Skip to main content

Cyfbeb V.—ftmr 11.—Awbt, 1885. CYFAILL-YR-AELWYB: ë0MMìU gMwl at WëWMMfb g ë$mv%. ADGOFION PEDWAR ÜGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL. Gan y Paech. Evan Eyans (Nantyglo). Llythyr XI. Cwbw a'b Capel—Pbofi Dibwestwb—Tbic Owen Enos—" Stewabdiaid Society "—Y Dynion cyn Adda—Ai y Ceffyl ai y Dyn?— Hee Gwb dbos Bedwab Ugain Oed—Yb Olyniaeth Apostolaidd— Gweddio Jones Llanoan o'b Byd—Edbing Capel Llangeitho —" Gweaig Hynod yn mybg yb Apostolion "—Detectiye Gwledig—Yb Esgob T. Chables, Bala—Cawod o Hatau— Moliand yn NHBAED EI HOSANAU —Y TALAF o'E TeüLD !—OFFEIBIAD A GWEINIDOG YN FY NEEBYN. N y cyfnod cyntefig hwnw, yr oedd yn berygl i bregethwr ar ei daith, yn enw- edig os byddai yn boblogaidd, gael ei feddwi trwy wir garedigrwydd y rhai fyddai yn darparu lluniaeth iddo; ac mewn cyfnod diweddarach—hyd yn nod yn fy amser i—yr oedd cwpanaid o gwrw cyn myned i'r capel, ac wedi dyf'od o'r capeî, a chwrw gyda'r bwyd, ac i " bregethwr mawr" byddai gwydraid o wirod cyn cychwyn i'r Ue nesaf. Byddid yn macsu cwrw yn nhy'r capel ar draul y gynulleidfa, ac yn ei gadw yno i'w roddi i'r pregethwyr. Nid rhyfedd pe buasai ambell un gwanaidd, ar ol chwysu, yn yfed ; ac er cymeryd ond ychydig, ei íod yn'effeithio arno pan âi allan i'r gwynt. Gwelais, ar ol i mi fyned yn ddirwestwr, wr duwiol a charedig Ue yr oeddwn yn lletya yn dwyn potel a gwydr yn ei law i ystafell y gwely cyn i mi fyned i orphwys, i gynyg gwydraid o wirod i mi, gan ddweyd ei fod yn canmol fy ym- drech i sobri y werin—y gallai dynion cryfíon ddal i deithio a phregethu heb " beth i'w yí'ed," ond nad oedd dim yn bosibl y gallai dyn mor wan o gorff a mi ddal y daith heb 'chydig i nerthu natur, na ddywedai ef wrth neb. Ni raid dweyd wrth y rhai sydd yn fy adwaen mai gwrthod wnaethum, ond mae hyn ac amgylch- iadau cyffelyb yn profi fod yr hen bobl yn ei roddi yn gydwybodol, ac yn credu ei fod yn angenrheidiol. Yr wyf yn nodi'r pethau hyn i roi goleu ar a ganlyn. Adroddai hen wr wrthyf, pan oeddwn yn ieuanc, am ryw bregethwr o'r Deheu o'r enw Dafydd (nid wyf yn cofio ei gyfenw) wedi myned ar daith bregethwrol i'r Gogledd, ac, ar ryw amgylchiad tebyg i'r rhai enwais, wedi meddwi. Dygodd rhyw Ogleddwyr manwl gwyn yn ei erbyn i'r Gymdeithasfa yn Llangeitho, gan achwyn yn go haerllug fod y cyfryw ymddygiad yn ddigon i atal pob llwyddiant ar grefydd. Yr oedd Eowlands yn eistedd heb ddyweyd dim, a Dafydd druan yn wylo fel plentyn. Ẅedi rhyw gymaint o siarad, cododd Williams Pantycelyn ar ei draed, a dywedodd, " Fel hyn mae'r peth, frodyr. Ysgadanwr yw Dafydd, yn myned âg ysgadan i'r Gogledd i'w gwerthu. Yr oedd bob anaser yn myned â hwy yn gwbl ffres, a phawb yn hoffì ysgadan Dafydd ; ond y tro diweddaf, trwy ryw anffawd, dygwyddodd i'r ysgadan ddrewi, ac mae eu drewdod yn poeni y brodyr hyn. Tebygol os gwneir pasio heibio iddo y tro hwn y goíala Dafydd na cheir gweled ysgadan drewllyd ganddo byth mwy. A ewch chwi, Mr. Rowlands, yn feichiau nad â Dafydd âg ysgadan drewllyd i'r Gogledd eto V Atebodd Rowlands â llais uchel, " Af," a chafodd hyny fod yn der- fyn ar y cwyn, a chafodd Dafydd fod yn rhydd. Adroddoid Owen Enos wrthyf am dro go ddigrif yn nghylch meddwi ar daitb bregeth- wrol yn y Gogledd ag y bu ef (Owen), trwy gyfrwysdra, yn offerynol i atal dwyn y cyhudd- iad i Gymdeithasfa Llangeitho. Yr oedd hyn yn ddiweddarach na'r uchod. Yr oedd Dafydd Morris—tad y Parch. Ebenezer Morris— yn bregethwr poblogaidd iawn, ac yn wr tew iawn—lawer tewach nag Ebenezer, er tewed oedd Eben.—ac o herwydd hyny yn chwysu llawer, ac o ganlyniad yn sychedig. Ryw dro yn Swydd Feirionydd ar ei daith, wedi chwysu wrth bregethu, a chael " tipyn yn o lew " o gar- edigrwydd, pan aeth allan i'r gwynt effeithiodd arno nes oedd yn gwbl feddw. Yr oedd yn preswylio yn Meirionydd hen wr o bregethwr cymeradwy,ond ei fod dipyn ynPhariseaidd,acyn geryddwr Uym; yr oedd yntau hefyd yn dra thew, er nad fel Dafydd Morris (nis dywedaf ei enw). Gan fod Owen Enos yn dra adnabyddus