Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR A N Y B Y N W R. Ehif 2- MEHEFIN 15, 1856. CyfL COFIANT GRIFFITH JONES, YSW., O GEFN Y GWYDDGRUG GER ABERHOSAN, SIR DREFALDWYN. (Parhad o tudalen 6.) Er i Mr. G. Jones fyw flynyddau lawer, a bod yn llawen ynddynt, eto daeth dyddiau tywyllwch yn ol ei rag- ddisgwyliad. Y cwmwl cyntaf a ddaeth rhyngddo a haul cysur, oedd marwolaeth ei anwyl briod, yr hyn a gymerodd ie yn dra disyrnwth. Pan oedd hi ar y bnarth yn parotoi i fyned i'r gyfeillach grefyddol, syrtbiodd yn farw yn y fan. Daliodd Mr. Joues yrergydyn deilwng o un yn credu mai llaw Duw oedd i'w weled yn hyn oll; er i hyn i effeithio yu ddwys ar ei yspryd, ac nid rhyfedd, pan yr oedd eu hanwyldeb o'u giîydd yn fawr, a'u bod wedi byw yn dded- wydd gyda'u gilydd am dyrnhor pur faith. Ond pan yr oedd efe fel hyn wedi ei adael yn unig gan gyfeilles ei ieuenctyd, trefuodd y nefoedd iddo gael merch-yn-nghyfraith ymgeleddgar, yr hyn a gododd ei yspryd yn fawr, a bu yn ystod y blynyddau diweddaf o'i einioes yn dra dedwydd, a hyny hyd nes y daeth y cwmwl olaf dros haul ei fywyd. Bu dyfodiad Mrs. Jones i'r teulu yn ychwanegiad at ei olud a'i ddedwyddwch. Ond yr oedd hen ddyddiau Mr. Jones yn dyfod yn mlaen, a'i einioes yn tynu at ei therfyn, er pob [mwynderau a feddai y byd a chrefydd i'w cyfranu. "Nid oes yma ddinas barhaus" i neb. Dechreuodd ei babell ymollwng, ac er arfer pob moddion ag oeddent yn gyraeddadwy, terfynodd ei fywyd ar y 14eg o Fehefin 1832, pan yr oedd yn 86 mlwydd oed, ac wedi bod yn aelod eglwysig am 6B o flyn- yddoedd, a hyderir ar seiliau cryfion iddo gael ty na thynir ef byth i lawr, yr hwn sydd yn dragywyddol yn y nefoedd. Bu hefyd yn ddiacon yn yr eglwys am y rhan fwyaf o'i oes. Yr oedd yn ymadael a'r byd yn hynod o ddirwgnach, ac yr oedd yn hiraethu am gael bod gyda'r Iesu, a bod yn debyg iddo. Adroddai yn fynych y penill canlynol: " Wrth edrych yn ol A chofio fy llwybrau, Rwy'n gweled mai íFol Y treuliais fy nyddiau." Nid oedd yn pwyso ar ddim a wnaeth, er cymaint fu ei ddefnyddioldeb gyda'r achos. Crist wedi ei groeshoelio oedd unig sylfaen ei obaith am ddedwydd- wch tragywyddol. Y pethau a gan- lynant oeddent brif elfenau eigymeriad. Yr oedd yn ddyn o dymer dawel, ac yn hynod o hunanymwadol. Er boà