Skip to main content

Cyfres VI.—RniF 10.—Goephenaf, 1886. CYFATLL-YR-AELWYD: ADGOFION PEDWAR ÜGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIAPAU Ytf Y BYP CELFYDDYpOL, ÇYMPEITÖAgOP, A CHREFYPPOL, AIL GYFEES. Gan y Paech. Evan Eyans (Nantvglo). Llythyr IX. Dysgu yr holl Debtament.—Y ffordd i gario Tarw ar eich Cefn.— Cadw Ybgol.— Eisieu Cyjideithab yr Iaith Gyhraeg Driugain Mlyneddynol.—Enill enw Plwyf arall.—Hen Adfeilion.—Help i Breg- ethwr Ieuanc.—Ysbryd Anhywaeth.— Gwarcheid- WAD RHAG Y BwCI.—ElIWNG ÜAU FwCI. —TJn O DDIS- GYNYDDION ASEN BaLAAM.— DaL Y BwCI ! R oedd yn dda genyf weled yn y Tyst ar Dydd rywbryd yn Chwelror diweddaf fod ysgol weithgar Soar, Maesteg, wedi ymgymeryd â'r dull welais mewn bri mawr o driugain i driugain a deg o flycyddoedd yn ol, sef dosbarth o'r ysgol yn dysgu rhyngddynt ar eu cof ryw lyfr oll o'r Hen Destament neu y Newydd, a hefyd adrodd penod wrth ddechreu oedfa yn lle darllen un. Gwn am bersonau yn y cyfnod a enwais wedi dysgu y Testament New- ydd oll ar eu cof, a rhanau hefyd o'r Hen Desta- ment. Meddylia ambell un, 'e ddichon, nas gellir dal cymaint yn y cof, ond camsynied yw hyny ; os cymer un drafferth i ddysgyblu ei gof, gall ddal swm aruthrol ynddo. Mae Dr. Watts yn trin hyn naill ai yn ei " Improvement ofthe Mùii" neu yn ei " Logic" nid wyf yn coüo pa un, meddyliwyf mai yn ei " Logic," ac yn defn- yddio cydmariaeth go ddigrif i egluro y dull: dywedai fod dyn o'r enw Millo yn awyddu am allu cario tarw ar eu gefn, a'r llwybr gymerodd oeid cymeryd llo ieuanc ar ei gefn a'i gario dros awr neu ddwy bob dydd ; ac fel yr oedd y llo yn cynyddu yr oedd ei gefn yntau yn cynefino â'r Ilwyth, a phan ddaeth y llo yn darw yr oedd yntau yn gallu cario tarw. Yr hyn oedd yn cael ei ddangos felly oedd, 1, dechreu ar ychydig ; 2, gofalu rhoi gwaith cymedrol i'r cof bob dydd; 3, cynyddu ychydig ar y gwaith hwnw yn ddyddiol. Heblaw hyna, mae o bwys peidio rhoi cymysgedd o lawer o wahanol bethau i'r cof ar yr un awr o'r d^dd ag y byddir yn dyss;u y benod. Clywais y diweddar Barcb. Ebenezer Richards yn dweyd am hen wraig oedd yn cwyno ei bod yn methu a dysgu dim o'r Beibl ar ei chof; dywedodd yntau ; " Yr ydych chwi, modryb, yn amcanu am ormod ar unwaith ; pa beth feddyliech am ddysgu adnod mewn wyth- nos V "0 yr anwyl!" ebe hithau,"gallaf gymaint a hyny, 'does bosibl ì" Ebe yntau : " Gwnewch brawf ar ddysgu cymaint a hyny yr wythnos hon, a gofalwch beidio ceisio dysgu rhagor tan wythnos i heddyw." Dysgodd yr hen wraig yr adnod yn rhwydd. Yr wythnos ganlynol dysgodd ddwy adnod. Daeth cyn hir i allu dysgu adnod y dydd, ac yn mhen amser i aílu dysgu penod. Yr ydym ni yn camgyhuddo ein cof. Eisieu ei ddwyn tan reol a'i ddysgyblu sydd, fel dofi ych a'i ddwyn i arfer â'r iau yn hwyaith a gwastad yn lle plyco ; neu ebol yn y tresi wedi ei ddysgu i dynu gyda chysondeb. Yn fuan wedi'r tro a nodais gyda'r Parch. E. Richards, aethum i Bontypool (Pont Ap Howel yw y gwir enw), yn swydd Fynwy, i gadw ysgol. Un o'r pethau cyntaf dynodd fy sylw at iaith fratiog y werin yno oedd clywed gwraig nas medrai nemawr Saesneg yn ceisio siarad Saesneg â'r plant, ac un diwrnod yn dweyd wrth ei merch fechan, " Go to shop yn glou, glou, to fetch a pound o fenyn i fi. Make haste yn ol." Yr oedd llawer o blant y Cymry yn y dret a'i chwmpasoedd y pryd hwnw nas medrent siarad na Chymraeg na Saesneg yn briodol—tebyg i'r rhai bu Nehemiah yn plycio eu gwallt (Nehemiah xiii. 24, 25). Yr oedd gweddillion seiliau hen bont Ap Howel i'w gweled y pryd hwnw ychydig uwchlaw cyfer y dref rhwng y bont bresenol sydd wrth odre y dref a Phontnewynydd. Nis gwn pa'm y gelwid y fan hono yn Bontnewynydd, os nad oedd yno ryw wr galluog yn gwasgu y sawl oedd tano nes eu dwyn i eisieu. Pentref yw'r lle hwnw. Pan ddaeth tymhor Nadoüg rhoddais rai wythnosau o wyliau i'r plant, ac aethum adi ef i roi tro. Yr oedd fy nhad y pryd hwuw wedi symud o Gellillyndu, ac yn trigianu yn y Wern uchaf, ychydig i'r gorllewin o Bout Llauio, lle mae yn awr safle (station) ar Reil- ffordd Aberystwyth a Chaerfyrddin. ^Vedi enwi Pont Llanio, caniataer i mi goff hau rhai pethau yn nghylch y lle a'i gwmpasoedd tra