Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfäes VI.—ftniF 6.—Mawrth, 1886. CYFAILL-YR-AELWYD: ADGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL, AIL GYFBES. Gan y Parch. Evan Eyans (Nantyglo). Llythyr VI. [Syiw.—Bu y llythyr hwn ar goll. Daeth i law yn hir wedi ei 'ddanfoniad, ac wedi i rai o'r rhai blaen- orol gyrhaedd yma. Gwelir ei fod yn cynwys par- had o ddesgrifiad adeilad Capel Llangeitho, ac mai ei le priodol oedd yn y desgrifiad hwnw.—Gol.] COLOFNAU Y TY — BARN REES, LLANELLI — YR ALLOR— "Yn Fyrddeidiau ac yn Fyrddeidiau "—Etholedig- aeth yn y cymundeb —elîinwedd mwy 0 law row" lands — dynes gall — hen lyfr gweddi ffasiwn Newydd !—Fy ngosod yn yr Harnats—Dafydd Evan Hugh eto-Fy Nyled iddo. PETH nesaf oedd gwneyd gwaelod y seddau a threstl yr oriel. Gan fod col- ofnau yr oriel i'w gosod yn ffrant y seddau, yr oedd yn rhaid penderfynu pa un ai haiarn bwrw neu goed fyddent cyn gosod gwaelod y seddau. Ymgynghorodd y blaenoriaid, a barn- ent mai colofnau haiarn bwrw fyddai oreu, ond yr oedd jn rhaid ymgynghori â Mr. Charles o'r Bala cyn gwneyd dim, a barnodd ef mai rhai coed fyddai oreu. Gosodwyd llawr y seddau mewn amser rhesymol o fyr, a chan fod codiad go fawr i'r gwahanol resau, yr oedd Uawer yn eistedd ar lawr y seddau â'u traed ar lawr yr un tu alian i'r un yr eisteddent. Yr oedd y seddau yn dair rhes bob ochr o un pen i'r Jlaíl o'r adeilad hir, â'u cefnau tua'r wäl, ac felly, ochrau y bobl ynddynt fyddai tua'r pwlpud, ac nid eu hwyneb- au ; a dywedodd y diweddar Barch. D. Rees, Capel Als, Llanelli—yr hwn fu unwaith yn preg- ethu ynddo— mai'r cynllun mwyaf lledchwith ar gapel a welodd efe erioed oedd , ond pan fu ad- gyweiriad arno er's amryw fiynyddoedd yn ol, gosodwyd ef ar gynllun gwell. Yr oedd y rhod- feydd rhwng y seddau ar gyfer y ffenestri, a'u lled cyfled â'r ffenestri : tair rhodfa lydan bob ochr yn rhanu y seddau yn bedwar twr (group) bob ochr. Yr oedd y rhai pellaf bob ochr yn myned tàn risiau yr oriel, ac felly yn tebygu i le i ymguddio o olwg y gynulleidfa, ond yn weledig o'r pwlpud. Yr oedd yr " allor " yn y " tỳ nesaf i'r ffordd" yn y pen dwyreiniol yn ymyl y wàl, a'i hyd yn gymaint a lled y ty hwnw ; a " drws yr allor " yn y gongl bellaf, ac agoriad yn yr " allor" ar ei gyfer, a chauad i'w roddi ar yr agoriad ar amRer cymundeb, yr hwn a godid i fyny rhwng dau bost fel codi ffenestr. ac a gedwid felly ond ar amser cymundeb; feîly y sawl a aent i rnewn ac allan trwy y drws hwnw, byddent yn myned trwy yr "allor"; ac yr oedd yr " aUor," hefyd, yn rhydd ar amser oedfa i bobl sefyll ynddi i wrando pan byddai y ty yn Uawn. Cafodd yr " allor " a'r drws eu trefnu felly, yn amser Rowlands er mwyn cyfleusdra pan oedd y dorf o gymunwyr yn fawr iawn, wedi ymgasgìu o bellderau, yn rhai miloedd o nifer ; ni byddai lle iddynt olí yn y capel, ond byddai torf fawr y tu allan yn gwrando ar gyfer ffenestr y pwlpud ac wrth y drysau. Wedi y derbyniai un byrddaid y cymundeb, agorid y drws a chodid y cauad oedd ar ei gyfer iddynt fyned allan y ffordd hono, i roi Ue i ereill ddyfod at yr allor ; ac fel y byddai y tu yn llaco, byddai y rhai oedd allan ac heb gael y cymundeb yn dyfod i mewn trwy y "drws coch " i fod yn barod i fyned at yr allor pan byddai lle iddynt ; ond nid oedd eisieu gwneyd felly yn fy amser i. Byddai amryw offeiriaid bob amser ar ben mis yn cynorthwyo Rowlands i weini cymundeb ; ond cyfrifai Uawer fod ei gael o law Rowlands yn fwy o fraint na'i gael o law rhywun arall; a byddai y sawl a'i caffai felly yn gofyn i ereill pan ar eu ffordd adref, " 0 law pwy y cefaist ti y cymundeb?" " 0 law hwn a hwn." " 0, mi cefais i e' o law Mr. Rowlands ei hunan." Pan ofynwyd felly i un wraig dduwiol, atebodd : " Yn wir, nid aethum i mor ysgafn ac edrych o law pwy : yr oedd fy enaid wedi ei lanw yn nghylch cariad y gwr yr oeddwn yn coffa am dano." [Clywais fy rhieni yn adrodd am y pethau hyn.] Yr oedd darllen y " Llyfr Gweddi Cyffredin " wedi ei roi heibio ychydig cyn tynu yr " hen gapel" i lawr, ond bu cryn helynt cyn gallu perswadio yr hen bobl i ganiatau hyny. Nid oedd Mr. Williams ei hun dros ei ddarllen, ond