Skip to main content

Cyfres VI.—Rhif 5.—Chwefrob, 1886. CYFAILL-YR-AELWYD: (titttUM ?$tol at ^teanaetft y (Etjmty, 1885-86. fAE Blwyddyn eto bron a ffoi I ffwrdd a'i phoen a'i i>hleser ; A'm hadgof inau yn yniroi, I godi Ebenezer : I'r llaw garedig drwyddi 'm daliodd I'r anweledig a'm cynhaliodd. Mae Blwyddyn eto yn neshau I fynwent y blynyddoedd ; Ond trugareddau Duw 'n parhau Mor sicred a'r mynyddoedd ; Os ffv 'r terfynol lieb ymaros, Mae 'r annherfynol fyth yn aros ! Mae blwyddyn eto bron ar ben, A rhifo ei mynydau ; A minau, cyn disgyno 'r llen, Yn rhifo y gwynfydau Sydd wedi britho 'i diwrnodau, Sydd wedi gwlitho gwrid ei blodau. I ddweyd eu rhif mae tafod iaith Fel morwyn anllyth'renol ;— Mae 'r fynyd olaf ar ei thaith, Fe 'i Myncir i'r gorphenol Cyn haner enwi rhif y grasau A wnaeth ei Uenwi o gymwynasau. Mae 'r Flwyddyn anwyl wedi myn'd I fynwes trag'wyddoldeb, A ninau wedi colli ffrynd Fu 'n gwenu mewn sirioldeb ; Ac o 'i thrysorau anhysbyddol, Yn rhoi bob boreu 'n adnewyddol !