Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyprbs IIL—Rhif. 6,—Mawrth, 1883. CYFAILL-YR-AELWYD: ®%ìwMM Ptol »t WmmtU tj (Sÿmtÿ. MICHAEL STROGOFF, NEGESYDD Y CZAR. Gan Jüles Verne. (Gyfaddasiad arbenìg i "Gyfaill yr Aelwyd" gan Alltüd Gwent.) [Sylw.-—Cyinerwyd y cyfaddasiad hwn, yn nghyd a'r darluniau, o'r cooyrifjht edition, tr.vy cyhoeddwyr, Mri. áampson Low & Co , 138, Fieet street.] janiatad arbenig y Penod X.—Dyledswydd o Flaen Pobpeth. íYNODD y dyeithrddyn ei gleddyf o'r wain i ymosod ar Michael. Neidiodd Nadia rhyngddynt. Dynesodd Blount a Jolivet at Michael. " Ni wnaf ymladd," ebe Michael, gan blethu ei freichiau ar ei fynwes. " Pa beth ì Ni wnewch ymladd V " Na wnaf." " Ai ni wnewch ar ol hyn V meddai'r teith- iwr. A chyn y gallai neb ei atal, tarawodd Michael â'r chwip oedd yn ei law. Gwelwodd Michael o dan y sarhad. Symudai ei ddwylaw yn ddirdynol, fel pe y byddai yn myned i daro y dyhiryn i'r llawr. Ond trwy ymdrech mawr meistrolodd ei hun. Gornest ! byddai hyny yn waeth nag oediad, hwyrach yn fethiant llwyr i'w genadaeth. Gwell oedd colli ychydig oriau. Ond, beth oedd i'w wneyd yn ngwyneb y sarhad hwnî " A ymladdwch chwi yn awr, y llwfryn V gofynai y teithiwr. " Na wnaf," ebe Michael yn ddigyffro, gan edrych yu myw llygaid ei wrthwynebydd. " Y ceffylau i mi y fynyd yma," ebe y dyn, ac aeth allan o'r ystafell. Edrychodd meistr yr orsaf yn ddirmygus ar Michael, a chan godi ei ysgwyddau yn wawdlyd, aeth allan ar ol y teithiwr. Yr oedd yr argraff a adawodd yr amgylchiad uchod ar feddyliau y gohebyddion yn anffafriol i Michael. Yr oedd eu siomiant yn amlwg. Pa fodd y gallai y dyn ieuanc gwrol hwn oddef cael ei daro fel yna, heb hawlio iawn am y sarhad ? Gan foesgrymu iddo, ymneillduasant, pan y dywedodd Jolivet wrth ei gydymaith : — " Ni fuaswn byth yn credu y fath beth am ddyn sydd mor wrol a medrus i ddifa eirth y mynyddoedd. A all dyn fod yn wrol mewn un amgylchiad, ac yn llwfryn dro arall ] Mae yn annirnadwy i mi." Y foment nesaf clywid trwst olwynion, a chleciadau chwip, yr hyn a amlygai fod y berlin yn cael ei yru yn gyflym o'r orsaf. Safai Michael, yn grynedig gan ei deimladau cythryblus, yn nghyd a Nadia, yr hon oedd yn ymddangosiadol dawel, yn unig vn yr ystafell. Yr oedd y negesydd, gyda'i freichiau yn mhleth, yn sefylí fel delw ar y llawr. Ond yr oedd gwrid, er nad o gywilydd, wedi cymeryd lle y gwelwdra yn ei wynebpryd. Nid oedd Nadia yn amheu am foment nad oedd ganddo resymau cedyrn a boddhaol dros oddef y fath sarhad. Yna gan fyned ato, fel y daethai yntau ati hi yn ngorsaf yr heddlu yn Nijni-Novgorod, dywedodd:— " Eich llaw, fy mrawd." Yr un pryd. mewn dull tyner a serchog, sych- odd ymaith â'i llaw y deigryn oedd yn pelydru yn llygad ei chydymaith. Gyda'i hamgyffrediad clir, deallodd fod rhyw allu dirgelaidd (anhysbys iddi hi) yn cyfarwyddo holl ysgogiadau Michaeí, nad allai wneyd yr hyn a ddymunai, a'i fod yn yr amgylchiad hwn yn neillduol wedi aberthu ei deimladau ei hun ar allor dyledswydd. Felly ni ofynodd am unrhy w eglurhad ar ei ymddygiad. Parhaodd Michael yn ddvstaw trwy'r pryd- nawn. Gan na ellid cael ceffylau hyd dranoeth, yr oedd yn rhaid aros yno trwy'r nos. Rhoddai hyn fantais i Nadia orphwys, a gorchymynwyd parotoi ystafell iddi. Pan ar ymneillduo i'w bystafell, nis gallai ymatal rhag uiyned i ddy- muno " Nos da " i Michael. • " Fy mrawd," meddai. Ond ataliodd ef hi gydag amnaid. Gydag ochenaid drom, aeth yr eneth allau o'r ystafell. Nis gallai Michael feddwl am gysgu, felly nid aeth i'w orweddfa. Yr oedd y fan lle y tarawyd ef yn teimlofel pe wedi ei losgi. " Er mwyn fy ngwlad, a fy Nhad," sibrydai rhyngddo ag ef ei hun. Teimlai awydd cryf i wybod pwy oedd ei ym- osodydd, ac i ba le yr oedd yn myned. Am ei wynebpryd, yr oedd wedi ei argraffu yn anni- leadwy ar ei gof, fel nad oedd berygl iddo byth ei anghofio. O'r diwedd, gofynodd Michael am weled meistr yr orsaf. Daeth yntau, a chan edrych yn ddir- mygus ar y gwr ieuanc, safodd o'i áaen i gael ei holi.