Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfäis V.—Rhií 3.—Rhagfyb, 1884. CYFAILL • YE • AELWYD: ëÿUMM pisol at Wí'mmttìn y iîjtnnu ADGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL. Gan y Parch. Evan Eyans (Nantyglo). Llythyr III. R oedd y ty wedi cael ei adeiladu yn 1704, a'r dyddiad mewn ifigyrau mawrion ar gareg yn nghom simdde fawr y gegin, ac enw perchen y Ue hefyd. sef David Samuel; a dywedid mai hen lanc oedd, a bod ei ysbryd yno pan oeddym ni yn trigianu yn y He. (Rhoddaf hanes yr ysbryd eto.) Yr oedd y ty a'r " beudy mawr " yn un adeilad hir, ac ar ei gyfer, encyd oddiwrtho, yr oedd adeilad hir arall yn cynwys ystabl, ysgubor, a beudy i'r anifeiliaid ieuanc, gan fod y fíerm yn un fawr. Gan fod yr adeil- adau â'u hyd tua chodiad y tir, yr oeddid wedi arloe&i y ddaear oddifewn yn y pen uchaf, i wastadhau'r llawr ; ac felly yr oedd y ddaear oddiallan yn y cefn, yn y pen ucbaf i'r adeilad. yn cyrhaedd at y to, a'r ydlan yn y cefn. Yr oeddid wedi gorchuddio y trum o ben bwy gilydd â thyweirch wyneb daear, llydain, teneu- on, i ddyogelu'r top rhag i'r gwynt chwalu'r to ; ac felly gallasai dyn fyddai a'i ben yn ddigon cryf i beidio dotio, gerdded ar y trum ; yr oedd- wn inau, er pan wyf yn cofio, yn dra diofh, a dywedodd un gwr parchedig yn Swydd Fynwy fy mod fel y lefiathan yn Llyfr Job, " wedi fy ngwneuthur heb ofn-" Pan oeddwn tua phedair neu bum' mlwydd oed, ymgripiais rhwng y barau i'r ydlan, a dringais i'r to ac i ben y trum, a sef- ais ar fy nhraed, a cberddais y trum hyd y pen isaf, lle yr oedd yr adeilad uwchaf. Yn y cyf- amser daeth fy mam, yr hon oedd i raddau \n wyllt ei thymer, allan o'r ty, a gwelodd fì ; gwaeddodd " Hiwbwb! hiwbwb !" nerth ei cheg, gan feddwl mai cwympo tros yr adeilad wnawn, a cholli fy mywyd, a gorweddodd ar ei hwyneb ar y ddaear yn y clôs, fel na welai fi yn cwympo. Daeth y merched allan, a brawd i mi oedd tua 12 neu 13 oed, a dywedodd fy mrawd y gallai ef fyned ataf trwy fyned ar hyd y trum ar ei draed a'i ddwylaw ; dywedwyd wrthyf finau am aros yn llonydd—y deuai fy mrawd i'm helpu i lawr. Pan welais fy mrawd yn myned i'r ydlan, rhed- aia fel gwiwer ar hyd y trum tua'r pen uchaf i'w gyfarfod, a'm mam a'r merched yn gwaeddi gan ddychryn ; a chyn i'm brawd allu cyrhaedd y top, yr oeddwn i yn cripio y to y tucefn i'w gyfarfod. Gan fy mod wedi defnyddio'r gair "clôs," mae angen eglurhad arno. Clôs y gelwir yn y rhan bono o'r wlad y ]le agored o flaen y ty rhyngddo a'r tai allan, yr hwn a elwir mewn rhai manau yn Nghymru " buarth," ac mewn manau ereill " cae'r ty ;" ond yn y Gogledd gelwir clôs ar lodrau (breeches). Pan yn son ani glôs, yr wyf yn cofio am helynt y diweddar Barch. David Jones, Beddgelert, gyda phregethwr arall ar daith yn Swydd Gaerfyrddin, pan ger Llandybie, yn gofyn y ffordd tua tby un Mr. Jones. Dywedodd y gwr yr oeddynt yn gofyn iddo,— " Ewch yn mlaen nes gweloch lidiart ar y llaw dde ; ewch trwy hwnw, a chwi ewch i glôs Mr. Jones." " I glòs Mr. Jones 1" ebe David Jones. " Ie," ebe'r gwr, " i'r clôs." " Beth wnawn â'r cefiylau?" ebe David Jones. "Ewch â hwy gyda chwi," ebe'r gwr. "Wel," ebe David Jones, " tebygol nad ydym ni yn eich deall," a chan ymaflyd â'i law yn nghlun ei lodrau, dywedodd, " Clôs yr ydym ni yn galw hwn !" Yr wyf yn cofio fy mod, pan tua thair blwydd oed, yn edrych ar fachgen oedd yn was yno yn hollti careg fawr, ac i ffroga byw neidio allan o honi, a bod gwagle yn y gareg lle yr oedd yn aros. Yr oedd y peth mor hynod fel y cofiais ef ar hyd fy oes. Bum yn edrych ar y ffroga, ac yn ei wthio â blaen gwialen, ond nid llawer sy- mudai, ac nid hir y bu byw wedi dyfod allan i'r awyr. Yr oeddwn yn goíyn i'r bachgen pa le yr oedd y ffroga yn cael bwyd yn y gareg, ac yntau yn ateb nas gwyddai, os nad oedd yn bwyta y gareg, a meddyliais mai wedi bwyta y gareg yr oedd i wneyd yr ystafell lle y preswyliai. Nid oedd y cloddiau a'r perthi i atal yr anifeiliaid i'r caeau llafur yn gyffredin ond an- mherffaith, a llawer man heb ddim i gau rhwng y tir llafur a'r tir pori; ac felly rhaid oedd bugeilio'r anifeiliaid trwy'r dydd ar bob tywydd, nes cael y cynhauaf i mewn; ond byddai rhywle dyogel i'w gyru iddo tros nos. Oblegid hyn, byddai y plant pan yn dra ieuanc yn goríod bod