Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfebs III.—Rhif 9.—Mehbfiíí, 1883. CYFAILL • YK • AELWID: MICHAEL STROGOFF, NEGESYDD Y CZAR. Gan Jules Vebne. (Cyfaddasìad arbenig i " Gyfaill yr Aelwyd" gan Alltud Gwent.) Sylw,—Cymerwyd y cyfaddasiad hwn, yn nghyd a'r darluniau, o'r copyright edition, trwy ganiatad arbenig y cyhoeddwyr, Mri. Sampsón Low & Co , 188, FJeet street.] Penod XVI. ALLASAI Marfa âg un gair ad-dalu Nadia am ei holl garedigrwydd. Gall- asai symud baich o ofid a phryder oddiar ei meddwl, trwy ei hysbysu nad oedd Michael Strogoff wedi boddi yn yr Irtish, gan iddi ei weled ar ol y dygwyddiad hwnw. Ond ymataliodd, gyda dweyd y geiriau hyny yn unig—" Gobeithiwch y goreu, fy mhlentyn ! lOhwi gëwch weled eich tad eto, yn ddiamheu. Yr wyfyn teimlo fy mod yn dweyd y gwir,ac feallai y cewch eto weled yr hwn a'ch galwai yn chwaer. Nis gallai Duw ganiatau i un o'i fath ef farw felly. Gwnewch fel fi, fy mhlentyn—gobeith- iwch y goreu ! Nid wyf fi eto am wisgo galar- wisg am fy mab.'' Ẁedi cael y ddealltwriaeth hyn am eu gilydd, er na wyddai Nadia fod ei chydymaith blaenoroí yn fyw, diolchai am fod Rhagluniaeth wedi ei harwain i gymeryd lle plentyn i'r hen wraig, yr bon oedd yn fam i'w hamddiffynwr dewrgalon. Ond ni wyddai y naill na'r llall o honynt fod Michael yn mhlith y carcharorion. Gorfodid y carcharorion i ymdaith yn drefnus, felly ni allai y rhai a ddaliwyd yn Kolyvan gymdeithasu â'r rhai a ddygwyd o Omsk. 0 ganlyniad ni wydd- ai Michael, ychwaith, yr hwn oedd ar' flaen carcharorion Kolyvan, fod ei fam a Nadia yn mhlith y carcharorion ereill. Yr oedd y daith am dri diwrnod o Kolyvan i Tomsk, yn un boenus a chaled i'r eithaf. Gor- fodid yr holl garcharoriou, yn wyr, gwragedd, a phlant, i ymdaith yn mlaen gyda'r meirch filwyr. Cludid Uawer o'r plant yn grogedig wrth gyfrwyau y milwyr. Os cloffai un o'r dynion ar y ffordd, defnyddid y fflangell neu flaen y bidog i'w yru yn ei flaen. Syrthiodd canoedd o hon- ynt yn ddiymadferth ar y ffordd, a gadewid hwyut yno i drengu, neu i syrthio yn ysglyfaeth i'r bleiddiaid. Yn hwyr àr y röfed o Awst, cyrhaeddasant Zabadiero, pentref bychan ar lan yr afon Tom, tuag ugain milldir o Tomsk. Gwylid y carchar- Qrion gan y milwyr yn y modd manylaf, fel y gwelai Micheel mai ofer fyddai iddo geisio dianc yn awr cyn cyrhaedd Tomsk. Yr oedd Ifan Ogariff a'r Emir wedi cyrhaedd Tomsk, ond ni ewyllysiai Feofar i'w filwyr ddyf- od i'r dref y noson hono, ond dewisodd yn hytrach iddynt wneyd arddangosiad o rwysg dranoeth pan y gwresawai ef hwynt gyda'r rwysgfawredd arferol. Yr oedd Ifan Ogareff wedi dychwelyd i Zabadiero, i gyfarfod y mil- wyr gyda'r genadwri hon, ac i'w harwain i'r dref dranoeth. Gorchymynwyd gwersyllu ar lan y Tom. Pe cawsai y carcharorion ganiatad, rhuthrasent i'r dyfroedd i dori eu syched angerddol, ar ol eu taith trwy y llwch yn nghan- ol y gwres. Oaniatawyd iddynt fyned yn fân finteioedd i ddisychedu eu hunain. Yr oedd yr haul yn machlud pan y dynesodd Marfa a Nadia at lan yr' afon. Ymgrymodd yr hen wraig uwchben y dwfr grisialaidd, a chodai Nadia ddwfr ynnghledr ei llaw at wefusau Marfa i'w disychedu. Yna yf- odd beth ei hun. Yr oedd y dwfr peraidd yn eu hadfywio. Yn ddisymwth neidiodd Nadia ar ei thraed, ac nis gallodd ymatal rhag rhoddi ysgrech o syn- Ychydig gamrau oddiwrthi safai Michael Strogoff. Efe ei hun ydoedd, ac nid neb arall. Ty wynai pelydrau olaf yr haul arno. Cyffrodd Michael pan glybu yr ysgrech. Trodd atynt, ond yr oedd yn ddigon hunan- feddianol i beidio gwneyd dim fuasai yn ei frad- ychu. Ac eto pan ganfu Nadia, gwelodd ei hoff. fam hefyd. Teimlai Michael nas gallai gadw ei hunan-fedd- iant yn y cyfarfyddiad annysgwyliadwy hwn,felly gosododd ei ddwylaw dros ei lygaid, a brysiodd ymaith o'r lle. Symbylid Nadia gan awydd cryf i redeg ar ei ol, ond sisialodd yr hen wraig yn ei chlust,— " Aroswch, fy merch !" " Efe ydyw!" ebe Nadia yn gruglyd gan deimladau angerddol. " Y mae yn fyw, fy mam! Efe ydyw !" "Fy mab ydyw," atebai Marfa. "Michael