Skip to main content

Cypbes IV,—Rhif 10.—Gorphenàf, 1884. CYFAILL-YR-AELWYD: (&%ìwt&&M pijsiíl at WiìmnMtU a öügmfjj. Y GWLADGARWYR! GAN Y MEISTRI ERCKMANN-CH ATRIAN. (Cyfaddasiad arbenig i "Gyfaill yr Áelwyd" gan Alltud Gwent.) Penod XIV—Ye Ymosodiad. ID oedd yr arwydd leiaf i'w chaníod am saith o'r gloch fod symudiad i fod yn ngwersyll y gelyn. Agorai Dr. Lorquin y ffenestr yn awr ac yn y man i edrych a welai rywbeth, ond yr oedd pobpeth yn dawel. Tua chan' troedfedd oddiwrth y ty, gwelai gorff marw y Cossac a laddwyd y dydd blaenorol gan Kasper. Yr oedd y corff yn wyn gan lwydrew, ac wedi caledu fel careg. Oddifewn i'r ystafell, gwelid Louise yn eistedd ger y tân, gan syllu ar Jean-Claude, gyda golygon yn pelydru gan serch, fel pe yn ofni na cha'i ei weled byth ond hyny. Yr oedd cochni ei Uygaid yn brawf amlwg ei bod wedi bod yn wylo. Ymddangosai Hullin yn gythryblus er yn bendeîfynol. Eisteddai y meddyg a'r amaethwr gerllaw yr ystof, mewn ymddydddan difrifol ar agwedd bresenol y rhyfelgyrch, tra y gwrandawai Lagarmitte arnynt gyda'r dyddordeb mwyaf. " Yr ydym nid yn unig yn gwneyd yn iawn, ond y mae yn ddyledswydd arnom i amddiffyn ein hunain," ebai'r meddyg. "Fe allai," ebe'r llall yn swta ; "ond y mae yn ysgrifenedig, * Na ladd ! Na thywallt waed dy frawd!'" Ymddangosai Catherine Lefevre, yr hon oedd yn tori cig wrth y bwrdd mewn rhan arall o'r Îatafell, yn cynhyrfu wrth glywed y geiriau yn, a chan droi atynt yn sydyn, dywedodd :— "Pe byddai yr egwyddor yna, a'ch crefydd chwi, y Bedyddwyr, yn iawn, gallai y gelynion ein yspeilio hyd yn nod o'n dillad. Egwyddor fraf, yn wir, i roddi y fath fantais iddynt hwy. 'Rwy n sicr na ddymunai y cyngreiriaid ddim gwell nag i bawb o honom weithredu ar yr egwyddor hyna. Ond fel mae gwaetha'r modd, nid yw pawb yn foddlon cymeryd eu trin fel defaid. O'm rhan fy hun, Pelsely—ac nid er mwyn eich sarhau chwi yr wyf yn ei ddywedyd —yr wyf yn ystyried mai ffoíineb yw i neb ymgyfoethogi er budd estroniaid. Ond wedi'r çwol, ni eflir bod yn ddigllawn wrthych, yr ydych yn egwyddorol yn eich ymddygiadau, ac wedi eich magu o dad i fab yn y syniadau hyna. Ond ni a'ch amddiffynwn er eich gwaethaf, ac wedi hyny cewch chwithau bregethu wrthym am yr heddwch tragywyddol. Y mae ym- ddyddanion o'r fath yn lloni fy ysbryd pan bydd genyf amser i eistedd i wrando arnynt." Yna wedi dywedyd hyn, trodd eilwaith at ei gorch- wyl. Gwrandawai y Bedyddiwr arni mewn syndod, gyda'i geg a'i lygaid wedi eu hagoryd i'r man eithaf, a thorodd Lorquin allan i chwerthin yn galonog. Agorwyd y drws, a daeth un o'r gwylwyr i fewn, gan ddywedyd :—" De'wch allan, Meistr Jean-Claude, yr wyf yn credu eu bod ar gychwyn dros y mynydd." " Ö'r goreu, Simon," ebe Hullin. '* Cusanwch fí, Louise. Byddwch wrol, fy mhlentyn. Peid- iwch ofhi, mae pobpeth o'n tu." Cofieidiodd hi, gan ei gwasgu yn dyn at ei fynwes. Ymddangosai yr eneth yn haner marw. " Uwchlaw pob peth," ebe fe wrth Catherine, " gofelwch na byddo neb o honoch yn myned tu allan i'r ty, nac yn sefyll o fiaen y ffenestri." Yna brysiodd allan o'r ty. Gwelwodd pawb. Pan gyrhaeddodd ymyl eithaf y gwastatdir, ac y taflodd ei olygon i'r dyffryn islaw, tua Grandfontaine a Framont, canfu yr olygfa ganlynol:— Yr oedd tua phum' neu chwe' mil o German- iaid, y rhai a gyrhaeddasant yno y noson gynt, ac a dreuliasant y nos yn yr ysguboriau, ystablau, ac adeiladau ereill, yn symud o gwmpas fel twr o forgrug. Ymgasglent o bob cyfeiriad yn fân fínteioedd, o ddeg neu ugain, gan barotoi eu harfau, a sicrhau eu bidogau. Yr oedd y meirch-filwyr hefyd—yr Uhlaniaid, Cossaciaid, a'r Hussariaid—yn eu milwyr-wisg- oedd o wahanol liwiau, yn cyfrwyo eu mheirch, ac yn parotoi i'r ymgyrch. Gwelai y swyddogion yn dyfod allan o'r tai yn y pentrefi, a'r udganwyr ar gonglau yr heolydd yn chwythu eu hudgyrn i rybuddio y milwyr i ymuno a'u rhengoedd. Gwelid y Uafurwyr a'u