydd yn foddhaol gan bobl yr oes hon i mi adrodd yr hyn a glywais yn ei gylch gan hen bobl pan oeddwn i yn ddyn ieuanc. Dywedai gwr yn Swydd Fynwy, oedd yn enedigol o ardal Llethrod, Swydd Aberteifi, ei fod yn cofio gwraig fiermwr cyfoethog yn y gymydogaeth hono wedi bod yn Aberystwyth yn talu ei chyfrif blyn- yddol yn y masnachdy, a chael pwys o de yn rhodd fel cydnabyddiaeth o'i gofal am dalu yn brydlon; ac iddi wedi dyfod adref ei ddangos