Skip to main content

Cypbes Y.—Rhii 10.—Gouphenàf, 1885. CYFAILL-YR-AELWYD: ADGOFION PEDWAR ÜGAIN MLYNEDD AM GYFNEWLDIADAU YN Y BYD CELFYDBYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL Gan y Parch. Evan Evans (Nantyglo). Llythyr X. ADGOFION AM EOWLANDS LLANGEITHO. Y Seiat gyntaf tn Nghapel Llangeitho— Dysgu Darllen ar ol Priodi—Dechreu Dysgu ar Gof yn Bedwar Ugain Oed—Gweddio ar Draed a Dwylaw —Pregeth Pum Awr—Y Gallery yn Tori—Dweyd " Amcan "— Curad i'r Wasanaeth Deuluaidd—Y GWAHANIAETH RHWNG Cl A DAFAD—PeTER WlLLIAMS YN ClLYCWM, A DüW YN FFRAINC—WlLLIAM6 PaNTY- CELYN AR EI BRENTISIAETH. T(^g_LYWAIS fy nhadcu yn adrodd y modd y ^îíw dechreuwyd cadw cyfeillach (society) yn ^%> hen eglwyg Llangeitho cyn i Rowlands gael ei droi o'r Fglwys. Nid cedd fy nhadcu ond bachgenyn y pryd hwnw. Yr oedd y rhan amlaf o'r penau teuluoedd oedd yn y plwyf yn arfer derbyn y cymundeb. Daifu i Rowlands ar ryw Sabboth, cyn gollwng y gynulleidfa, gyhoeddi y dymunai i gynifer ag a allent o'r penau teuluoedd ddyíod i'r eglwys erbyn deuddeg o'r gloch dydd Mercher i'w gyfarfod ef, y dymunai gael siarad â hwy. Yr oedd fy nbadcu yn cofo fod fy hendaid a'm hen-nain (ei dad a'i fam ef) yn siarad â'u gilydd wedi dyfod adref, a bod ei dad yn dweyd : " Nis gwn yn y byd beth mae Mr. Rowlands yn wneyd â ni dydd Mercher ; ond gan ei fod yn ceisio genyf, mi af yno i gael gweled." [Mae genyf hen gofnodion oeddwn wedi ysgrifenu ar hyn.] Ymgasglwyd dydd Mercher yn ol y cais. Y neges oedd gan Row- lands oedd eu cynghoii i fyw yn ddiwiol a meithrin crefydd ymarferol. Yn mysg pethau ereill, am iddynt gynal addoliad teuluaidd yn eu tai; am i'r sawl oedd â Beibl yn eu tai ddarllen penod, os oedd rhywun yn y teulu yn medru darllen ; ac yna i'r penteulu i weddio ; a'r sawl oedd heb Feibl, neu heb neb yn y tỳ yn medru darllen, i weddio gyda'r teulu ; ac am iddynt ddyfod yno erbyn deuddeg o'r gloch Mercher canlynol, iddo gael siarad rhagor â hwy. Oddiar hyny mae y gyfeillach yn Llangeitho ganol dydd ar ddydd Mercher hyd yn bresenol, oddieithr ar yr wythnos cyn Sabboth cymundeb, pryd mae ganol dydd Sadwrn. Dechreuwyd felly er cyf- leusdra y rhai a ddeuent o bell i Llangeitho erbyn Sabboth y cymundeb, fel y gallent gael cwrdd parotoad ; ac ar ddydd Sadwrn y mae ar yr wythnos hono eto, er nad oes, er's rhai oesoedd, rai yn dyfod o bellder gwlad fel yr oedd y pryd hwnw. Nis gwn a fedrai fy hendaid ddarllen, ond gwn am fy nhadcu mai ar oi priodi y dysgodd ef ddarllen ; a daeth yn ddarllenwr rhwydd ac yn dra chyfarwydd yn y Beibl, ond nid oedd wedi dysgu dim o hono ar ei gof tan yr oedd yn bedwar ugain oed. Y pryd hwnw, cafodd ddamwain, a thorodd ei glun ; d phan yn gor- wedd tros wythnosau o herwydd hyny, dysgodd nifer o benodau ar ei gof; ac adroddai benod bob nos cyn myned i'r gwely i'w cadw oll ar ei gof tra bu byw. Yr oedd yn bedwar ugain a chwech pan fu farw, ac mae tros driugain a deg o fiynyddoedd oddiar hyny. Ond i ddychwelyd at hanes yr addoliad teulu- aidd. Ymaflodd fy hendaid ynddo yn ddioed. Nis gwn a oedd ef neu rywun arall yn darllen penod, oblegid yn nghylch y gweddio yr wyf yn cofio fy nhadcu yn adrodd. Cafwyd 'chydig anhawsdra i gael gan rai o'r teulu fyned ar eu gluniau. Ystolau tair troed isel oedä ganddynt, a galwent'fyned ar eu gluniau ar bwys yr ystolau yn fyned ar eu traed a'u dwy- law. Cafwyd gan y plant " fyned ar eu traed a'u dwylaw " heb lawer o drafferth, ond yr oedd y gwas a'r forwyn yn gomsdd ar y cyntaf ; ond cafwyd yn mhen enyd ganddynt hwythau "fyned ar eu traed a'u dwylaw." Yr oedd prinder Beiblau yn y wlad y pryd hwn, er fod llawer wedi eu dosbarthu cyn hyny ; ac yr oeddynt yn brinach yn y Gogledd nag yn y Deheu. Yr oedd hyn cyn amser y Parch. Peter Williams, ac yr oedd y rhai fedrent ddarllen yn anaml, er fod y Parch. Griffith Jones, Llanddowror,wedi gwneyd, ac yn parhauy pryd hwnw i wneydymdrechgyda'r ysgolion dyddiol «ymudol Cymreig i ddysgu y