Skip to main content

CmiBa VI,—Rhiî 9.—Mehefin, 1886. CYFAILL-YR-AELWYD: ëÿtnotMM pẅJ at Wnnwti ÿ ẃÿmrjj. ADGOFION PEDWAR ÜGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDBITHASOL, A CHREFYDDOL. AIL GYFEES. Gan y Paech. Eyan Eyans (Nantfglo). Llythyr VIII. DOSBAETHIADAU YsGOLION SABBOTHOL— ÜN D------L YN LLADD Y LLALL !—DaELLENIAD DIWYGIEDIG (?) O BANAU o'r Beibl.—Dylid alltudio pethau anghydnaws o'r Ysgol Sul.— Gwbthwynebiad i'e "Wers."—Cenad- WR YE YSGOL SUL.—CHWAREU TRIC a'r PaRCH. EbEN- ezer Eichards.—Goechfygu'r Doctoriaid yn y Gy- nadledd. ÎRWY drefniant y Parch. Ebenezer Rich- ards yn cael ei gefnogi gan ereill,rhanwyd y sir yn ddosbarthiadau Ysgolion Sab- bothol, pobdosbarth igyfarfod â'n gilydd bob tri mis ; cynadledd i'r athrawon i roddi cyfrif o nifer a llafur eu byegolion y tri mis aethai heibio, ac yna oedfa eyboeddus i holi tair neu bedair o ysgülion. Rhoddodd hyn symbyliad bywiog i'r gwaith. _ Yr cedd rhoi gwybod yn gyhoeddus i gynrychiolwyr ysgolion ereill y dosbarth, nifer y rhai yn y Beiblau ac yn y Testamentau ac islaw hyny, a nifer y penodau adroddwjd o'r Hen Destament ac o'r Newydd, a'r pynciau adrodd- wyd yn y tri mis aethai heibio, yn cyffroi i lafur. Os oedd llawer o hunanoldeb wrth wraidd hyn, yr oedd hefyd lawer o les yn cael ei wneyd. Clywais rai o'r hen bobl, pan oeddwn yn ieuanc, yn dweyd fod Rowlands, Llangeitbo, yn esbonio Paul yn cael swmbwl yn y cnawd fel na'i tra dyrchefid, mai rhoi un d------1 i ladd y llall yr oedd Duw. Felly yma, os oedd y d-----1 o bun- anoldeb yn eu gyru yn mlaen. yr oedd yn lladd y d------1 o esgeulusdod o'r Beibl. Fel hyny meithrinwyd tô o bobl oedd fel Paul yn gedyrn yn yr athrawiaeth (2 Cor. xi. 4—6), ac fel Apolos yn gedyrn yn yr Ysgrythyrau (Act. xviii. 24), a thaenodd goleu y " canwyllau " tros y wlad er fod llawer o bersonau yn mysg y werin o her- wydd diofalwch yn dra anwybodus a disylw. Fel enghreifftiau o hyn, clywais ddyn go huaanol, a ystyriai ei hun yn wybodus, yn darllen y 6fed benod o Ezra, ac yn galw Darius yn Dai Eees ; a merch go respectable oedd wedi cael mwy o ysgol na llawer yn darllen am Herod (Act. xii. 23), " A chan bryfaid yn ei us, efe a drigodd." Meddyliwyf fod mwy o fuddioldeb crefyddol yn y drefn oedd gyda'r pynciau yn y cyfnod hwnw na'r drefn y gwneir yn awr mewn llawer lle; pwnc ar ryw gangen o athrawiaeth neu ar ryw ddyledswydd fyddai y pryd hwnw. Holid llawer iawn nad oedd ar y papyr mewn cysylltiad â'r atebion ysgrifenedig.a dysgwylid i'r atebwyrneu rywrai yn yr ysgol gofio adrodd yn y fan heb unrhyw ragbarotoad, adnod a fyddai yn profi yr atebiad i'r gofyniadau cyffredinol hyny ; yr oedd hyn yn anogaeth i'r werin i wneyd eu hunain yn gyfarwydd yn y rhanau athrawiaethol ac ymar- ferol o'r Ysgrythyr, a dysgu llawer o'r rhanau hyny ar eu cof, y rhai y mae tuedd naturiol dyn- ion i'w hesgeuluso fwyaf. Yn bresenol, penod o'r Beibl yw y pwnc, yn y rhan amlaf, arholiadau am yr hanesiol a'r beirniadol; ac y mae llawer o honynt yn fwy perthynasol i'r ysgol ddyddiol nag i'r Ysgol Sabbothol—nid am nad ydynt yn dda yn eu lle, ond nid y pethau hanfodol i'w gwybod er iachawdwriaeth ydynt, ac mae amser yr Ysgol Sabbothol yn rhy brin a rhy werth- fawr i'w dreulio gyda phethau o'r ail radd, er eu bod yn 'chwanegu rhyw ddosbarth o wybodaeth, ond nid y wybodaeth am bethau hanfodol er iachawdwriaeth. Pa les ysbrydol sydd mewn gwybod yn mha wlad yr oedd Ephesus, neu pa faint oedd hyd a lled y wlad a elwid Macedonia 1 A pha briodoldeb sydd mewn dwyn parthleni (maps) i'r Ysgol Sabbothol 1 Alltudier hwy i'r ysgol ddyddiol, oblegid iddi hi ac nid i'r Ysgol Sabbothol y perthyn Daearyddiaeth, yr un fath a gramadeg, ac ysgrifenu, a rhifyddu, <fec. Pe buasai prinder ysgol ddyddiol fel yn y dyddiau gynt, buasai rhyw fath o esgus, er nad digon, dros eu dwyn i'r Ysgol Sabbothol, amser yr hon nad yw tros o awr a haner i ddwy awr mewn wythnos. Hefyd, yn yr holiadau cyffredinol, 'chydig sydd o wasgu am adrodd adnod i brofi yr atebiad. Hefyd mae y dull presenol, a arferir i raddau helaeth yn Nghymru, o ddefnyddio yn yr ysgol y gwersi parotoedig a argreffir yn y papyr- au, yn rhwystr i lafur am wybodaoth gyffredinol o'r Ysgrythyr, ac yn rhy debyg i bregethwr yn pregethu pregeth o waith un arall ; 'chydig wna hwnw o eynydd mewn cydmariaeth i'r hwn sydd yn astudio. Gwir yw ei fod yn esmwythach i rai dilafur, ond mae yr anfantais sydd gyda'r dull hwnw yn gorbwyso pob mantais sydd gydag