Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ctfbes V.—JRhif 4.—Ionawr, 1885. CYFAILL-YR-AEL^YD: ë$wMM ptoî Ät wtmwŵb g ëm*& ADGOFION PEDWAR ÜGAIN MLYNEDD GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREPYDDOL. Gan y Paech. Evan Eyans (Nantîglo). Llythyr IV. Crochan Awst—Hen Ysgolion—Howdical?—Hen Gyîieriadau Hynod — Sam Suan a'r Offeiriad— Shani Caerfyrddin a Chapel Llangeitho—Llo Llong! R oeddym ar y dydd cyntaf o Awst yn cael yr hyn alwem yn " Crochan Awst." Er nad oedd ond peth tra syml, yr oedd genym feddwl uchel am dano, a buasai gwrthod i ui ei gael yn siomedigaeth dost i ni. Nid oedd yn ddim amgen na chael myned â chrochan bychan, neu weithiau sibren, i ferwi cinio i ni ein bunain yn y maes lle yr oeddem yn bugeilio ; yr oeddem yn rhagor nag un yn ei gylch fynychaf. Os byddai bugail neu fugeiliaid y fferm nesaf a ninau yn ddigon agos i'n gilydd, byddem yn uno i gael Crochan Awst rhyngom. Caem ddarn o gig, a chloron, ac ychydig flawd ceirch, i wneyd cawl; a phiol bren, a llwy a phlad pren, a chyllell. Y peth anhawddaf oedd myned â thân, os byddai y cae yn mhell oddiwrth y ty, oblegid nid oedd y fath beth a fflamenau (matches) yn bodoli y pryd hwnw ; ond wrth losgi ychydig o un wyneb i ddwy fawnen, a'u rhoi ar eu gilydd, gallem fyned â thân yn ein dwylaw yn mhell. Felly gwnaem goginio ein cimo ein hunain, a gwledda arni fel tywysogion, gan dybied ein bod yn cael anrhydedd mawr. Caem fyned i'r ysgol dros dri neu bedwar mis yn y gauaf, os byddai rhyw fath o ysgol o fewn tair neu bedair milldir. Bum un gauaf yn myned agos bedair milldir bob dydd. Cedwid yr ysgol yn eglwys y plwyf mewn llawer plwyf; ac yn mhlwyf Llanddewibrefi, yn yr hwn yr oeddym ni, yr hwn sydd yn blwyf mawr iawn, cedwid hi yn rhai o'r capeli esgobol ar gyrau y plwyf. Yn y gauaf yn unig y byddai ysgol, os byddai o gwbl. Bum rai gauafau yn myned i gapel esgobol Betws Lleici, tua dwy filldir, dros ddaear wlyb, a Uawr pridd meddaí i'r capel, ac ol ein traed i'w weled arno, a minau weithiau wedi gwlychu'm traed wrth fyned, ac nid oedd yno dan na lle iddo. Fel hyn, cefais fy arfer er yn blentyn â'r tywydd, yr hyn a'm gwnaeth mor wydn erbyn henaint. Bum un gauaf yn myned i ysgol a gedwid yn mharlawr eang ty fferm tua dwy filldir o'm car- tref, gan ddyn ieuanc íedrai ysgrifenu a rhif- yddu yn o dda, a gallai ddarllen Saesoneg a Lladin, ond yr oedd ei wybodaeth o'r Saesoneg yn anmherffaith. Gan fod rhaid i mi ddyfrhau, a bwyda, a glanhau rhyw saith neu wyth o geffylau, ac weithiau helpu gyda thrin yr anifeiliaid ereill, byddwn ambell foreu yn ddiweddar, a deuai yr athraw ataf â'r wialen fedw yn ei law, gan ofyn yn sarug, " Where have you be tomorrow?" Pa beth dybiai Inspectors ei Mawrhydi am y fath athrawon ? Ond yr oedd yn dda genym gael rhyw fath o ysgol i ddysgu ychydig. Yr oedd dysgu y Gramadeg Lladin yn cael ei ystyried yn hanfodol i addysg yr oes, hyd yn nod pan heb wybod nemawr o Saesoneg, a'r dywediad cyffredin am ddyn anwybodus oedd, " Wyr e' ddim beth yw hic, heac, hoc." Cefais yn yr ysgolion hyn ddysgu'r Gramadeg Lladin o ben bwy gilydd ar fy nghof, a bu hyny yn llawer o help, yn mhen amçer, i ddysgu llawer o Ladin trwy hunan lafur ; ond nid oedd son am Bamadeg Saesoneg. Yr oeddid yn defnyddio moddion i ddysgu Saesoneg i ni—pa mor effeithiol, barned y dar- llenydd ; ond yr oedd yn ychydig help. Un modd oedd rhoddi pobo ddau air Saesoneg, gyda eu cyfystyr yn Gymraeg, i bob un o'r plant yn yr hwyr cyn eu gollwng, iddynt eu cofio, yn nghyd a'r cyfieithiad, i'w hàdrodd yr hwyr tranoeth, a chael rhai newydd, ac felly bob hwyr. Y gosb am eu hanghofio oedd llach galed ar y llaw â gwialen fedw. Nid oedd dau fydd- ent yn yr un ty, neu yn agos i'w gilydd, i gael yr un geiriau, rhag iddynt helpu eu giîydd, ac nid cofio yn annibynol. Peth arall i beri i ni ddysgu Saesoneg oedd y Welsh Note. Pren bach tua modfedd a haner o hyd a haner modfedd o led, a W ac N wedi eu cerfio arno. Pan eid i mewn yn y boreu, rhoddai yr athraw hwnw i un o'r plant, ac yr oedd yn rhaid iddo yntau ei roddi i'r cyntaf glywai yn dyweyd gair o Gymraeg o fewn yr ysgoldy, a hwnw drachefn i'r cyntaf a glywai