Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfres III— Rhif. 3—Rhagfyr, 1882. OYFAILL-YE-AELWYD: MICHAEL STROGOFF, NEGESYDD Y CZAR. Gan Jules Verne. (Cyfaddasiad arbenig i " Gyfaül yr Aelwyd" gan Alltüd Gwent.) Sylw.— Cymerwyd y cyfaddasiad hwD, yn nghyd a'r darluniau, o'r copyright edition, trwy ganiatad arhenig y cyhoeddwyr, Mri Sampüon Low & Co , 188, Fleet street.] Penod V.—Ar Fwedd yr Agerlong " Caucasus." fjj^AN ganodd cloch yr agerlong ychydig cyn W~f deuddeg o'r gloch, ymgvnullodd tyrfa an- Jjl$f arferol o luosog i'r lanía ar y Volga, yn "<' cynwys nid yn unig y rhai oeddynt wedi bwriadu ymadael y diwrnod hwnw, ond lluaws a orfodid i ymadael yn groes i'w hewyllys, mewn canlyniad i orchymyn yr Ymerawdwr. Nid oes angeu hysbysu fod yr heddgeidwaid yn gwylio yn fanwl bawb oedd yn ymadael, ac yn ofer oedd dysgwyl y ffafr na'r drugaredd leiaf, os na ellid rhoddi boddlonrwydd perffaith i'w gofynion. Yr oedd nifer o'r Cossaciaid yn cerdded yn ol a blaen ar y cei (guay), yn barod i gynorthwyo yr heddlu, pe byddai angen, ond ni alwyd am eu help, gan na feiddiodd neb ddangos y gwrthwyn- ebiad lleiaf i'r hyn a orchymynent. Cychwyn- odd y Caucastts ar ei thaith yr amser a benod- asid, sef deuddeg o'r gloch i'r fynyd. Yr oedd Michael Strogoff a r Livoniad ieuanc yn mhlith y teithwyr. Cawsant fynediad di- rwystr i'r agerfad. Fe gofia y darllenydd fod trwydded Strogoff yn awdurdodi y marsiandwr. fticolas Eorpanoff, i gymeryd un neu ragor gydag ef. Felly teithiai y ddau fel brawd a chwaer, o dan nawdd arbenig yr heddlu ymer- odrol. Eisteddent yn mhen ol y llestr, gan syllu ar y dref derfysglyd yr oeddynt yn gyflym adael. Nid oedd Michael hyd yn hyn wedi holi na dywedyd dim wrth yr eneth. Arosai yn am- yneddgar iddi hi ddechreu. Yr oedd hi wedi bod yn awyddus i ymadael o'r dref, ac oni bae am _ ymyriad rhagluniaethol Michael, buasai wedi ei chaethiwo yno. Ni ddywedodd air am hyn, ond yr oedd ei hedrychiad yn datgan ei diolchgarwch yn groew. Y Volga yw yr afon fwyaf yn Ewrop ; y mae dros ddwy fil o filldiroedd o hyd, ac yn fordwyol yn mron hyd ei tharddiad. Cyflawnid y rhan gyntaf o'r daith, sef hyd Easan, yn gyflym, gan fod rhediad y dwír o'n tu, ac yn ein cludo tua dwy filldir yr awr, yn annibynol ar allu yr ager. Gnd o Kasan i Perm, sef i fyny yr afon Kama, byddai y ffrwd yn ein herbyn, ac ni allem deithio mwy na rhyw ddeng milldir yr awr. Dysgwylid cyrhaedd Perm yn mhen triugain o oriau. Yr oedd y teithwyr ar fwrdd y Caucasus yn rhan- edig i dri dosbarth. Gofalodd Strogoff gael tocynau y dosbarth blaenaf, a theithio yn y cab- anau, fel y gallai ei gydymaith neillduo i'w chaban pan y dewisai. Yn mhlith teithwyr y dosbarth blaenaf yr oedd lluaws o farsiandwyr tramor oeddynt wedi eu gorfodi i ymadael yn nghyd â'u nwyddau o ffair Nijni-Novgorod— Armeniaid, Chineaid, Tyrciaid, Hindwiaid, Tar- tariaid, Persiaid, &c. Yn mhen tua dwy awr wedi iddynt gychwyn, gofynodd yr eneth ieuanc i Michael Strogoff,— "A ydych chwi yn myned i Irkutsk, fy mrawd V "Ydwyf, fy chwaer," oedd yr ateb. "Yr ydym yn myned yr un ffordd ein dau. 0 gan- lyniad, i ba le bynag yr âf fi, cewch chwithau ddyfod." " Chwi gewch wybod, yfory, fy mrawd, paham y gadewais lanau y Baltic, i fyned dros fynydd- oedd yr Ural." " Nid wyf yn gofyn hyny genych, fy chwaer." " Chwi gewch wybod y cwbl," ebe'r eneth gyda gwên. " Ni ddylai chwaer gelu dim rhag ei brawd. Ond nis gallaf heddyw. . . . Yr wyf yn rhy drallodus a lluddedig." " A ewch chwi i orphwys yn eich caban î" gofynai Michael. " Gwnaf,------ac yfory------" "Dewch ynte-----" Safodd fel pe y dymunai ddiweddu ei frawddeg, gydag enw ei gydymaith, o'r hyn yr oedd hyd yn hyn yn anhysbys. " Nadia," ebe hi, gan estyn ei Uaw iddo. "Dewch, Nadia, ynte," ebe Michael, "a gwnewch bob defnydd a alloch o'ch brawd Nicolas Korpanoff." Ac arweiniodd hi i:r caban oedd wedi ei neillduo iddi. Yna dychwelodd i fwrdd y llestr, a chan ei fod yn awyddus am unrhyw newyddion a allai ddal perthynas â'i neges, ymgjmaysgodd â'r