Skip to main content

Cyfres VI.—Rhif 1.—Hydref, 1885. CYFAILL • YK • AELWYD: ADGOFION PEDWAR ÜGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHEEFYDDOL AIL GYFRES. G-an y Parch. Evan Evans (Nantyglo). Llythyr I. Adeiladu Capel Llangeitho—Eisieu Goleu—Topo Clüstlìu a Brwyn—Damwain I Williams Llethrod —Chables o'r Bala a John Boberts, Llangwm, yn Llangeitho—Cobff un Pregethwe a Phen un arall YN YR UN PwLPUD !—DyN PARTICULAR—STEWAEDIAID Pengam—Y Sassiwn yn Ben—Pregeth Fflat a Chy- MUNDEB HwYLUS—AeLODAU DwBL—PwLPUD BeDYDD —Doctor Blaendap—Brawdgarwch Teilwng—Ym- NEILLDUWYR YN CYMUNO YN YR EgLWYS a'r OfFEIRLAD yn rhentu Set yn y Capel. JYNWYD yr hen gapel oll i lawr, a decb- reuwyd adeiladu y newydd ; ond gan fod y ffordd i'r lle y caid ceryg yn mhell, a'r adeilad yn un mawr, araf yr oedd y gwaith yn myned yn mlaen. Darparwyd lle i bregethu ar y Sabboth tros yr hâf ar yr heol ar ganol y pentref. Yr oedd ganddynt fath o bwlpud oeddid wedi wneyd yn amser Rowlands i bregethu ar y maes, fel math o flwch digon hir i ddyn sefyll ynddo, ac un wyneb iddo yn agored, ac astell i ddal y Beibl yn yr wyneb hwnw. Yr oeddid wedi ei roddi heibio yn yr hen gapel i orwedd ar goed tàn y gronglwyd yn y dosbarth " nesaf i'r ffordd " o'r tý. Gosodwyd hwnw i sefyll ar ei dalcen yn y pentref, a gallai y preg- ethwr fyned iddo trwy ymblygu i fyned tan yr astell oedd i ddal y Beibl, ac yna sefyll o'r tu- hwnt iddi. Cedwid y " society " yn ysgubor y Plas yn nghwr y pentref. Ond yn y gauaf, preg- ethid ar y Sabboth yn ysgubor Ty'n-dolau, yr hon oedd yn eang, ond ei bod encyd o ffordd o'r pentref. Rhyw dro pan oeddid yn cadw y " society " yn ysgubor y Plas, dygwyddodd fod un o'r swyddogion oedd o dymer naturiol chwerw a byrbwyll, ond yn Gristion da, yn dechreu yr oedfa. Nid oedd un ffordd i gael goleu ond trwy y drws. Safodd yntau yr ochr arall i'r ysgubor ar gyfer y drws i ddarllen penod, ond yr oedd dynion diweddar yn dyfod i mewn yn ddau neu dri ar y tro, ac yn tywyllu'r drws nes gyru y darllenwr i dymer ddrwg ; ac wedi dwrdio am- ryw weithiau pan fyddai rhai yn dyfod i mewn am na ddaethent cyn dechreu, cauodd y Beibl cyn gorphen darllen y benod, gan ddywedyd nad oedd bosibl darllen pan oedd y dynion diweddar yn tywyllu y drws ; ond nid oedd yn ystyried ei fod ef wedi sefyll mewn man anghy'fleus i gael goleu. Wedi cau y Beibl, gweddiodd yn gynhes a gàfaelgar ; ac wedi canu penill, dechreuodd ymadroddi i agor y gyfeillach ; ac er fod ei dymer wedi llarieiddio llawer trwy'r gweddio a'r canu, nid oedd wedi llwyr arafu. Pan oedd yn siarad, gwaeddodd dyn nad oedd yn clywed yn dda ac yn sefyll encyd oddiwrth y siaradwr, " Dywedwch yn uwch ; 'dw' i ddim yn eich clywed." Atebodd yntau yn chwerw : '' Beth sydd ar dy glustiau di ? A wyt ti wedi eu topo â brwyn ì" Dywedais mewn llythyr blaenorol am wrth- wynebiad hen bobl Llangeitho i urddiad anesgob- ol. Dygwyddodd amgyìchiad yn y cyfnod sydd tan sylw yn awr a ddygodd y pwnc hwnw i bwynt ag yr oedd yn rhaid tori y ddadl. Nid oedd neb o urdd esgobol yn mysg y Corff yn sir Aberteifi y pryd hwnw ond y Parch. John Williams 0 Llethrod, ac efe yn unig ga'i wein- yddu'r cymundeb yn Llangeitho tros y ddwy flynedd oedd wedi pasio er yr urddiad corffyddol cyntaf; a deuai yno yn fisol i'r dyben hwnw o dosturi atynt, er ei fod ef ei hun tros y " symud- iad newydd," fel ei gelwid. Fel y mae yr Argl- wydd yn aml yn ei ragluniaeth yn dyrysu amcan- ion dynion, ac yn dwyn i ben bethau daionus, gwnaeth felly y pryd hwnw : dygwyddodd ddamwain i Mr. Williaws trwy iddo sypthio ac ysigo ei glun, fel yr analluogwyd ef i fyned i Llangeitho trcs lawer o fisoedd, ac er fod rhai gweinidogion urddedig wedi bod yno yn y cyfnod hwnw yn pregethu ar y Sabboth, ni chaent weinyddu y cymundeb o herwydd gwrthwyneb- iad y " stewardiaid.1' O'r diwedd, daeth cyhoedd- iad y Parchn. T. Charles, Bala, a John Éoberts, Llangwm, Sir Feirionydd, i fod yno gyda eu gilydd ar y Sabboth ar eu ffordd i âssociation Sir Benfro, yr hon (hyd wyf yn gofio) oedd i fod