Skip to main content

Crraas V.—ähif 7.—Emwll, 186i. CYFAILL-YR-AELWYD: êÿìwtMM ^iiM ai Wmmtt% y ëymnj. iDGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD AM GYFNEWLDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL Gan y Parch. Evan Eyans (Nantyglo)'. Llythyr VII. Shon Dafydd yn Gofyn Bendith ar y Bwyd—Y Ddau Ddyn Meddw—" Ye Offeiriad Main "—Rowlands llangeitho—john wllliams, pantycelyn—glaniad y Ffrancod yn Sir Benfro. ID wyf yn adrodd fy adgofion yn ol trefn eu hamser, ond fel y maent yn dyfod i'm cof. Ýchydig wyf yn gofio am y diweddar Barch. Thomas Gray, Abermeurig, er i mi ei weled rai gweithiau pan oeddwn tua phump a chwe' blwydd oedd ; ond yr wyf yn cofio yn dda ain un o'i aelodau a gyfrifid vn dduwiol iawn, sef John Davies y gwehydd, Ty- nant. Adroddwyd wrthyf am Mr. Gray ryw dro yn myned i dỳ Shon Dafydd (fel ei gelwid) pan oedd y teulu yn myned i giniaw—ciniaw go syml, mae yn debyg. Yr oedd Mr. Gray wedi cael cinio yn rhywle cyn myned yno. Aeth y teulu at eu bwyd heb ofyn bendith arno. Sylwodd Mr. Gray, a dywedodd : "0 ffei! Shon Dafydd ; p'am yr ydych fel yna yn myned at eich bwyd heb ofyn bendith ?" Atebodd Shon : " Yn wir, Mr. Gray, yr wyf am i'r plant bach gael eu tamaid tan fendith yn gystal a'u mam a minau, ac y maent hwy yn gwaeddi am fara a chaws neu frechdan lawer gwaith yn y dydd, ac nis gallaf ddim dyíod o'r gwŷdd bob tro y bydd eisieu bwyd arnynt. Y ffordd wyf fí yn gy- meryd yw gofyn bendith ar y cwd a'r blawd pan ddelò i'r tỳ; a'r un fath ar y eosyn ac ar yr ymenyn a phobpeth ar ei ddyfodiad cyntaf i'r tỳ." Mae yn ymddangos mai felly yr arferai Shon wneyd, a'i fod yn ofalus i wneyd felly. Adroddwyd wrthyf am fachgen a gradd o golled arno yn mynèd i dy Shon Dafydd wedi iddo heneiddo. Gwelodd, cyn myned at y ty, hen wr penwyn tebyg iddo, a meddyliodd mai Shon oedd ; ond wedi myned i'r ty, gwelodd Shon ei hun yn y gwydd gyda'i waith, a'i wallt fel llin, a dywedodd vn uchel a chynhyrfus : " D-----1 ! maè dau Shon Dafydd! " Adroddwyd wrthyf gan hen wr cydnabyddus â Mr. Gray ryw bethau yn ei hanes ag sydd efallai yn ddyddorol. Wedi clywed gan rai hen ach nag ef yr oedd yntau. Brodor o ger Treforis Morganwg, oedd Mr. Gray, a glowr wrth ei alwedigaeth ; a phan yn ieuanc, yn feddwyn ac yn dra annuwiol, ond cwbl onest. Dygwydd- odd i genadwri ddyfod yn hwyr ryw noswaith at reolwr y gwaith am iddo yru swm o arian i Gastellnedd i gyfarfod rhywun erbyn saith o'r gloch boie tranoeth. Gan na allai fyned ei hun, meddyliodd am Twm Gray ei fod yn gwbl onest, ac os gwystlai ei air i beidio myned i dafarn tan wedi cyfiawnu ei neges, y byddai yn sicr o wneyd felly. Aeth ato i'w lety, galwyd Twm o'r gwely, ac addawodd yntau gwbl orphen ei neges cyn myned i'r dafarn. Boreu tranoeth, pan oedd cydweithwyr Twm yn myned i'r gwaith, torodd rhaff y cawell oedd yn eu gostwng, a cbafodd pob un ei ddiwedd, ond yr oedd Twm ar ei ffordd i Gastellnedd cyn hyny. _ Gwnaeth ei neges yn ffyddlon, a chan fod ei feistr wedi rhoddi 2s. 6c. iddo i'w gwario, aeth ar ol hyny i'r dafarn, lle bu hyd nos : cychwynodd tuag adref rpgor na haner meddw. Pan ger He o'r enw Llwyn- brwydrau, syrthiodd yn y tywyllwch ar draws dyn meddw arall oedd yn gorwedd ar ochr y ffordd. " Holo," ebe hwnw, " pwy sydd yma ?" " Twm Gray," ebe yntau. " Taw a dy geìwydd," ebe hwnw, " mae Twm Gray yn uffern oddiar chwech o'r gloch boreu heddyw." Nid oedd Twm mor feddw nad oedd yn amgyffred y dy- wediad, a chreodd y gair y pryd hwnw ryw arswyd ynddo ei fod ar y ffordd i uffern ; ond wedi myned adref a gwybod am y ddamwain, eredodd mai yn uffern y buasai onibae cyfryng- iad rhagluniaeth, a bu yn fath arall o ddyn o'r dydd hwnw allan ; a sylwai yr adroddwr y medrai Ysbryd Duw ddefnyddio gair o enau dyn meddw i ail-eni dyn meddw arall, a'r ddau yn feddw ar y pryd. Daeth Gray yn aelod eglwysig yn ddioed, a chan ei fod o allu meddyliol cryf ac yn rhwydd ei ymadrodd, nid hir y buwyd cyn ei gymhell i bregethu ; ond yr oedd rhywbeth yn ei ddull yn wledig a garw, ac yr oedd yn gyfiredin yn dra