Skip to main content

Cyfrbb V.—Rhii 5.—Chweíror, 1885. CYFAILL • YE • AELWYD: dÿÌtflíMiaẃ ptol at Wmutiìn ÿ «Jpnrg. /DGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL. Gan y Paech. Evan Eyans (Nantfglo). Llythyr V. Offer Gwaith—"Hen Gymro"a'r "Scotch Plow"— Cyflogau Gweisioî* a Morwynion—Coron y Flwydd- yn a'i Fwyd—Hir-nos Gaüaf a Shon Segur—Hen Ysbryd Cymreig Dai Sam—Dillad Ffroga—Cati Grac a'r Pattens. R oedd offer y ceffylau gan y rhan amlaf o ffermwyr 80 mlynedd yn ol y fath nad ydynt yn awr. Nid oedd y tresi (traces) o gadwyni haiarn ond gan rai ; deínyddid yn eu lle gareiau o groen ceffyl, y rhai a alwent "gweddau." Pan fyddai ceffyl farw, nis gwerthid ei groen, gan na cheid cymaint pris am dano ag am groen eidion, ond rhoddent ef i'r tanner i'w drin; ac wedi ei gael adref, cyn y sychai torent ef yn gareiau o tua o fodfedd i fodfedd a haner o led, a throient hwy nes bydd- ent fel llinyn caled, a rhoddid hwy ar eu hestyn yn dỳn tan y sychent. Oddiwrth hyn yr arferid yr ymadrodd am ddyn ieuanc pan y dechreuid ei ddwya at waith,—"Y mae yn dechreu cael myned i'r gweddau." Nid oedd ond cyfoethog- ion yn arfer tyrch lledr am wddf y ceffyl dan y monlcey pren ; y fath oreu oedd torch o frwyu, gwerth tua swllt neu bymtheg ceiniog, wedi ei gwneyd gan un wedi arfer â'r grefft hono. Ond yn aml gwnaed un o wellt gartref—troi y gwellt yn "rheffyn pen bys," a'i blethu yn llawer o ddyblau, ond torch wael oedd. Yr aradr ddefnyddid oedd yr un alwent " Yr hen Gymro"—aradr hir, drom, yn ddigon o lwjth ei hun, a dau ych a dau geffyl i'w thynu, os byddai y tir yn o drwm. Yr wyf yn cofio y pryd y dechreuodd y rhai mwyaf blaenllaw arfer yr aradr a alwent " Y Scotch Plow," a deuai rhai encyd o ffordd i weled pa fodd yr oedd yn aredig, ac yr oedd rhai hen bobl yn cychio yn arw o herwydd balchder y cyfryw ffermwyr. Dywedid yn mhen blynyddoedd fod gwell cnwd ar ol yr " Hen Gymro," gan ei fod yn gosod y gwys i sefyll ar ei hochr, tra yr oedd y " Scotch Plow " yn ei throi â'i hwyneb i waered, ac yn cuddio y pridd goreu, ac atal yr awyr rhwng y cwysau. Dichon fod peth rhagfarn yno. Yr oedd mwy o ddefnyddio ar y car a'r cawell, yn lle cart, nag a dybir. Mae ychydig o hwn i'w weled mewn rhai íleoedd yn awr, ac y maent yn hynod o hwylus at gario pethau bychain, yn lle llusgo'r cart atynt. Yr oedd ffermwyr yn gyffredin yn cadw un at hyny, tra yr oedd y certi at bethau mwy. Gan y dichon fod llawer o'm darllenwyr heb ei weled, dichon y bydd yn foddhaol ganddynt gael desgrifiad o hono. Nid oedd amgen na dau bren hir wedi eu gosod ar gyfer eu gilydd ychydig yn llai o bellder na lled cart, ac estyll o goed gwydn o un i'r llall wedi eu gosod ynddynt—yr astell bellaf yn ol tua llathen oddiwrth y bôn, a phren crwn wedi ei hoelio ar wyneb uchaf coed yr ochrau, ychydig tu ol i'r astell nesaf i'r bôn. Yr oedd pen blaen y ddau bren hir yn ffurfìo llorpan (shaft) fel eiddo cart i roddi'r ceffyl ynddi, a'r pen ol yn Uusgo ar y llawr. Yr oedd y ffermwr yn gallu gwneyd hwn ei hun, heb gyflogi saer. Pan fyddai eisieu cyrchu caraid o wellt neu wair, neu'r r.yffelyb, yr oedd ganddynt yn perthyn iddo drestl o tua llathen a haner o uchder, i'w sicrhau ar y pren crwn oedd ar y godreu, ac felly gellid gosod llwyth mawr. Yr oedd y cawell, hefyd, yn perthyn iddo. Gwnaed hwn o wiail, yn un mawr, yn ddigon i lc orwedd ynddo ; ac os byddai eisieu gyru llo neu gwpl o foch i rywle, rhoddid hwy yn y cawell, a gwellt tanynt, a gosodid y cawell a hwythau ynddo ar y car. Gan fod hwn yn beth mor ddigost, a heíyd mor hylaw (handy) at bethau bychain, byddai yn hwylusdod i bob ffermwr gadw un. Ymddengys nad oedd dim certi yn y rhan o'r wlad y'm ganwyd tuag oes cyn fy amser I. Clywais fy nhad yn dyweyd ei fod yn cofio am y cart cyntaf ddaeth i fynydd bach Llyn Aedd- wen i gyrchu mawn : cart ychain oedd, ac jr oedd yr holl gymydogaeth yn myned allan i'w weled. Yr oedd fy nhad y pryd hwnw yn fach- genyn yn bugeilio. Clywais hen bobl yn dweyd am y teulu oedd yn Gellillyndu o flaen fy nhad, eu bod gyda phedwar car, a cheffyl yn mhob un}