Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfres III.—Rhif. 2.—Rümht 1882. CYFAILL«YR • AELWYD: <6$kMA&M PW at ^teäMtetît y ^Mmry. MICHAEL STROGOFF, NEGESYDD Y CZAR. Gan Jules Veene. {Gyfaddasiad arbenig i " Gyfaill yr Aelwyd," gan Alltud Gwent.) rSYLW,—Cymerwyd y cyfaddasiad hwn, yn nghyd a'r darluniau, o'r conyriyht cdition, trwy ganiatad arbenig y cyhoeddwyr, Mri. Sampson Low & Co , 1S8, Fieet street.] Penod III.—Y Negesydd yn Dechreu ei Daith. R oedd y daith o Moscow i Irkutsk, yr hon yr oedd Michael Stroçoff yn awr i'w theithio, yn ymestyn ani 3,400 o filldir- oedd. Cyn gosod y wifren bellebrol o Fynydd- oedd yr Úral i derfyn dwyreiniol Siberia, yr unig ffordd i dderbyn neu aníon cenadwri i'r neu o'r llysymerodrol oedd trwy gyfrwngnegeseuwyr neu frys genadon. Cyflawnid y daith o Moscow i Irkutsk, gan y teithwyr cyflymaf, mewn deunaw niwrnod. Ond eithriad oedd hyn, canys yn gyffredin cymerai o fis i bum wythnos i deithio y pellder, er fod pob moddion er hyrwyddo y daith o fewn cyrhaedd negeseuwyr yr Ymer- awdwr. Nid dyn oedd Michael Strogofl* i gael ei rwystro gan rew nac eira. Mewn gwirionedd, byddai yn well ganddo ymgymeryd a'r daith hon yn y gauaf, íel y gallai fyned yr holl ffordd mewn sled neu gar-llusg, yr hwn a lithrai yn esmwyth a chyflym dros y gwastadedd mawr eira-orchuddiedig, a chroesid yr afonydd mawrion bron yn ddiarwybod, gan y byddent wedi rhewi drostynt, ac wedi eu gorchuddio â thrwch o eira. Dichon y gallai anhawsderau ereill fod yn rhwystrau i deithio yr adeg hono o'r flwyddyn, sef, niwl tew a pharhaus, oerfel eithafol, ystorm- ydd o eira, yn y rhai yn fynych y cleddir ugeiniau o deithwyr. Heblaw hyny, byddai miloedd o fleiddiaid gwancus a newynog yn heidio ar y gwastadedd eang. Ond byddai yn well i Strogoff wynebu ar yr holl beryglon hyny, canys yn y gauaf byddai yn rhaid i'r goresgynwyr Tartaraidd aros yn eu Uuestau, yn y trefydd; ni fyddai minteioedd ysbeilgar o honynt yn crwydro dros y gwastadedd, a byddai yn anmhosibl i'w milwyr a'r fyddin ymsymud. Ond nid oedd amseriad y daith at ei ddewisiad ef. Yr oedd yn rhaid iddo gychwyn, boed yr amgylchiadau y peth a fyddent. Yn y lle cyntaf, nis gallai deithio fel yr arferai negeswyr y Czar. Rhaid oedd gofalu na fyddai neb yn amheu yn y graddau lleiaf beth ydoedd. Byddai ugeiniau o ysbiwyr mewn gwlad wrth- ryfelgar, a phe deallid mai negesydd ydoedd, byddai ef a i genadwri mewn perygi diifawr. Heblaw hyny, er fod y Cadfridog Eissoff wedi rhoddi digon o arian iddo ar gyfer y daith, nid oedd wedi rhoddi iddo un drwydded i hysbysu ei fod yn ngwasanaeth y llys, yr hyn roddai bob hwylusdod iddo mewn amser o heddwch, ond yn awr byddai yn beryglus iddo. Nid oedd ond yn unig wedi rhoddi iddo drwydded a elwid podor- ojna. Gwnaed hon yn enw Nicholas Korpanoff, marsiandwr o Irkutsk. Felly yn yr enw a'r cymeriad hwnw yr oedd Michael Strogoff i deithio. Yr oedd y podorojna yu rhoddi awdur- dod iddo i alw am berson neu bersonau i'w gyfar- wyddo neu ei amddiffyn ar ei daith, os gwelai hyny yn angenrheidiol, ac hefyd yr oedd yn ei drwyddedu i fyned yn mlaen hyd yn nod pe gwaharddai y Llywodraeth i neb ymadael o'r dalaeth y dygwyddent íod ynddi ar y pryd. Gallai hefyd yn mhob man hawlio cael ceffylau at ei wasanaeth trwy ddangos y drwydded a feddai. Ond yr oedd i ofalu peidio ei defnyddio, os na fyddai yn sicr y gallai osgoi pob amheuaeth parthed ei neges, tra yr ochr hyn i fynyddoedd yr Ural. Wedi cyrhaedd Siberia, i'r talaethau gwrthryfelgar, ni fyddai ganddo awdurdod ar y ceffylau na cherbydau—byddai rhaid iddo ym- ddibynu arno ei hunan, fel rhyw farsiandwr neu deithiwr arall, i orchfygu anhawsderau y daith. Y prif bwnc iddo ef ydoedd cyrhaedd i Irkutsk heb i neb ei adnabod, nac amheu neu ddrwgdybio ei neges, a chyflawnu y daith gyda phob brys dichonadwy. Deug mlynedd ar hugain cyn hyn byddai yn angenrheidiol i deithiwr urddasol, pan yn anturio i'r daith hon, gael gosgordd o 200 o wyr meirch: 200 o filwyr ar draed, 25 o wageni, dau gwch i groesi'r afonydd, a dau fagnel. Ond nid oedd gan Michael Strogoff yr un o'r pethau hyn. Bwriadai ef deithio mewn cerbyd neu ar farch, pan y gallai eu cael, ac ar draed pan na allai gaeí dim i'w gario. Ni chyfarfyddai â dim rhwystrau am y mil