Skip to main content

Cyfbes V.—Rhif 2.—Tachwedd, 1884. CYFAILL • YE • AELWYD: ë0MMl%& fp*al at Wmwwth y öüymry. ADGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL. Gan y Parch. Evan Evans (Nantÿglo). Llythyr II. R oedd llawer o dai'r gweithwyr yn y wlad yn dra gwael. Peth cyffredin, lle byddai fferm o gryn faint, oedd fod yr hyn alwent " Ty deiliad bach" ar ryw gẁr o honi, fel y gellid cael hwnw yn weithiwr hur ar y fferm, a byddai yn cael lle i gaHw buwch, ac ambell un ddwy fuwch. ' " Deiliad bach " ei gelwid pe byddai cymaint a Goliath. Ty o wal bridd, a tho brwyn neu redyn, ac heb lofft na dim plastro gwelydd tu fewn ; ac os rhenid ef yn ddwy ystafell,gwnaed y palis rhyngddynt o byst polion cyffredin, a phlethu gwiail am danynt. ac yn aml byddai beudy'r fuwch yn yr un adeilad, a phalis gwiail rhyngddo a'r lle byddai'r teulu. Yr oedd cyflog y " deiliad bach " yn gyffelyb i'w dy. Adwaenwn deulu o wr a gwraig a thri o blant yn byw mewn lle felly, a'r gwr yn cael yn y gauaf chwé cheiniog y dydd o gyflog, a'i fwyd y dyddiau gwaith, a'i ginio dydd Sul; ac yn y gwanwyn a'r hydref, swllt cyflawn y dydd a'i fwyd ; ac yn yr haf, deunaw ceiniog a'i fwyd ; ac yr oedd y gwr hwnw yn gallu cynilo arian o'r gyflos: hono, a chyn bod un o'r plant wedi dyfod i oedran i allu eu helpu, yr oedd wedi gallu myned â'i deulu gydag ef i America ; a thrwy ei fod wedi dysgu byw yn ddarbodus, casglodd yno gyfoeth, fel yr oedd blynyddoedd ei henaint wedi ymneillduo ac yn byw ar log ei arian, efe a'i wraig. Dyma'r gwr y bu ei hanes gynt yn \Y Fellte?i, gafodd haner mochyn am wneyd par o glogs i'r Ynad Heddwch troed- noeth. Yr ydys yn barod i ofyn pa fodd yr oeddynt yn byw. Yr ateb yw, yr oedd y wraig yn gwneyd digon o gaws ac ymenyn i'r teulu oddi- wrth laeth y fuwch (digon neu beidio, hyny gaent) ; ac yr oedd hi a'r plant yn lloffa ar amser y cynhauaf lawer o ddefnydd eu bara haidd ; yr oedd yn gwau hosanau i'w gwerthu, ac yn cadw amryw ieir, ac yn gwerthu eu hwyau ; prynent ddau fochyn bychain yn y gwanwyn, y rhai a helient eu bwyd tros yr hat, gyda chael ychydig olchon a chrafion cloron, &c ; a thewheid hwy tua diwedd y flwyddyn, a gwerthid un a lleddid y llall i gael cig : ac fel hyny yr oedd rhan o chwe' cheiniog cyflog y gwr yn cael ei arbed. Mewn perthynas i ddillad, nid oedd eisieu dim ar y traed yn yr haf ond i fyned i'r capel y Sabboth, byddai clogs coed yn gwasanaethu iddynt y gauaf. Caid hen esgidiau oedd teulu'r ffermwr wedi droi heibio i gael cefnau i'r clogs, a gwnai y gwr hwy yn yr hwyr wedi gadael ei waith. Byddai ganddynt yn gyffredin bob o bar o esgidiau a alwent yn "esgidiau parch," ac os na pharhäi y rhai hyny o leiaf o flwyddyn a haner i ddwy flynedd, melldithid y crydd. Mewn perthynas i'r dillad corff. yr oeddynt oll o waith cartref—yn cryfion a pharhaus. Cai y wraig swm o wlan am helpu rhyw ff'ermwr ar amser prysur y cynhauaf, neu os dygwyddai i ddafad farw, ca'i dynu'rgwlan oddiarni, a rholiai a nyddai ef gartref, gan ofalu rhoddi digon o dro yn yr edau iddi fod yn gief; rhoddid hi i'r gwehydd i'w gwau, ac i'r panwr i'w phanu, ac felly byddai yn ddefuydd cryt i fod yn ddillad parhaus. Yr oedd llawer o ddefnydd y rhyw fenywaidd nad oedd dim panu arnynt ond presu trwy eu rhoi yn blygiau, a glydlen (pasteboard) rhwng pob plyg, mewn gwres, a phwysau arnynt. Panid ychydig ar fathau ereill, ond panid defnydd dillad y gwrywaid yn dew, ac felly byddai yr oll yn gryf, ac o hir barhad. Deuai y dilledydd i'r ty i'w gwneyd. Efe fyddai yn gwneyd dülad y meuywod yn gystal ag eiddo y gwrywod, a byddai ef, ac yn aml ddau neu dri o'i weithwyr, wythnos neu ragor yn yr un ty, ac yn cael eu talu wrth y dydd. Ỳr wyf yn cofio un bach^en direidus, pan yn gwnio gyda'i dad yn Gellillyndu yn yr hat, yn cael tori gwallt ei dad ar ol gadu y gwnio, ac o herwydd rhyw grcesineb fu rhyngddynt yn y dydd, yn tori daru o glust ei dad, ac yn ffoi i dy ei dadcu. Yr wyf yn cofio'r dechreuad yn y gymydogaeth o gael gwniedyddesau i wneyd dillad y menywod. Clywais fy nhad yn adrodd ei fod yn cofio pan yn fachgenyn fod tadcu y bachgen dorodd glust ei dad yn dyfod i wnio i Gaerlluest (a elwir yn