Skip to main content

Cyfres IV.—Rhif 6.—Mawrth, 1884. CYFATLL • YR • AELWYD: ëÿìwtMM Wtt$al at Wmiwúh y $ptry. IDRIS LLWYD, Neü dreialon y tadau pererinol CYMREIG. Gan y Golygydd. Penod XI.—Ymguddfan Cywrain. N y cyfamser, fel y geliir tybied, yr oedd cryn lawer o bryder yn cael ei deimlo yn yr Henllys. Yr oedd yr hen batriarch Dafydd Llwyd wedi brysio o'r addoldy i ddwyn ei gyfaill Walter Cradock i le o ddyogelwch yn nghyntaf oll. Yn hyn nid oedd wedi cael cymaint anhawsder ag y gellid tybied. Yr oedd y dull yr adeiledid tai y pryd hwnw yn dra gwahanol i'r hyn eu ceir yn ein dyddiau ni, canys tra nad oes mewn adeiladau diweddar nemawr fan y gallai dyn gael mantais i ymguddio rhag ymchwiliad llygadgraff gelynion, yr oedd sefyllfa gythryblus y wlad yn y bymthegfed ganrif, a'r ddwyganlynol, wedi bod y fath fel y telid cymaint o sylw wrth adeiladu ty at sicrhau ymguddfanau dyogel, ag a wneid i gael ystafelloedd cysurus. I hyn cyn- ygiai y muriau trwchus fanteision neillduol. Rhwydd deall fod siawns am wneyd llawer mynedfa ddirgel mewn mur o dair i bedair troeddfedd o drwch, neu fwy na hyny, fel yr o'ent yn aml. Ceid mewn ambell i hen dy yr adeg hono fynedfeydd (passages) dirgel yn nghanol muriau trwchus fel yma, yn rhwydwaith drwy'r holl dy, tra y ceid nid yn unig mewn daeargell- oedd, a nengelloedd, ond hefyd rhwng estyll y llofft a nenfwd y llawr, ymguddfanau herient holl lygadgraffrwydd gelynion sychedus am waed. " Ond," tybia'r darllenydd, " hyd yn nod pe ceid mynedfeydd dirgel fel hyn rhwng y muriau, rhaid yw fod drysau yn rhywle yn arwain iddynt, ac os felly, er nas gellid fe allai ganfod yr ymguddfan ar unwaith, canfyddid y drysau wrth chwilio yn fanwl, ac ar ol cael pen y Jlwybr, gwaith cydmarol rwydd fyddai dilyn y fynedfa wedi hyny." Nid yw y peth mor syml ag y gellid meddwl. Yr oedd y cywreinrwydd oedd wedi dyfeisio y cul fynedfeydd, a'r dirgel ymgudfanau, wedi rhagweled y perygl hwn, ac wedi rhagdrefnu ar ei gyfer. Mewn rhai manau yr oedd drws wedi cael ei wneyd yn y pared mewn ystafell, mewn dull celfydd, fel, pan yn nghau, nas gellid canfod y gwahaniaeth rhwng y rhan hono o'r mur a'r gweddill o'r pared ; ond er hyny, wrth gyffwrdd â spring ddirgel mewn man penodol, symudid y cauad, ac agorai y drws o hono ei hun, i gau drachefn heb adael un dystiolaeth i fradychu y neb elai trwyddo. Brydiau ereill buasai celfwaith cy wrain wedi ei osod, o bosibl, o dan gareg yr aelwyd, yr hon, ar ol gwthio y spring guddiedig, a godai ar ei thalcen gan ddadguddio grisiau arweinient i ddaeargell roddai fynedfa tanddaearol fe allai am bellder mawr tu allan i furiau y ty neu y castell. Yr oedd yn yr LTenllys ddau ymguddfan tra nodedig, un o'r rhai oedd yn adnabyddus i ddau neu dri o weision ffyddlonaf y ty, tra na wyddai neb ond Dafydd Llwyd ei hun am ddirgetwch y llall. Yr oedd y blaenaf yn gynwysedig mewn agen yn y mur rhyw bedair llath i fyny y simdds fawr yn y gegin. Nid oedd eisieu ond cael ysgol o'r uchder hyny i'w gosod tufewn i'r simdde, ac ar ol dringo i fyny ceid yr agen oedd yn guddíedig o'r llawr, yn gwresawu y ffoadur, yr hwn, ar ol myned trwy fynedfan gul yn nghanol y mfir, gawsai ymguddfan tra dyogel a chlyd, os ychydig yn dywyll, ar ffurf ystafell fechan. Pan ddygodd Dafydd Llwyd ei gyfaill Walter Cradock i'r Henllys, ei orchwyl cyntaf ef oedd gofalu am le dyogel i'w gyfaill ymguddio ynddo. Bu ar fedr unwaith ei osod yn yr ymguddfan yn y simdde, ond gan nad pa beth achosodd iddo newid ei farn, pa un ai ofni y buasai yr huddugl yn niweidio gwisg glerigol ei gyfaill, ai ofni yr oedd y byddai ymguddfan mor gyffredin yn sicr o gael ei ddargaufod gan y milwyr, ai beth ; ond fodd bynag am hyny, newidiodd ei feddwl, ac ar ol danfon y gweisiou oll ar wahanol negeseuau i barthau ereill o'r ty, trodd at Cradock, gan ddweyd :— " Tyred, fy nghyfaáll. Nid oes amser mwyach i'w goíli. Yr wyf ar fedr dadguddio i ti brif ddirgelwch yr Henllys, yr hwn ni wyr yr un dyn byw ond fy hunan am dano, ac yr wyf yn dy dyns;hedu dithau na ddatguddi mo bono i neb