Skip to main content

Cyfres IV.—Rhif 9.—Mehefin, 1884. CYFAILL • YR • AELWYD: ëyìwtMM pẅrt ẅ Wmmtb tj «ijmrjj. Y GWLADGARWYR! GAN Y MEISTRI ERCKMANN-CHATRIAN. (Cyfaddasiad arbenig i "Gyfaill yr Aehcyd" gan Alltud Gwent.) Penod XII.—Ymgyrch yr Ysbiwyr. 'EDI ymadael â'r gwersyll, cerddodd Materne a'i feibion mewn dystaw- rwydd. Yr oedd ychydig gyfnewidiad yn yr hin : tywynai yr haul ar eu llwybr, gan daflu ei belydrau gwanaidd ar yr eira, ond nid yn ddigon nerthol i'w doddi. Draw yn y pellder yn y dyffryn islaw, gwel- ent yn eglur benau y coed ffawydd, a'r creigiau, a phenau y tai yn orchuddiedig gan eira. Can- fyddent bobl yn rhodio yn mhrif heol pentref Grandfontaine. Yr oedd nifer o enethod ieuainc wedi ymgasglu o amgylch y ffynon; a gwelid rhai o'r bynafgwyr yn sefyll wrth ddrysau eu tai. gyda chapiau íliain am eu penau yn ysmocio. Wedi cyrhaedd cwr eithaf y goedwig, dywed- odd Materne wrth ei feibion, " Yr wyf fí yn myned i lawr i'r pentref i weled Debreuil y gwestywr," a chyfeiriodd â'i ffon at adeilad hir, muriau yr hwn oeddynt wedi eu gwyngalchu, oddigerth y rhanau oedd yn ymylu ar y drysau a'r ffenestri, y rhai oeddynt wedi eu íliwio yn felyn, ac uwchben y drws crogai cangen o'r pinwydd, fel arwydd y gwestdy. "Aroswch chwi fan hyn," meddai. "Os yw yn ddiberygl, deuaf allan drachefn i'r drws, a cbodaf fy het; yna deuwch chwithau i gael glasaid o win gyda mi." Yn mhen tua deng mynyd yr oedd wedi cyr- haedd y pentref, ac yn mhen enyd gwelai ei feibion ef yn diflanu o'u golwg trwy ddrws y gwestdy. Yn union ar ol hyn, gwelent ef dra- chefn yn sefyll ar y trothwy, ac yn codi ei het. Yna cyfeiriasant hwythau eu camrau tuag yno, ac yn fuan yr oeddynt gyda'u tad yn mhiif ystafell y gwesty. Ystafell isel ydoedd, yn cael ei thwymno gan ystôf fawr. Nid oedd neb yn yr ystafell ond Materne a'r gwestywr, yr hwn oedd y tafarnwr tewaf a mwyaf boliog yn holl ardaloedd y Vosges. Eisteddai gyferbyn a Materne, mewn cadair freichiau, yr hon oedd wedi ei gorchuddio â lledr. Yr oedd y gwydrau wedi eu llenwi. Tarawai y cloc naw pan oeddynt yn myned trwy y drws, "Dydd da, y tad Debreuil," ebe y Uanciau mewn llais garw. " Dydd da i chwi, fy mechgyn dewrion," ebe'r tafarnwr gyda gwen. Yna, mewn llais melfed- aidd, gofynodd, "A oesgenychryw newyddion1?" " Nac oes, yn wir," ebe Easper ; " ond ei fod wedi d'od yn auaf arnom, ac mae'n dywydd campus i hela'r baedd gwyllt." Gosodasant eu gynau i lawr yn ymyl y ffenestr, ond o fewn cyrhaedd iddynt, pe dyg- wyddai rhyw ymosodiad arnynt. Yna eistedd- asant wrth y bwrdd, gan wynebu eu tad, ac yfasant o'u gwydrau gan ddymuno iechyd da i'w tad ac iddynt eu hunain. "Felly," ebe Materne, gan droi eilwaith at y tafarnwr tew, "yr ydych yn meddwl, Debreuií, na fydd raid i ni ofni dim yn y goedwig, ac y bydd yn ddyogel i ni hela y baedd ?" " Oh !" ebe yntau, " ni allaf ddweyd am hyny ! ond hyd yn hyn nid yw y cynghreiriaid wedi cyrhaedd Mitzig. Heblaw hyny, nid ydynt hwy yn ymyraeth â neb, ond derbyniant bawb yn llawen, a ymunant â hwy i ymladd yn erbyn y trawsfeddianydd." " Y trawsfeddianydd ì Pwy yw hwnw T' " Ond Napoleon Bonaparte, wrth gwrs. Edr- ychwch yna," a chyfeiriodd â'i fys at bapyr mawr ar y mur. " Edrychwch ar hwna, a chewch weled mai yr Awstriaid yw ein cyfeillion goreu." Gostyngodd Materne ei aeliau, ond celodd ei deimladau. " 0, ie !" ebe fe. " Ie, darllenwch hwna." "Ond fedraf fi ddim darllen, Debreuil, na'r llanciau ychwaith. Eglurwch chwi ef i ni." Cododd y gwestywr o'i eisteddle, ac aeth i sefyll o flaen yr hysbyslen, a chan blethu ei freichiau ar ei fynwes darllenodd, mewn tôn fawreddog, broclamasiwn oddiwrth y brenin- oedd cynghreiriol, " eu bod hwy yn rhyfela â Napoleon yn bersonol, ac nid â Ffrainc fel gwlad. 0 ganlyniad, dylai yr holl drigolion aros yn llonydd, a pheidio ymyraeth â'r cweryl, o dan boen gael eu hanrhetthio, eu hysbeilio, a'u lladd."