Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Oyfres VI.—Rhiî 4.—Ionawr, 1886. CYFAILL-YR-AELWYD: ëÿìwMM SRtol »t Wmmtẅ y %m*y. ADGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL. AIL GYFRES. Gan y Parch. Evan Eyans (Nantyglo). Llythye IV. Apostolion a Cholofnau—Y Pwlpud Mamr a'r P-wlpud Bach— Pbegethwe ashywaeth a Phwlpud ansefydlog — etholedigaeth y seddau — üafydd Evan Hugh—Apostol yr Ysgol Sul. R oedd y colofnau ar bob tu i'r rhodfeydd tuallan i gonglau y seddau nesaf allan, chwech bob ochr i'r ty, ac íelly yn ddeuddeg, yn ol nifer yr apostolion. Gelwir rhai o'r apostolion yn golofnau yn Gal. ii. 9. Yr oedd pob colofn yn ddau ddarn, y darn isaf o bren derw ysgwar go drwchus o'r llawr hyd dop ffrant y sedd nesaf allan, y tuallan iddi, ar y gongl yn ymyl y rhodfa, a ffrant y sedd a'r hyn oedd yn y talcen yn dal y drws wedi ei sicrhau wrtho, a thri wyneb iddo wedi eu gwisgo â gwaith panel tlws, a'r pedwerydd yn cael ei guddio gan y sedd ; a'r darn uchaf i bob un o ddarn o hwylbren llong wedi eu turno yn bryd- ferth, a'r droell yn y lle i'w tynu i lawr i'r trwch angenrheidiol, a phrydferthu ymylon eu dau pen. Yr oedd yn y pen deheuol i'r ty ddwy sedd, neu yn hytrach un sedd hir yn ddwy ran, yu cyrhaedd o firant yr oriel yn y naill ochr i'r ty hyd y ffrant yr ochr arall yn ddigon uchel i ddyn sefyll ar ei draed tani, ond lawer yn îs na'r oriel, ac wedi ei gosod i grogi wrth drawstiau ffrant dwy ochr yr oriel, a gwaith coed cryf wedi eu pensythu (âovetailed) yn y trawstiau, ac heb golofnau o dani. Yr oedd grisiau i fyned o'r rhan orllewinol i lawr i'r " allor," a chlawr i gau tros agoriad y grisiau, yr hwn oedd yn rhan o lawr y sedd, ac a agorid pan âi rby w un i waered. Gan fod y ddaear o'r tuallan yn y pen hwnw cyfuwch a'r sedd hono, yr oedd drws bychan i fyned o'r tuallan i mewn trwy y sedd hono i'r pwlpud heb fyned trwy'r ty; ac mae yno eto tybiwyf. Yr oedd y pwlpud y tuallan i ffrant y sedd hir hono yn nghysylltiad y ddwy ran ar gyfer y drws bychan yn un bychan chwech ochrog ar ben colofn bren, ac wedi ei sicrhau wrth ffrant y sedd, ac un gris yn uwch na'r sedd, ac yn hwnw y pregethid bore Sabboth, pwy bynag fyddai y pregethwr, a gelwid ef " y pwípud mawr" er Ueied oedd. Yr oedd pwlpud arall yn un symudol ag y gallai dau ddyn ei s\mud. Cedwid hwn yn yr "allor" o dan y rhan ddwyreiniol i'r sedd uchel, a phan fyddid yn ei ddefnyddio, symudid ef i ffrant yr " allor," ac wedi gorphen, symudid ef yn ol i'w le, a gelwid ef "y pwlpud bach," ac yn hwnw y pregethid prydnawn Sabbothau, ac ar ddyddiau yr wytbnos, os na fyddai rhyw " bregethwr mawr " yn dygwydd dyfod heibio : c'ai y cyfryw fyned i'r " pwlpud mawr." Gwnaed y sedd hir uchel hono can gynted ag y gosodwyd gwaelod yr oriel yn ddyogel i fod yn bwlpud tan y gor- phenid gwaith y capel, onc ni wnaed y pwlpud chwe' ochrog oedd ar ben y golofn tan agos gor- phen, a chan mai yn araf yr oedd y gwaith yn myned rhagddo, buwyd yn hir yn defnyddio'r sedd hono yn bwlpud. Bu amgylchiad go ddigrif yn niwedd y cyfnod hwnw. Pan wnaed y pwlpud chwe' ochrog, gosodwyd ef yn ei le ar ben y golofn, a chyn ei fod wedi ei sicrhau yn gwbl ddyogel. daeth y diweddar Barch. H. Howells, Trehül, heibio. Offeiriad oedd Mr. Howells, wedi arfer pregethu yn yr eglwysi a'r capeli, ac yr wyf yn cofio i mi ei wrando ryw fiwyddyn a' haner, neu ryw ych- ydig yn rhagor cyn hyny, yn pregethu yn nghapel eglwysig Capel Bettws, pan oeddwn yn yr ysgol yno ; ond yr oedd cyn yr amser wyf yn son wedi ei atal i'r eglwysi. Yr oedd yn barchus a phoblogaidd, a chan ei fod yn offeiriad, yr oedd yn " bregethwr mawr " yn ol syniad y cyf- nod hwnw. Nid oedd ei allu fel cyfansoddwr ond cyffredin, ond yr oedd yn " wresog yn yi Ysbryd," yr hyn a elwid yn " danllyd " iawn, yn gwaeddi ac ymysgogi yn chwimwth yn y pwl- pud, ac weithiau yn neidio. Nis gwn a oedd y diweddar Barch. Morgan Howells yn rhyw ber- thynas iddo (o gymydogaeth Trehill yr oedd Morgan). Yr oedd rhyw bethau yn debyg yn-