Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfbes IV.—Rhif 5.—Chwefror, 1884. CYFAILL-YR-AELWYD: <S)}toeMia& ptol ut Wmmtẅ y <&m*)$> Y GWLADGARWYR! GAN Y MEISTRI ERCKM ANN-CH ATRIAN. (Cyfaddatiad arbenig i "Gyfaill yr Aelioyd" gan Alltud Gwent.) Penod III.—Yn Phalsbourg. [3) OREU dranoeth, ar doriad y wawr, gellid gweled Hullin â'i ffon yn ei law, wedi ymwisgo yn ei ddillad tgoreu, clos pen- glin, siaced felfed, o liw llwyd dywyll, gwasgod goch, gyda botymau pres arni, a het fynyddig gydag ymyl llydan iddi ar ei ben, yn cychwyn ei daith tua Phalsbourg. Y mae Phalsbourg yn dref gaerog bwysig. Saif tua haner y ffordd rhwng Paris a Strasbourg. Y mae ei chaerau amddiffynol wedi eu hadeiladu yn igam-ogam ar y gwastadedd, a gellid tybied wrth edrych arnynt o bell, mai isel ydynt, ac y gellid Uamu drostynt, ond pan ddeuir i'w hymyl, canfyddir fod ffos fawr oddiallan i'r muriau yn 30 troed- fedd o ddyfnder, a 100 troedfedd o led, ac mae y muriau mor uchel fel na ellir canfod ond y ddwy brif eglwys, a'r neuadd drefol, a thyrau rhai o'r prif adeiladau yn y dref. Oddifewn i'r muriau y mae yr ystrydoedd, yn union a rheol- aidd, y tai yn gyffredin yn isel, a golwg filwrol ar yr holl le. Ÿr oedd Hullin yn wr dewr a diofn, o dymher lawen a hyderus, ac nid oedd wedi rhoddi y coel Ueiaf ar yr adroddiadau a daenid trwy y wlad, am orchfygiad ac enciliad eu byddinoedd, ac ym- gyrch y gelyn i'w tiriogaethau. Ystyriai hwynt yn wrachaidd chwedlau, wedi eu dyfeisio gan bersonau twyllodrus. Mawr gan hyny oedd ei syndod, pan ddaeth gyntaf i olwg y dref, i ganfod fod yr holl wlad oddiamgylch, y tai, y perllanau, a'r coed, oll wedi eu dinystrio, yr oll oedd o fewn cyrhaedd eu cyflegrau, Effeithiodd yr olygfa arno, fel pe syrthiasai taranfollt yn ei ymyl. Am enyd nis gallai syflyd, nac yngan gair. " 0!" ebe fe o'r diwedd," mae hyn yn arwydd ddrwg, drwg iawn ; maent yn dysgwyl y gelyn." Yna gyda gwrid o ddigofaint yn ymdaenu dros ei wyneb, ychwanegai, "Y cnafiaid hyna, yr Awatriaid, ý Prwsiaid, a'r Rwsiaid, ysgubion a gwehilion cymdeithas cyfaUdir Ewrop, yw yr achoa o hyn; ond bydded iddynt wylio," ebe te, gan ysgwyd ei ffon, "cânt dalu yn ddrud am y difrod yma." Gwelai rhai o'r gwladwyr yn cludo eu celfi gyda phob brys i'r ddiuas. Gwelai hefyd resi hirion o wageni, yn cael eu tynu gan bump neu chwech o geffylau, yn cludo coed at gadarnhau'r amddiffynfeydd, a nwyddau ereill fyddent yn angenrheidiol iddynt pan fyddent yn warchaedig. Croesodd Jean-Claude y bontgrogedig oedd o flaen y pcuth. Oddifewn i'r ddinas gwelai yr un prysurdeb mewn gwneyd parotoadau i gyfarfod â'r gwaethaf. Yr oedd gwyr, gwragedd a phlant, oll yn cyflawnu rhyw swydd neu negcs. Yma thraw gwelid dau neu dri yn cyd-gyfarfod, ac yn holi eu gilydd am ý newyddion diweddaf. " Ho, gyfaill, glywaist ti'r newydd ?" "Beth?" "Ymae negesydd newydd gyrhaedd yn frysiog iawn. Daeth i fewn trwy y porth Ffrengig." " Rhaid ei fod yn dod i hysbysu am ddyfodiad y Gwarchodlu Cenedlaethol o Nancy, ynte." "Neu, fe allai fod gosgorddlu yn dyfod o Metz." " Gwir ; mae arnom eisieu magnelau a shots. Mae yr awdurdodau yn myned i dori y stoves er gwneyd rhai. . Wrth weled pawb mor brysur a bywiog, Uon- odd ysbryd, a thaniwyd zel Hullin. " Campus," meddai, gan rwbio ei ddwylaw yn eu gilydd, " mae pawb yn cadw gwyl yma, fe ga y cynghreiriaid dderbyniad cynhes pan ddeuant yma." 0 flaen un o'r prif adeiladau, clywid Uais main y swyddog Harmentier yn cyhoeddi:— "Bydded hysbys i bawb, fod yr adeiladau cyhoeddus yn agored i ba>wb, a gall pob un a ewyllysio fyned â mattress a dwy wrthban (blanìcet) iddynt. Hefyd, mae swyddogion yr ymborth yn myned ar eu cylchoedd ymchwil- iadol i weled a oes gan bob person ddigon o fwyd am dri mis. Rhaid i bawb roddi sicrwydd am dri mis. Arwyddwyd, yr 20fed o Ragfyr, 1813, —Jean Pierre Meumier, Ltywodraethwr."