Skip to main content

Ctfus V.—Rhif 6.—Mawrth, 1885. CYFAILL • YK • AELWYD ë$UtUM Ptó0l at wtmmtb # <&mty> ADGOFION PEDWAR ÜGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL Gan y Paech. Evan Evans (Nantyglo). Llíthye VI. Y Telegeaph a Chliftd t Tato—Ianto a'b MOCHTN—JOHN EvANS T BäLA A JoHN JoNES, Edetbn—Y Ddbaig—" l£i Spaeia' nhw i osod Shon TW FeENIN!"—SlENCTN PeNHTDD, EbEFEZEE Eichaeds, a The. Jonbs, Tbegabon—Spabio Sport CtTHBBULIAID—WlLLIAM JoNES, TtCOBNEL, a'e CwBDD Diolchgaewch. R oeddwn ar fy nhaith yn Swydd Ceredigìon y flwyddyn y dechreuodd y malldod ar y cloron, ac ar ryw noswaith, pan yn lletya mewn ty fferm, gofynodd gwr y ty i mi, "A welsoch chwi y telegraph, erioed ?" "Do," ebe finau. "Pa fath beth ywf " Wire wedi ei gosod ar ben pyst uchel oddi- wrthym ni i'r dref nesaf, neu i Lundain oddi- yno." " Pa fodd y maent yn gallu gvru llythyrau mor gynted ar hyd ywire?" "Nid gyru Hythyrau y maent." "Beth, ynte?" " Ohwi welsoch gwmpas y morwr. Mae gan- ddynt beth go debyg î hwnw, a llythyrenau ar ei wyneb, a nodwydd yn debyg i nodwydd y ewmpas, a chwmpas arall yr un fath yn Llun- dain; ac y maent yn troi pen nodwydd y cwmpas sy' gyda ni at y Uythyrenau bob yn un i wneyd gair, yr un fath a spelian, a bydd nodwydd y cwmpas sydd yn Llundain yn troi yr un pryd at yr un llythyrenau i wneyd yr un gair yno, ac fel hyny y maent yn deall eu gilydd." " Beth sydd yn myned ar hyd y wìre oddiwrthych chwi i droi'r nodwydd yn Llundain ?" "Electricity." "Beth yw hwnw?" "Peth o'r un natur a'r mellt." " Ble mae nhw yn ei gael ?" "Yn yr awyr; mae digon q hono yno yn ^astadol." " Ac mae'r dynion yn tynu'r mellt o'r awyr î'r telegraph ?" "Ydynt." "Gwarchod ni! yr wyf yn deall yn awr beth sydd ar y potaêoes; maent yn wastad yn myned yn waeth ar ol meUt a tharanau. Oni rydd y llywodraeth stop ar beth o'r fath yna, hwy ddystrywiant y potatoes trwy yr holl wlad. Y gwyr mawr yn ffaelu gweled eu hunain yn gwasgu digon ar y tlodion hebroi*rbobl i dynu'r mellt ì'Ttelegraph, * adyitry wio'r pototoM." Yr oedd crydd yn byw tua milldir oddiwrthym, yr hwn a arferai wneyd esgidiau i ni a'u cyweirio. Yr oedd ei weithdy o fewn cwr o'r beudy; yr oedd ganddo fab o'r enw Evan, yn fachgen mawr, tal, bron dwylath o hyd. Yr oedd brawd i mi ryw ddiwrnod yno yn cyweirio ei esgidiau, a'r teulu yn myned i giniawa pan aeth yno, a'r crochan a'r cawl ar y llawr. Pan oeddynt yn bwyta daeth mochyn i mewn, ac aeth â'i drwyn i'r crochan i yfed y cawl cyn i ddynt allu ei yru allan. Yn mhen enyd gofyn- odd yr hen wraig i'r bacbgen, "A fyni di ail gawl, Ianto ?" " Na fyna i," me<ídai yntau ; *' mae'r mochyn wedi bod yn y crochan." Ebe hithau,—" Beth mae'r bachgen dwl! yr ôchr yna i'r crochan y bu'r mochyn ; ti gei di gawl o'r ochr hon." ^Boddlonodd Ianto i'w gymeryd, ond peidio eí gael o'r un ochr i'r crochan a'r mochyn. Yr oedd bachgen go hunanol yn dygwydd bod yn mhriodas fy chwaer henaf, a'r merched am gael tipyn o ddigrifwch yn ei gylch. Gwyddent nad oedd wedi arfer yfed te, os oedd wedi gweled ereill yn ei yfed, yr hyn oedd yn amheus. Gan fod y briodas yn un fawr, yn ol arfer y wlad, yr oedd yn rhaid i bawb yfed te, byrddaid ar ol byrddaid. Wedi llanw o gwmpas y ford fawr, gosodwyd bord fechan ar ei phen ei nun ychydig oddiwrthi, a galwyd Deio ati gan ddweyd, "Chwi gewch de fan hyn, Dafydd," a chafodd gadair i eistedd â'i gefn tua'r ford fawr, a rhoddwyd cwpanaid o de o'i flaen ar y ford fach, a chyrchwyd y cawg a'r siwgr iddo, a dywedwyd, " Rhowch chwi siwgr fel y dewisoch; nid y'm ni wedi rhoi dim." Rhoddodd yntau ychydig bach, fel rhoddi halen mewn cawl. Cadwodd y cwpan yn y ddysglan (saucer), ac yfodd y te bob yn llwyaid â'r llwy de, a gwrthododd, er bod yn daer arno, gymeryd ail gwpanaid. Tebygol ei fodyn dweyd yn ei feddwlfel y gwas ffermwr hwnw wrth ei feistr, wedi i'w feistres ferwi crochanáid o "gawl te" i ginio, a'i godi i'r phiolau pren i'w yfed,—"Yn wir, meistr, mae yn wéll geuyf fi gawl cig eidion na hwn eto.