Skip to main content

Cyfres Y.—Rhií 12.—Medi, 1885. CYFAILL • YR • AELWYD: (£$UMM fjtol ät WmtMÍU \\ töpif». ADGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD GYFNEWLDIADAU YN Y BYD CELFYIIYICL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL 6aW Y PaBCH. EvAN EVANS (NaNTYGLO). Llythyb XII. Pwtso'r "Stewardiaid"— Pregethwyr Cadwrus — Evan T Tanner — Jack t 'Sgubor — Jack Birch Hill—Tm Cysegredig—Y Capel Newtdd—Dechreu DA. , YWEDAIS o'r blaen am y drafferth gaed i roi heibio darllen y Llyfr Gweddi Cyffredin yn hen gapel Llangeitho, mod, er ieuenged a lleied oeddwn, wedi cael fy rhoddi amryw weithiau yn mysg ereill i ddysgu ac adrodd y penodau a'r cyfeiriadau oedd yn fisol yn cymeryd lìe darllen y Llyfr Gweddi. Y peth nesaf o ddyddordeb wyf yn gofio yn yr hen gapel yw fod y Parch Ebenezer Moriris yn dyfod yno dros y Cyfarfod Misol i edrych ansawdd yr achos, ac i wybod barn yr eglwys am ei phregethwyr a'i " stewardiaid." Yr oedd hyn yn beth newydd y pryd hwnw, a bu cryn bryder yn mlaen llaw yn ei gylch, gan na wyddent pa beth oedd yr amcan na pha beth wnai Mr. Morris. ac aed mor bell a nodi per- sonau i sefyll lle'r " stewardiaid" i fod yn siaradwyr a threfnwyr dros y diwrnod y byddai Mr. Morris yno o leiaf, a pnerderfynwyd y cai Mr. Morris farnu pa un a fuasai raid i'r swydd- ogîon fy ed allan tra y byddid yn siarad yn eu cylch. Yr oedd fy nhad heb gael ei osod yn steward y pryd hwnw. Pan ddaeth Mr. Morris yno, cafwyd ar ddeall fod y peth yn esmwythach nag oeddent hwy yn tybied. Yr oedd yr eglwys, yr hon oedd yn cynwys llawer o ganoedd o aelodau, wedi ymgasglu yn o gryno. Yr wyf yn cofio fod Mr. Morris yn dweyd nad oedd wedi dyfod yno i roi unrhyw fath o gerydd ar neb, ac nad oedd dim cwyn wedi ei roi yn erbyn yr eglwys na neb o'i swyddogion, ond mai dyfod yno wnaeth i gael gwybod am ansawdd yr achos, a pha fodd yr oedd yn nghylch cariad a chyd- weithrediad a'r cyffelyb yn eu mysg, a chanmol- odd hwy am eu rhagofal yn nodi personau i fod yn Ue'r " stewardiaid " yn y cyfarfod hwnw. ond nad oedd dim o bwyslyn galw am gyfnewidiad oddiwrth y dull arferol. Yr wyf yn cofio ei fod yn dweyd :— " Gall y personau nodasoch gymer- yd rhan yn unrhyw beth fyddo ar eu meddwl, a gall y swyddogion hwythau wneyd yr un fath fel arferol. Nid wyf yn gweled fod eisieu i'r naill ddiddymu y llall." Yna aed yn mlaen. Holodd yn Dghylch cariad bra wdol a cbysondeb gyda'r moddion cyhoeddus, &c.; wedi hyny, holodd yn nghylch y swyddogion o un i un. Nid wyf yn cofio nemawr o gynwys y siarad, ragor na bod Mr. MoTris yn holi a oeddynt yn ffyddlon yn eu swydd, ac yn gymeradwy yn yr eglwys ac yn mysg eu cymydogion. Yr wyf yn cofio fod un oedd wedi myned dipyn yn drwm ëi glyw, pan oeddid yn siarad am dano ef, yn gofyn amryw weithiau, " Pa beth mae y dyn yna yn ddyweyd am danaf ?" a bod rhywun yn egluro iddo. Wedi gorphen a'r " stewardiaid," aed i siarad yn nghylch y pregethwyr. Yr oedd yno bedwar pregethwr : y parchusaf a mwyaf poblogaidd o honynt oedd Mr. Daniel Jenkins, yr hwn oedd yn briod â merch y Parch. Daniel RowlaDds, Llangeitho. Nis gwn o ba le yr oedd yn ened- igol ; yr wyf yn meddwl i mi glywed mai o rywle yn Swydd Gaerfyrddin oedd. ond nid wyf yn sicr, ond nid oedd o ardal Llangeitho. Dyn mawr a thew iawn, â gwyneb coch siriol ; ni welais ond dau o rai o'i faint ef can dewed ag ef, sef y Parch. H. Lloyd, Cilpyll (offeiriad Llangeitho, a Mr. Morgan Evans, Cas- newydd. Yr oedd y Parch. James James, PenWaen, can dewed âg ef, ond yr oedd yn Uai o faint nag ef. Yr oedd wedi bod yn preswylio yn Llundain, a'i urddo yno gyda yr Annibynwyr, ond gellir deall na oddefid iddo weini y cymundeb yn Llangeitho, er ei fod yn fab-yn-nghyfraith i feowlands, ond goddefid iddo fyned i'r " pwlpud mawr " os byddai yn pregethu ar foreu Sabboth, ond ni chai fyned iddo yn y prydnawn—rhaid iddo fod yn y " pwlpud bach." Pregethwr melus ei cyfrifid, yn hytrach na