Skip to main content

Cyfres IV—Ehif 11.—Awst, 1884. CYFAILL-YR-AELWYD: ö^Jwŵŵít ^M$ẁ at Wtimmtíh \j t&ijmnj. Y GWLADGARWYR! GAN Y MEISTRI ERCKM ANN-CH ATRIAN. (Cyfaddasiad arbenig i "Gyfaill yr Aelwyd" gan Alltuü Gwent.) Pen. XVI.—Ae ol y Fewyde. [F/FODD y Germaniaid oeddynt wedi ym- gasglu i Grandfontaine tua Framont, yn finteioedd, rhai ar draed, ereill ar feirch, gan lusgo y wageni a gynwysent eu harlwyon gyda phob brys dichonadwy gyda hwynt. Taflai lluoedd eu sachellau (hiapsacks) ymaith. ac edrychent o'u hol, fel pe yn ofni gweled eu gelyn- ion yn eu hymlid. Yn mhentref Grandfontaine, dystrywiasant bob peth a allent, er mwyn dial ar eu gelynion ; malariasant y drysau a'r fFenestri, camdrinient y trigolion, ac ysbeiliasant hwynt o'r holl ymborth a allent ddyfod o hyd iddo. Clywid eu bloeddiadau a'u rhegfeydd, a swn eu cýflegrau yn myned dros y bont tua Framont, gan y gwladgarwyr o'u hamddiffynfa. Yr oedd llethr y mynydd yn orchuddiedig gan arfau, dillad, clwyfedigion a lladdedigion, a phob arwyddion o frwydr boeth. Mewn lle amlwg, gwelid magnelau Marc Dives yn gyfeir- iedig tua'r dyffryn, wedi eu llwytho yn barod i wrthsefyll ymosodiad eto. Er fod y fuddugoliaeth o'u tu, ni chlywid bloeddiadau gorfoleddus o'r gaerfa : yr oedd eu colledion wedi bod yn rhy drymion iddynt lawenhau a gorfoleddu. Yr oedd rhywbeth yn bruddaidd yn y dystawrwydd a ffynai yn y lle, ar ol twrf y frwydr. Ymddangosai pawb yn brudd ac yn synedig wrth ganfod y uaill a'r llall yn fyw ar ol y frwydr. Clywid ambell un yn galw brawd neu gyfaill wrth ei euw, a phan na cheid atebiad aent i chwilio yn y ftbs neu y gwerthyroedd am danynt. Dynesodd yr hwyr, gan daenu mantell o dy- wyllwch dros yr olygfa, yr hyn a ychwanegai at ddifrifwch yr amgylchiad. Yr oedd y bobl yn methu adnabod eu gilydd tra yn gwibio yma ac acw. Wedi i Materne lanhau ei fidog oddiwrth arwyddion y lladdfa, trodd i chwilio am ei feib- ion, gan eu galw wrth eu henwau. " Kasper ! Frantz !" a phan y canfu rywrai yn dynesu ato yn y tywyllwch, gofynai,— " Ai chwi sydd yna, fechgyn î" " Ië." " A ydych yn ddianaf ?—heb eich clwyfo V " Ydym." Yr oedd llais yr hen heliwr yn gryglyd a chrynedig pan atebai, " Diolch i Dduw! yr ydym ein tri wedi ein huno unwaith eto"; ac yna, gydag arddangosiad o deimlad na fuasai neb yn tybied ei fod yn feddianol arno, cofleid- iodd hwynt yn serchog, tra yr ymchwyddai ei fynwes gan deimladau cynhyrfus. Ond yn fuan adfeddianodd ei hun, a dywed- odd, " Diwrnod caled a phryderus ydoedd, fechgyn. Gadewch i ni fyned yn awr i dori ein syched." Yna wedi tafìu cipdrem frysíog o'i amgylch, a chanfod fod Hullin wedi gosod y gwylwyr yn eu lle, yn agos i'w gilydd, cyfeiriasant eu camrau tua'r amaethdy. Pan yn myned yn ofalus trwy y ffosydd yn y gaerfa, heibio i'r lladdedigion, clywsant lais gwanaidd yn gofyn, " Ai ti sydd yna, Materne ?" " Ha ! fy nghyfaill Rochart, maddeu i mi os cyffyrddais â thi, i wneyd loes i ti," ebe'r hen heliwr, gan blygu uwch ei ben. " Ai y fan yma yr wyt ti byth f " Ië, nis gallaf fyned oddiyma, canys mae fy nghoesau wedi eu tori." Bu dystawrwydd am fynyd, pan yr ychwan- egodd yr hen goedwigwr,—" Dywed wrth fy ngwraig íod cwdyn wedi ei guddio genyf y tu ol i'r cwpbwrdd, yn yr hwn y mae amryw ûdarnau o aur. Yr oeddwn wedi eu cynilo erbyn amser cystudd neu galedi. Ni fydd arnaf fi eu hangen bellach." " Hyny yw—hyny yw—ond dichon y gelli wella eto, fy hen ffrynd. Cludwn ni di oddi yma." " Na, nid jw o werth i chwi drafferthu ; nis gallaf fyw fwy nag awr. Ni wnewch ond estyn amser fy nyoddefaint." Nid atebodd Materne air, ond amneidiodd ar Easper i estyn blaen ei wn iddo ef, ac ymafiodd yn mlaen ei wn yntau, fel y gallent ffurfio math o elor, ar yr hwn y taenasant eu dillad uchaf, ac yna gosododd Frantz yr hen wr i orwedd arno, er ei fod yn