Skip to main content

Qmm V.—Rhif 8.—Mai, 1886. CYFAILL-YR-AELWYD: ®$UMM Pijö0l äí WVmviMt% y tfptrg. iDGOFION PEDWAR ÜGAIN MLYNEDD GYFNEWLDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL. Gan y Pabch. Evan Evans (Nantyglo). Llythyr VIII. Y Cadben o Lundain a'e Hen Ffebmwbaig—Decla- bation of Indulgence—Y Bathodyn ae goll am 150 Mlynedd—Ye Hen Gabeg Fedd—Db. Evan Davies, Abertawe. ^YMERIR yn ganiataol yn gyffredin yn ^ mysg y werin nad oedd dim goleuni crefyddol yn ardaloedd LlaDgeithio hyd nes cyfododd y Parch. Daniel Rowlands, ond camsynied yw hyny : yr oedd y wlad o gwmpas weói ei mwydo âg efengyl lawer o amser cyn ei eni ef, ond tan ei weinidogaeth ef y tywalltodd Duw ei Ysbryd yn nerthol, nes peri mwy o ddeffroad. Yr oedd. yn amser y werin- lywodraeth, bregethu, a rhai yn proffesu Crist yn mysg yr Anghydffurfwyr yn y rhan hono o'r wlad, ac un eglwys eu cyfrifid yn hir wedi hyny o Lanbedr i Lanbadarn Fawr, ond yn amryw ganghenau mewn gwahanol leoedd. Ar yr 28ain o fis Hydref, 1672, cafodd Morgan Howell drwydded tan y " Declaration of Indulgence," i bregethu yn ffermdy Llwynrhys, tua milldir a haner o Langeitho, ac oddiyno yr ymledodd pregethiad yr efengyl yn yr ardaloedd cyfagos. Yr oedd yn 1715 (ugain mlynedd cyn y diwygiad tan Rowlands) tua mil o gymunwyr gyda'r Annibynwyr o Lanbedr i fyny nes yn agos i Aberystwyth, a darfu i'r Parch. Philíip Pugh, o Blaenpenal, yr hwn oedd henafgwr pan gododd Rowlands, fedyddio yn hvd ei oes agos saith cant o blant Anghydffurfwyr. Wrth y8tyried mor anaml oedd y trigolion yn y parth tan sylw y pryd hwnw, dengys fod crefydd bur wedi cael gafael helaeth yn y wlad; ond er hyny, yr oedd yno lawer o dywyllwch ac an- nghrefydd. Hyna o ragymadrodd. Mae ty Llwynrhys dros dri chan' mlwydd oed—yn hen dy cryf, ei welydd yn lathen neu ragor o drwch, a choed y gronglwyd a'r llofft o ruddyn derw cryf, a beudy y gwartheg yn nglyn âg ef yn ol yr hen ddull, a hvd yn ddiweddar yr oedd y ffordd i'r ty trwy ystafell fechan rhwng y gegin a'r beudy, yr hon a alwent " penüawr," yr un íath a'r un y soniais am dani yn un o'm hysgrifau am Gellillyndu tan yr enw "llawr- ychen." Yr oedd wyneb y ddaear wrth dalcen uchaf y ty agos cyfuwch a'r llofft, a drws i fyned oddiallan i'r llofft er cyfieusdra i gario yr \d yno wedi ei nithio ; ond wedi i chwaer i mi fyned i drigianu yno, gwnaed drws i fyned i'r ty heb fyned trwy y "penllawr," a rhoddwyd ffenestr lle yr oedd y drws i fyned i'r llofft. Yr oedd yn amser y brenin Charles II. wr duwiol o'r enw John Jones yn byw yn Llwyn- rhys—dyn mawr, tal, a Margaret ei wraig, a chanddynt amryw o blant. Eu hiliogaeth hwy yw y teuluoedd sydd yn bresenol yn y Glyn IJchaf ac Abermeurig, a Llanio Fawr, a lleoedd ereill. Mae traddodiadau hynod am y John Jones hwnw—maent, o leiaf, o ran eu swm yn wir, er y dichon fod rhai o'r manylion yn ddychymygol. Yr oedd John Jones yn pregethu yn achlysurol er nad yn weinidog urddedig. Mae yn ystadegau swyddcgol yr Anghydffurfwyr yn y cyfnod hwnw yn cael ei alw " John Jones, elder elect" Yr oedd ei fab henaf, yr hwn oedd wedi cael addysg dda, wedi myned i Lundain, ac wedi myned i wasnnaethu y brenin, a'i osod yn gadben ar y guard oedd yn amddiffyn person y brenin. Mae yr hanes hyd yna yn ffeithiau sicr. Mae traddodiadau yn nglyn a hyn ag y y mae yn ymddangos yn sicr eu bod mewn rhan yn ffeithiau, er fe allai fod gradd o ddychymyg- ion wedi eu cysylltu â hwy. Pan ddeddfwyd deddf cydffurfiad gan Charles II. yn 1662, ac y bwriwyd tua dwy fil o weinidogion o'u heglwysi, gwarafunid i neb bregethu na gweddio yn gyhoeddus heb drwydded esgob; ond yr oedd John Jones yn pregethu yn y nos mewn lleoedd dirgel. Yr oedd ei fab, sef y Cadben Jones, mewn ffafr neillduol gyda'r brenin, ond o her- wydd nad oedd y pryd hwnw drefniant hwylus i drosglwyddo Dythyrau, nac ychwaith un ffordd y gallai rhai aent ar negesau o Gymru i Lundain wybod dim yn nghylch pwy na pha fath rai oedd yn gweini i'r brenin, nis gwyddai ei rieni ddim o'i hanes, na pha un a oedd yn fyw. Ryw