Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CrPRBS VI.—Rhif 8.—Mn, 1886. Ẁ. íEgt, CYFAILL-YR-AELWYD: ŴtwiUttact ^iW at Wmmfb $ (Sÿmtÿ. ADGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDUDAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL. AIL GYFRES. Gan y Parch. Evan Eyans (Nantì'glo). Llythyr VII " Gwneyd Canwyllau Crkfydpol!"—Y Beibl yn y Coffor—Tywysog yb Holwyr—Ysgol Nos Sul— GWEINIDOG YR YSGOL SüL—" Y GwR A'r TaN I GYNEU Y Canwyllau." iLWYDDODD yr Ysgol Sabbothol yn ddirfawr yn nghapel newydd Llangeitho ot^ tan arweiniad David Jones, yr hwn fu yn arweinydd medrus iddi dros lawer iawn o flynyddoedd, er yr achwynid weithiau eì fod yn rhy ystiff a phenderfynol ar ei feddwl ei hun. Clywais ef lawer gwaith yn dadleu â hen bobl go dda oedd heb bleidio yr Ysgol Sabbothol. Yn my8g troion ereill clywa's ddadleu go ddigrif rhyngddo a hen flaenor da o'r enw David Evar>8, Tower Hill. Yr oedd yr hen wr, fel llawer n hen bobl dda y cyfnod hwnw, yn ystyried fod trafod ac esbonio yr Ysgrythyr gan rai diras yn halogi'r gwaith. ac yr oedd wedi mvned i radd o dymher boeth yn y ddadl. " Yr ydych yn rhyfygu ; yr ydych yn rhyfygu," meddai, gan ddyblu yr ymadrodd ; " yn rhoi ieuenctvd celyd ac anystyriol i drafod y Beibl a'i bethau, a'r rhai hyny yn cellwair ac yn chwerthin uwch ei ben, ac yn cymeryd arnynt ei esbonio yr un pryd." " Wel," meddai David Jones, '; yr ydym am eu cael yn hyddysg yn yr Ysgrythyrau. a'u dysgu i'w deall." Meddai yntau, " Wedi y dysgoch awy i hollti y b'ewyn yn chwech, mi dclywedaf i beth mae yn debyg: tebyg yw i ganwyll fawr heb ddim tân yn ei phen, ni rvdd oleu i neb ; gall edrycb yn brydferth, ond ni bydd dda i ddim ; byddwch yn eu llanw â balchder a hunan, yn lìawn gwynt fel pledren, ond heb ras yn eu calonau." " Diolch i chwi am y gymhariaeth," ebe David Jones. "cydmar- iaeth dda yw ; gwnaf ddefnydd o honi. Pa beth sydd fwy parod i roi goleu na chanwyll fawr, yn barod i roi tân yn ei pheu ì Nid nyni sydd yn cadw'r tân : gwneyd y canwyllau yw ein gwaith, ac yr ydym yn bwriadu eu gwneyd mor fraisg ag y medrwn. Mae'r gwr â'r tân wedi addaw dyfod heibio, a phan ddaw tania lawer o honynt, a byddant yn goleuo'r wlad." Nid hir wedi hyn y bu'r "gwr â'r tân" cyn "dyfod heibio," a daeth amryw o ieuenctyd yr ysgol at grefydd, a gwelodd yr hen wr ei gamsynied, a daeth i gefn- ogi yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd syniad Uawer o hen bobl dduwiol am gysegredd y Beibl yn rhedeg mor uchel fel y tybient yr halogid ef pe cyffyrddai dynion annuwiol âg ef â'u dwylaw. Adwaenwn hen wraig dduwiol iawn oedd yn arfer cloi y Beibl yn y coffor eyda'i dillad goreu, rhas i'r gwasanaethyddion oedd gyda hi yn y tŷ ei drafod : caent glywed ei ddarllen, ond ni chaent osod eu dwylaw arno rhag ei halogi. Ni fuwyd yn hir wedi cael yr Ysgol Sabbothol i drefn yn y capel cyn dechreu dysgu, a holi, ac adrodd pynciau, weithiau o " Hyfforddwr" Charles, prydiau ereill rhai wedi eu cyfansoddi gan ryw bregethwr neu athraw a allai wneyd hyny ar ryw fnter penodo', megys edifeirwch, ffydd, dyledswyddau penau teuluoedd ac aelod- au eu teuluoedd, &c, a'i roi mewn ys^rifen, rhanau o hono i bob dosbarth. Wedi y caent amser priodol i'w ddysgu ar eu cof, caent eu profi a oeddent wedi ei ddysgu yn briodol, trwy sefyll i fyny i'w adrodd yn yr ysgol; yna trefnid iddynt gael tu holi yn gyhoeddas ar foreu Sab- both ar ol dechreu yr oedfa, cyn y bregeth, a phregeth fer ar ol hyny, ond weithiau cymerid yr holl o'r amser i " holi'r pwnc," a therfynid yr oedfa heb breget^. Ychydig o'r pregethwyr oedd â thalent a chwaeth at holi ysgol: ond yr oedd y Parch. Ebenezer Richards fel tywysog yn eu mysg at y peth hwn, ac am hyny, pan byddai ei gyhoeddiad ef yn Llangeitho y trelnid fynychaf i " adrodd y pwnc." Yr oedd y Parch. Ëbenezer Morris yn holwr, ond nid mor fedrus yn hyny atj oedd Richards. Mewn pethau ereill yr oedd Morris yn rhagori. Yr oedd David Jones, Dolau- bach, Llangeitho, yn ymgynghori llawer â Mr. Richards yn nghylch yr Ysgol Sabbothol, a thrwy ei lafur ef ac ereill yn cydweithio y daeth "adrodd y pwnc" i gymaint bri yn ardaloedd Llangeitho, ond yr oedd dysgu penodau ar gof, a'u hadrodd yn gyhoeddus wedi ei ddwyn i am- lygrwydd cyn hyny trwy lafur Dafydd Evan Hugh. Yr oedd hefyd amryw oV ysgolion a sefydlasid ganddo ef yn y tai ar gyrau pellenig oddiwrth y capel, yn cael eu dwyn yn mlaen tan