Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfres V.—Rhif 9.—Mbhbpin, 1885. CYFAILL-YR-AELWYD: <S>0vMM pteJrt at Wmmtt% # $ym*g. iDGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL. Gan y Parch. Evan Eyans (Nantyglo). Llythye IX. STCHU YsGUBAU'b DlWTGIAD—Pebebinion Llangeitho a Llettgabwch Nhadcu—Hen Gapel Llangeitho —Dbws t Defaid a Dbws t Geifb—" Tòno " 'r DlWTGIAD—"Y PWLPUD MLáWB " a'b "PwLPUD Bach." EAE y Proffwyd Zechariah (xii. 6) yn proffwydo am lwyddiant yr Efengyl trwy ddyweyd y byddai tywysogion Judah (gweinidogion Orist) fel ffagl o dân mewn ysgub o wellt. yn ysu yr holl bobloedd o am- gylch. Khaid cael yr ysgub yn sych cyn y gwna ffaglu. Rhoddi tân yn yr ysgub ar ol ei sychu oedd y gwaith roddwyd i Rowlands, Llan- geitho. Yr oedd ereill wedi Uafurio i gasglu a sychu yr ysgub cyn ei eni ef, a Llwynrhys oedd canolfan y gwaith hwnw. Yr oedd Evan Hughes a fwriwyd allan o Eglwys Llandyfriog yn 1662 (hynafiad y Parch. David Hughes yn y seithfed genedlaeth) wedi Hafurio Uawer, ac fel ei olafiad, Dafydd Evan Hugh (taid David Hughes) yn cymeryd dyddordeb mewn Ysgol Ddarllen Sabbothol; David Jones, brawd John Jones, Llwynrhys; JenMn Jones, mab John Jones ; David Edwards, mab Mr. Edwards, Deri Odwvn, brawd " Margad" Llwynrhys, ac felly yn gefnder i Jenkin Jones, a Mor^an Howeìl, yr hwn gafodd drwydded yn 1672, tan y Declara- tion of Indulgence, i bregethu yn Llwynrhys ; ac ereill yn y cvfnod hwnw; a Phillip Pugh wedi hyny, wedi Hafurio yn wyneb anhawsderau. Wedi caeì Deddí Goddefiad, ymledodd i Lwyn- piod, Blaenpenal, Abermeurig, Oiliau Aeron, Cilgwyn, Cellan, a lleoedd ereill, amgylch ogylch Llangeitho, cyn amser Rowlands. Soniais am Morgan Howell yn cael trwydded i bregethu yn Llwynrhys. Gwr cyfoethog a bardd, ond erlidiwr chwerw cyn ei droedigaeth, fel Saul o Tarsus. Wele isod englyn o'i eiddo cvn ei droedigaeth i Walter Oaradog, ac un arall iddo wedi ei droedigaeth. (Gwel Traethodydd, Hydref, 1848.) CYN EI DROEDIGAETH. "Dyma fyd trwm ofid—i'w drin. Nid pregeth ond brogiach heb wreiddyn, Gan ryw ö'radog o grwydryn, Cenadwri diawl swyn hudawl ddyn." WEDI EI DROEDIGAETH. " Gan C'radog gwr enwog—câr ni . . Cawn bregeth nid brogiach heb wreiddyn, Y gair gwir, tyst cywir, yw'r testyn, Cenadwr Duw hynod ddyn." Yr achos fod y llinell gyntaf o'r ail eDglyn yn anorphenol yw fod yr ysgrif y cafodd y goheb- ydd i'r Traethodydd yr englynion ynddi wedi ei dryllio. Ar ol amser y dynion da a enwyd, cafodd yr eglwysi oedd mewn rhanau mwy deheuol o'r wlad eu llygru gan gyfeiliornadau, ac aeth rhai o honynt yn raddol yn Undodiaid, ond yr oedd yr hen elfen Buritanaidd yn rhy gryf yn y parth dan sylw i hadau Satan egino: cadwodd y parthau o'r Cilgwyn i fyny at hen athrawiaeth Llwynrhys. Gwnaed terfysg yn y Cilgwyn trwy i ddyn cyfoethog fynu gweinidog Armin- aidd yno i bregethu, ac aeth nifer fawr oedd yn Galfiniaid sefydlog allan, ac adeiladasant gapel Ebenezer ; ac yn eu mysg yr oedd fy nhadcu, tad fy mam, sef Josuah Daniel, Bwlchwernen- fawr, yr hwn wedi hyny a fu yn ddiacon yn Ebenezer. Yr oedd fy mamgu, Cainor Daniel, yn cael ei hystyried yn uno'rihai dysgleiriaf mewn crefydd yn yr holl wlad, ac er nad oedd- ynt ond ffermwyr cyffredin, ac mewn amgylch- ìadau isel, ac mai i'r Annibynwyr yr oeddynt yn pertbyn, yr oedd eu ty yn gyrchfan i'r rhai a ddeuent bob pen mis o'r cyrau islaw iddynt i Langeitho. Byddai yn gyffredin o ngain i ddeg- ar-hugain yn cael bwyd a llety yno o brvdnawn Sadwrn tan wedi cinio'r Sabboth, er eu bod tua thair milldir o Langeitho. Bywoliaeth wledig, yn ol dull y wìad, gaent; llaeth neu gawl, a Dara haidd a bresych, &c. ; nid oeddid yn codi cloron y pryd hwnw; a digon o wellt sych yn yr ysgubor, a dillad gwelyau wedi eu rhoi yn