Skip to main content

Ctprbs V.—Rhif 1.—Hydref, 1884. CYFATLL ■ YR • AELWYD: ADGOFION PEDWAR UGAIN MLYNEDD AM GYFNEWIDIADAU YN Y BYD CELFYDDYDOL, CYMDEITHASOL, A CHREFYDDOL. Gan y Parch. Evan Evans (Nantyglo). Llythyr I. i tEBYGOL yr esgusoda darllenwyr a dar- llenesau y Cyfaill lawer o wallau yn ysgrifau hen wr. Yr wyf yn cofio dy- wediad nen wr go chwerw ei dymer er's tua thriugain a deg o nynyddoedd, pan y gelwais ef wrth yr enw " hen ddyn," dywedodd yn o sarug: " Ti ai yn hen dy hunan os na chei dy grogi yn ieuanc." Gan na allodd fy ngelynion, er cymaint eu llid, wneyd hyny â mi, er i un o honynt ddyweyd y dylasid fy rhoddi rhwng pedwar anifail gwyllt i'm tynu yn bedwar chwarter, yr wyf trwy diriondeb Ior wedi cael byw i fyned yn hen, ac er henaint, yn iach a gwisgi; ac yr oeddwn yn ddiweddar yn cynyg rhedeg rhedegfa (race) âg un dyn haner cant oed nad oedd yn ddirwestwr ; fod wyth mlynedd a deugain ac uchod o ddirwestiaeth wedi gwneyd â mi agos cystal ag y gwnelsai y felin y clywais gynt ei bod gan y "tylwyth teg" i falu hen bobl i'w gwneyd yn ieuainc drachefn. Ond, er hyny, mae henaint rywbeth yn wahanol i'r hyn oeddwn yn dybied gynt. Heblaw byny, mae yn debyg fy mod yn ddyn od. Dywedwyd am danaf lawer gwaith—" Nid yw cot neb yn ffitio iddo ef, na'i got yntau yn ffitio i neb ond ei hun." Cofier, gyda llaw, mai geiriau Cymraeg pur yw cwarter, od, a cot. Mae chwarter yn deilüo o'r gair cywar (four- sided), od (singular or notable), cot, y menyw- aidd o cwt (a short tail), dilledyn ar y tucefn. Ûan fy mod yn od ac yn hen, gellir dysgwyl rhy w bethau od yn fy ysgrifau, nid od rnewn rhagorol- deb, ond od raewn^ dull gwahanol i'r cyffredin : ac yr wyf yn od hyd yn nod yn y papyr wyf yn ddefnyddio i ysgrifenu. Mae Uawer o'r pethau fwriadwyf grybwyll yn bethau glywais gynt gan hen bobl, a llawer yn bethau welais, a rhai yn bethau mae genyf hen gofnodion wyf rywbryd wedi ysgrifenu yn eu cylch. Mae'r byd yn cyfnewid, nid yn unig yn ei arferion, ond hefyd i raddau yn agwedd y ddaçar, nid trwy waith celfyddyd na Uafur dynol, ond trwy weithredoedd natur. Mae Job yn cyfeirio at hyn (Job xiv. 18, 19). Mae mynydd yn Swydd Ceredigion, rhwng Llangeitho a Llanrhystyd, a elwir Mynydd Bach Llyn Aeddwen. Mae y rhan fwyaf o hono yn awr wedi ei wneyd yn ffermydd. Yr oedd gynt dri o lynoedd go fawrion arno, sef Llyn Aedd- wen, Llyn Fanod, a Llyn Farch : ond dywedir fod yr oll o Lyn Farch yn awr wedi troi yn gors Mae tros haner can' mlynedd er pan bum yn ei olwg ddiweddaf. Bum pan yn fachgenyn yn myned i ben Bryn Tair Llyn, Ue y gellid gweled y tair o'r un man ond troi'r wyneb i wahanol gyfeiriadau ; ond yr oedd tua haner Llyn Farch y pryd hwnw yn fath o gors siglenog, na alîai neb anturio iddi, a'r haner arall yn ddyfroedd nofiadwy. Dywedai fy nhad, yr hwn a anwyd ac a fagwyd mewn ffermdy o'r enw Cae'rlluest (ond a elwir yn gyffredin Garlligest), wrth odreu y mynydd, fod yr oll o hono yn ddyfroedd nofiadwy pan oedd ef yn fachgenyn. Dywedwyd wrthyf yn ddiweddar fod y rhan o'r llyn oedd yn ddwfr pan oeddwn i yn fachgenyn, yn awr yn gors siglenog, a'r rhan oedd y pryd hwnw yn gors siglenog yn awr wedi caledu yn gors fawn. Ganwyd fy nhad yn 1767, felly buasai yn awr yn 117 pe yn fyw. Felly llyn mawr yn troi yn gors mewn yn nghylch can' mlynedd. Yr wyf yn cofio pan yn dair-ar-ddeg oed, fy mod ar dro yn Llanddewi-aber-arth, fod hen wr o'r enw Jack Daniel Rees gyda mi ar y ddôl fechan rhwng y pentref a'r môr ar y tu gogledd, ac yn dywedyd wrthyf fod ei dadcu yn cofio'r llanw yn dyiod tros y gwastadedd hwnw oedd yn borfa gwartheg, a bod llongau yn dyfod i fyny hyd y fan oedd ef yn ddangos, ond fod y môr yn raddol wedi gweithio'r tywod a'r gro i fyny, nes cau ei hun allan ; ond am y traeth rhwngyno ag Aberaeron, ei fod ef ei hun yn cofio llawer o hwnw yn ddaear llafur dda : fod y môr, yn enwedig yn y gauat, yn ouro yn erbyn y dorlan o ddaear frau, dda, ae yn cario rhan o honi ymaith bob blwyddyn. Mae yn gyffelyb mewn llawer ardal a llawer gwlad. Dywedir fod ffrwd fawr y Niagara yn America yn treulio