Skip to main content

Cyfres IV.—Rhif 8—Mai, 1884. CYFATLL-YR-ÁELWYD: Y GWLADGARWYR! GAN Y MEISTRI ERCKM ANN-CH ATRIAN. (Cyfaddasiad arbenig i "Gyfaill yr Aelwyd" gan Alltud Gwent.) MA^;M Penod IX.— Ymweliad Gaspard a'i Garteef. y brwdfrydedd yn yr hen „, a mawr oedd prysurdeb a diwydrwydd y gwasanaethyddion, pan eisteddodd Catherine Lefevre a'i cbyfeillion wrth y bwrdd yn yr ystafell oreu, i wledda ar yr ham a'r costreleidiau gwin y soniasai yr heu wraig am danynt yn flaenorol. Yfent iechyd da i'w gilydd, ac yr oedd pawb yn l]awen ac yn Hawn hyder am fuddugoliaethau ar y gelyn, a rhagolygon am Iwyddiant dyfodol. Dydd Mawrth ydoedd, y dydd yr arferid crasu bara yn y ffermdy. Yr oedd pawb o'r tylwyth yn llawn prysurdeb. Gwelid yr hen Duchene. wedi torchi llewys ei grys, yn tynu y torthau allan o'r ffwrn ; Ànnette yn eu derbyn ac yn eu gosod yn rhesi ar y llawr. Yr oedd Louise yn gweini wrth y bwrdd. a Catherine Lefevre yn arolygu y cwbl. ac yn gwaeddi yn fynych :— " Brysiwch, fy mhlant i! brysiwch ! Rhaid i'r trydydd pobiad fod yn barod pan ddaw ein cyfeilíion o'r Sarre yma. Rhydd hyny chwe' phwys o fara i bob dyn." Gwylid ei symudiadau gydag edmygedd mawr gan FTullin. " Y fath wraig odidog ydyw!" meddai. "Mae'n cofio am bobpeth. Ni ellid cael ei chyffelyb yn yr holl wlad ! Hir oes a iechyd i Catherine Lefevre!" Ymunodd pawb yn galonog i yfed y llwnc- destyn hwn. Yr oeddynt oll yn lloni ac yn ymwroli o dan y syniad fod pob peth yn gefnogol i'w Uwyddiant. Ond yr oedd mwynhad mwy yn eu haros y dwthwn hwnw, yn enwedisr i Louise a'r heu ffermwraig. Tua chanol dydd, pan oedd y gwasauaethvddion yn brysur dvnu y pedwerydd pobiad o'r ffwrn. Uamodd yr hen gi dall, Yohan, yn sydyn allau o'i gwb yn y buarth, gan dynu yu ei gadwyn, a chyfarth a phrancio, a dangos pob arwyddion o lawenydd a allai ci ddangos. Safodd Catherine Leíevre ar ganol ei gorchwylion. " Beth sy'n bod V* gofynai; ac yna ychwaneg- odd mewn llais crynedig:—" Nid yw Yohan wedi ymddwyn fel yna o'r blaen er pan yr aeth fy machgen oddicartref." Vr un foment, clywid swn traed rhywun yn cyflym gerdded drwy y buarth. Rhuthrodd Louise at y drws, gan íefain, " Efe ydyw ! efe ydyw !" ac yn uniongvrchol agorwyd y drws, a gwnaeth milwr ei vmddangosiad ar y trothwy. Ond druan o'r fath filwr ! Yr oedd yn ym- ddangos yn Unddedig, ei ruddiau tenau yn llwydion. ei ddillad yn garpiog. a'i ymddangosiad mor druenus nes llenwi pawb â syndod. Ymddangosai yn analluog i fyned eam yn mhellach na'r trothwy, ac yn araf gollvngodd pen ei wn i orphwys ar y Uawr. Edrychodd o gwmpas y gegin, llanwodd ei lygaid gan ddagrau, ac ni allai yngan gair. Oddiallan yr oedd yr hen gi yn parbau i gyfarth, a neidio, a thynu yn ei gadwyn. Oddi- fewn teyrnasai dystawrwydd y bedd am envd, yr hwn a dorwvd gan ysgrech dreiddiol oddi- wrth Catherine Lefevre :— " Gaspard ! fy mhlentyn ! ai tydi yw ?" " Ië, fy mam," atebai y milwr yn dyner, ac fel pe vn analluog i ddweyd rhagor. Dechreuodd Louise wylo, tra v cododd bloedd longyfarchiadol, uchel, o'rystafell arall, a rhed- odd y cyfeillion, yn cael eu blaenori gan Jean- Olaude, allan i'r gegin, gan waeddi :—Gaspard ! Gaspard Lefevre!" Yr oedd Gaspard a'i fam yn cofleidio eu gilydd : yr hen wraig ddewr a gwrol yn wylo gan lawenydd. y milwr yn ei gwasgu at ei fynwes, ac yn ei chusanu, gan sibrwd :— " Fy mam ! fy mam ! 0 ' yr wyf wedi meddwl am danoch filoedd o weithiau !" Yna, mewn Hais cryfach, gofynodd, "Yn mha le mae Louise ì Tvbiais i mi weled Louise pan agorais y drws !" Taílodd Louise ei hnn i'w freichiau, dan wylo. Wedi ei chofleidio a'i chusanu drachefn a thrachefn, dywedodd, " Ah ! Louise, onid oeddet yn fy adnabod V " 0 ! oeddwn, oeddwn ! Adwaenais swn dy droed yn y buarth !" Dynesodd yr hen Duchene oddiwrth ytân,