Skip to main content

Cyfres III.—Rhif 8—Mai, 1883. CYFAILL ■ YE ■ AELWYD: MICHAEL STROGOFF, NEGESYDD Y CZAR. Gan Jules Verne. (Cyfaddasiad arbenig i " Gyfaill yr Aelwyd" gan Alltud Gwent.) SYLW.—Cymerwyd y cyfaddasiad hwn, yn nghyd a'r darluniau, o'r copyright edition, trwy ganiatad arbenig y cyhoeddwyr, Mri. isampíson Low & Co , 188, Fieet street.] Penod XIV.—Gwersyll y Tartariaid. tAITH diwrnod o Kolyvan, ac ychydig filldiroedd cyn dyfod i dref Diachinks, y mae gwastadedd eang, ar yr hwn y tyf ychydig goed pînwydd a chedrwydd ynia a thraw. Preswylwyr arferol y gwastadedd hwn ydynt fugeiliaid Siberaidd, y rhai a borthant eu praidd lluosog yno, gan grwydro o fan i fan, í'el y patriarchiaid gynt, i chwilio am borfeydd. Ond yn awr, gwaith ofer fyddai chwilio am un o'r tiigolion crwydrol hyn yno. Er hyny, nid oedd y lle heb breswylwyr. Ond i'r gwrthwyneb, yr oedd gwedd hynod o fy wiog ar y Ue. Yno yr oedd pebyll y Tartarìaid ; yno yi oedd gwersyll Feofar Khan, yr Emir creulawn o Bok- hara ; ac yno, ar y 7íed o Awst, sef tranoeth i frwydr Keolyvan, y dygwyd y carcharorion a gymerwyd yn y dref hono, ar ol gorchfygiad y ddwy fil o filwyr dewr Rwsia, y rhai ageisiasant atal ymgyrch y gelyn, ac o'r rhai nid oedd ond ychydig ganoedd wedi dianc yn fyw. jNid oedd gan y llywodraeth ymerodrol ddigon o allu wrth law i atal y goresgynwyr, y rhai oeddynt yn awr wedi cyrhaedd i ganolbarth Siberia, ac yn cyíîym ymledu dros y talaethau ; ac os na chyrhaeddai miiwyr Amoor a Takutsk mewn pryd, ymddang- osai y byddai yn rhaid i'r brif-ddinas Siberaidd, Irkutsk, syrthio i'w dwylaw, gan mai ychydig mewn cydmariaeth oedd nifer ei hamddiftỳnwyr ; a chyn y gellid ei hadenill, byddai yr Ucheí Dduc, brawd yr Ymerawdwr, wedi syrthio yn aberth i ddialedd lvan Ogareff. Beth a ddaethai o Michael Strogoff ì A oedd wedi ymollwng yn ngwyneb yr holl anffodion a'i cyfarfu, a'r peryglon oedd efe eto i wynebu arnyntí A oedd yn ystyried fod ei achos yn ddiobaith ì fod ei genadaeth wedi methu ? ei fod wedi methu cyflawnu ei neges pwysig ì ac mai ofer fyddai iddo wneyd un ymgais pellach i ufuddhau i'r gorchymynion a gafodd ì Na ; yr oedd efe yn un o'r dynion hyny nad ydynt byth yn ildio, tra byddo bywyd ynddynt. Yr oedd Michael eto yn fyw, y llytbyr ymerodrol yn ddiogel yn ei feddiant, ac amcan ei neges yn anhysbycs i bawb. Yr oedd yn mhlith y carchar- orion lluosog a ddygai y Tartariaid gyda hwynt fel defaid i'r lladdfa ; ond wrth gael ei ddwyn i Tomsk, yr oedd yn dyfod yn nes i Irkutsk. Dyna un cysur. Heblaw hyn, yr oedd hyd yn hyn o flaen y bradwr lvan Ogareff. " Mynaf gyrhaedd yno !" ebai wrtho ei hun lawer gwaith. Wedi brwydr Kolyvan, yr oedd ei feddwl a'i benderfyniad wedi eu sefÿdlu ar un amcan, sef bod yn rhydd eto. Ond pa fodd y gallai ddianc o ddwylaw y milwyr ] C'ai weled hyny pan ddeuai yr adeg. Yr oedd golygfa ysblenydd ar wersyll Feofar. Yr oedd nifer dirifedi o bebyll, o grwyn, neu sidan, neu ryw ddefnyddiau ereill, yn dysgleirio yn mhelydrau yr'haul. Chwifiai nifer fawr o faneri ysblenydd o wahanol liwiau uwchben y pebyll. Cynwysai y gwersyll o leiaf gant a haner o filoedd o filwyr, wedi eu casglu o wahanol dal- aethau a gwledydd Tartaraidd. Yno y gwelid rhai o Bokhara, Khokand, a Koundouge ; Tad- jikiaid, Usbeskiaid, Kirglioziaid, Kalmuciaid, Mongoliaid, Afghaniaid, ac Arabiaid, oll yn fìl- wyr rhyddion. Yr oedd hefyd nifer o filwyr yn gaethion yn y gwersyll. Persiaid oedd y rhai hyn yn benaf. Gwelid hefyd lawer o Iuddewon a wasanaethent fel gweision i'r swyddogion a'r milwyr, a nifer fawr o ddosbarth arall, sef car- dotwyr crefyddol, i'r rhai y telid math o barch a gwarogaeth, y rhai a ymwisgent mewn carpiau, ac a gyflawnent eu penydiau crefyddol yn gyd- wybodol. Gwelir, wrth hyn, fod y fyddin Dar- taraidd yn gynwysedig o ryw gymysgfa ryfedd o bobloedd a chenedioedd. Yr oedd tua haner can' mil o'r gwyr hyn yn feirchfilwyr, ac yr oedd eu hanifeiliaid o rywog- aethau mor amrywiol a'r milwyr eu hunain. Heblaw y rhyfelfeirch, yr oedd lluaws o anifeil- iaid ereill, cludfeirch, camelod o rywogaeth fechan, ac asynod. Safai pabell Feofar ychydig o'r neilldu, o dan gysgod nifçr o goed pînwydd, mewn man lle y