Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cypees IV.—Rhif 1.—Hydríf, 1883. CYFATLL • YR • AELWYD: tiHtotMM ftteal at Wmwŵto 9 «ÿmÿ. IDRIS LLWYD: Neu dreialon y tadau pererinol cymreig. Gan y Golygydd. Penod Gyntaf.—Y Ffoadür. i IWRNOD hafaidd: yr haul yn taflu ei bel- ydrau cynes drwy awyrgylch ddigwmwl, ac yn gordoi y ddaear mewn gogODÌant a harddwch. Yr adar yn pêrganu yn y coedlan- ydd a'r dolydd, a'r blodau yn perlu y meusydd, a'r oll yn cyduno i wneyd golygfa o brydferth- wch tawel ac o swyn heiddychol. Wrth edrych ar yr olygfa gellid tybied mai cartrefle beddwch ydoedd; nad oedd drwg- nwydau dyn erioed wedi beiddio tori allan yn yr Eden hon ; fod mewn gwirionedd heddwch yn teyrnasu fel yr afon yn y fro dawel hon, ün o'r rhandiroedd prydferthaf yn iNghymru. Ond ai íelly yr oedd 1 Trown ddalenau llwydion hen lyfr amser yn ol o ddalen i ddalen er cael gweled. Mae pob dalen yn dwyn cofnodiad blwyddyn gyfan, ac o heddyw yn y flwyddyn un fil wyth cant pedwar ugain a thair, hyd yr " heddyw " ddarluniais uchod, rhaid troi dau cant a deugain o ddail. Mewn gair rhaid i mi fyned yn ol i'r flwyddyn un fil chwe' chant a thair a deugain cyn cyr- haedd y cyfnod wyf am ddarlunio. Y flwydJyn 1643 ynte. Blwyddyn dywell mewn cyfnod tywyll, pan ymddangosai fod phiol digofaint y Goruchaf yn cael ei thywallt ar Loegr a Chymru. Yr oedd ffroenucheledd y teyrn Siarl y Cyntaf ar y naill law wedi cyfarfod a zel penboethni crefyddol, ac a diysgogrwydd gwladgarol ar y llaw arall, ac yr oedd grym y gwrthdarawiad wedi ysgytio yr holl wlad o fôr hyd fôr ; wedi darostwng y dyrchafedig ac wedi dyrchafu yr isel; wedi dwyn personau o ddinodedd i gyhoeddus- rwydd; wedi gosod troed y gorthrýmedig ar wàr ei orthrymydd ; 'ie, ac yn yr ysgytiad erchyll cymysgid nid yn unig trefn cymdeithas, ond yn aml y drefn deuluaidd hefyd, a cheid weithiau law y mab yn erbyn y tad, a'r waudd yn erbyn ei chwegr. Yr oedd y rhyfel cartrefol wedi tori allan, y cledd wedi ei dynu o'r wain, y fagnel wedi dechreu rhuo, ac angau wedi dechreu medi cyn- hauaf toreithiog. Nid oedd, fel y dywedais, yr un arwydd o'r cyffro hyn i'w ganfod ar yr olygfa edrychasom arni ar ddechreu yr ystori hon. neu, os oedd, methasom ei gweled. • Gellid tybied fod y marchogwr acw yn teimlo yn gyffelyb i ninau. Mae wedi ffrwyno ei farch i sefyll, ac edrycha gyda boddbad ar yr 'olygfa swynol o'i amgylch. Yr oedd y marchogwr yn ddyn o bymtheg ar hugain i ddeugain mlwydd oed, yn ddvn talgryf, gwrol. Yr oedd ei wynebpryd wedi ei dyllu gan ol y frech, a gellid darllen yn y llygaid bywiog, treiddgar, fod ysbryd oddifewn yn deil- wng o'r corffoledd cadarn oddiallan. Dyn ydoedd nad hoffech gyfarfod ag ef mewn ym- ryson, ac eto nid oedd dim yn ei wisg nac yn ei wynebpryd yn arddangos y milwr. Yr oedd y dyn yn siarad â'i hunan. "Ie," meddai, "gardd yr Arglwydd mewa prydferthwch allanol. 0 gwmpas mae y ddaear wedi ei gwisgo a harddwch, ac yn mynegu gogoniant yr Hwn a'i lluniodd. Gresyn na ddarllenai ei phreswylwyr yr hyn sydd ysçrifenedig mor amlwg ar ei gwyneb, ac na fblianent yrArglwydd am ei ddaioni i feibion dynion. Yn lle hyny ymroddant i wasanaeth diafol, ac am hyny y dygir arnynt yr hyn y maent yn ei ofni. Eto, yn nghanol caledwch calonau llawer, ceir ychydig na phlygasant eu gliniau i Baal, ceir rhai yn addoli yr Arglwydd mewn purdeb calon ; a bendigedig fyddo ei enw am na adawodd ei hunan yn ddi dyst. 0 bosibl y gwel Efe yn dda o'i ras i ddwyn Cymru o'r tywyllwch presenol allan i'w ryfeddol oleuni Ef." Gan ddyrchafu ochenaid, trodd oddiwrth yr olygfa swynol at ystyriaeth o'i sefyllfa bersonol ei hunan. " Tyred," eb efe wrth ei farch, " er dy fod yn