Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfres VI.—Ehip 3.—Rhagfyr, 1885. CYFAILL • YK • AELWYD: ADGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL. AIL GYFRES. Gan y Parch. Eyan Eyans (Nantyglo). Llythyr III. Llwch Society !—Tô digon uchel i Gapel—Clirio'b Llawr—Anfeawd Annymunol—Anhawsderau Adeil- adu Bedwar TJgain Mlynedd yn ol—»" Diacon o Eadd Dda "—" Priodas Wawdd "—" Cwrw Gwerth "—" Ci Drud "—" Yr Hyn a Enillir dros gefn y Diafoi. a Werir tan ei Dôr"—" Gerllaw y Pwlpud—ond nid YNDDO ! "—POBL "GALED " YN Y CaPEL. ELAWR pridd o'r ddaear naturioî fel yr ydoedd oedd i'r hen gapel, ac i eglwys y (*^~~> plwyf hefyd ; ond yr oedd y ddaear yn sych, a chan uad oedd nemawr o feinciau yno, a bod yr aelodau mor lluosog, byddai ar amser y Society (yr hon arferid gadw ar ol pregeth ddydä o'r wythnos) luaws mawr o wragedd a merched, yn y rhan nesaf i'r pwlpud o'r ty, yn eistedd ar y llawr llychllyd, er mwyn i'r rhai oedd tuhwnt iddynt weled, a cblywed y siarad, a phan orphenid yr.oedfa cyfodent ar eu traed ac ys- gydwent odreu eu dillad nes byddai cwmwl o lwch yn Uanw y rhan bono o'r lle. Gan mai dillad cryfion o waith cartref oedd ganddynt, ni wnai y llwch sych nemawr niwed iddynt. Yr un fath y buont yn y capel newydd tros hir amser, oblegid buwyd lawer o flynyddoedd cyn gwneyd unrhyw lawr iddo ondyr hwn oedd natur wed* wneyd, ac nid oedd dim seddau. yn nghanol y ty fel y maent yn awr : dim ond rbesau íjyda'r ddwy ochr, tair rhes* bob ochr, ac ychydig feinciau heb gefnán iddynt ar ganol y ílawr, a darn o'r llawr ger sedd y cymundeb yn rhydd Ue ca'i yr hen wragedd eistedd yn y llwch ar amser y society. Pan orphenwyd adeiladu gweiydd y capel newydd penderfynwyd symud yr oedfaon o fod ar yr heol yn nghanol y pentref i íod o fewn muriau y capel newydd, a hyny cyn dec.reu gosod hyd yn nod y cÿplau na dim arail o'r gronglwyd ; ond yr oedd y trawstiau máwrion oedd o un ochr i'r llall i osod y cyplau arnynt wedi eu gosod. Gan fod yr aäeilad yn fawr a'r wîJ yn uchel, yr oedd [yno lawer o ysgaffaldau, a hefyd góed rhyddion ar y trawstiau, a llawer o gerig a phridd, &c, ar y llawr, ac vr oedd yn rhaid symud y pethau hyn a gwastadhau'r llawr. Penodwyd diwrnod at hyny, a hysbyswyd yn y gyfeillach y dymunid ar bawb a allent yn gyfleus ddyfod yno y diwrnod hwnw i helpu symud y pethau hyn fcl y gallent gynal yr oedfaon o fewn y muriau, gan y byddai 'chydig yn fwy cysgodol yno nag ar yr heol, a bod y tymor o'r fiwyddyn yn annymunol i fod allan, ac yn drafferth i'r iteulu oedd yn caniatau yr ysgubor yn y gauaf i'w gwaghau erbyn pob Sabboth. Daeth bagad yn nghyd, ac yn mysg ereill yr oedd fy nhad yno. Pan oedd ífermwr parchus o'r enw Daniel Evans, Meini-gwynion, yn myned i dafiu pren go fychan colfenog oddiar y trawstiau allan tros y wàl, gwaeddodd am i bawb gilio yn mheli, ond disgỳnodd y pren ar ei ben a rhoddodd naid trwy dasgu yn mhellach nag oedd neb yn meddwl, a tharawodd David Jones, Castell y-waun, tad David Jónës a adnabyddid yn mhen amser wedi hyny wrth yr enw Dafydd Dolaubach, ac a fu yn flaenor tra adnabyddus yn Llangeitho. Tar- awodd y pren " Dafydd o'r Castell" ger ei arlais fel y syrthiodd, ac ni ddywededd air byth. Fy nhad oedd y cyntaf i ymaflyd ynddo. Cai- iwyd ef i dy merch iddo oedd yn byw yn y pen- tref, a bu farw yn -^hen wythnos. Hono oedd 'yr unig ddamwain a ddygwydaodd yn ystod y gwaith o adeiladu, yr byn a barhaodd tua dwy flynedd. Fe syna pobl yr oes hon fod cymaint o amser yn angenrheidiol ì adeiladu capel er ei fod yn un mawr. Nid oedd yno ddiffyg arian, ac ni bu y gwaith yn sefyll, ond nid oedd yno'r cyfleusderau sydd yn yr oes hon' Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1814. Meddylier, yn m./sg an- hawsderau ereill, eu bod yn gorfod 'lreuìio deu- ddydd i d.dyíod â phren trwm a hir o Aber- ystwyth i Llangeitho (pymtheg milldir), i'w lifo yn drawstiau i fod o un wàl i'r llall o tàn fôr y cyplau, a'r ffyrdd yn rhy gulio iddo droi lle byddai tro yn y ffordd, a'u bod yn gorfod myned