Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR • Y/AOFYNYDD. Cylchgrawn Misol y Gymdeithas Undodaidd Gymreig. " Profwch bob peth : delìwch yr hyn sydd dda."—Paul. Cyfres Newydd.] CHWEFEOE, 1907. [Cyf. VII. Ehip 2. NODION Y MI5. J'YMA farn Mr. O. M, Edwards yn y " Cymru " am Ionawr ar Eiriadur Beiblaidd Thomas Charles o'r Bala sydd wedi bod mor boblogaidd am ganrif o amser, wedi myned trwy amrywiol argraffiadau, ond yn aros o hyd heb ei ddiwygio i gyfarfod a chyf- newidiadau angenrheidiol yn syniadau ysgolheigion am y Beibl:— " Boddlonir ar Eiriadur Charles, fel pe na buasai darganfyddiadau canrif gyfan,—y ganrif gyfoethccaf mewn darganfyddiadau,—yn werth sylw." Yr ydym wedi ysgrifenu nodion tebyg i'r uchod lawer gwaith yn yr Ymofynydd, yn cyfeirio yn neillduol at y Geiriadur, Esponiad Beirniadol Idrisyn a llyfrau cyffelyb a adgynyrchir wrth y canoedd o fiwyddyn i fiwyddyn, a brynir gan ysgolion Sul y wlad, a ddefnyddir t'el trysorfeydd gwybodaeth ysgrythyrol gan athrawon a phenau teuluoedd, ond nad ydynt mewn gwirionedd yn werth y cloriau sydd am danynt. 'Does neb yn gofalu beth mae'r Ymofynydd yn ddweyd, ond golyga rywbeth pan yr ymosodir gan awdurdod fel Mr. Edwards ar un o'n gwendidau fel cenedl. Paham mae Cymru, dywedwch, mor radicalaidd yn ei gwleidydd- iaeth a'i heglwysyddiaeth ac mor anobeithiol o geidwadol yn ei duwinyddiaeth ? Mae Methodistiaid Calfinaidd y Deheudir wedi cael coleg nswydd yn Abei-ystwyth, awyrgylch newydd, cychwyniad newydd, pob bendith a braint i wneud eu cenhadwri yn yr ugeinfed ganrif yn bwer ofnadwy er dyrchafiad meddyliol a moesol y genedl; ond er mwyn cadw'r myfyrwyr yn straight, a sicrhau pwys y dead hand fel hunllef ar bob gogwyddiad rhyddfrydig o'u heiddo, darllen- wn yn y " Goleuad " am Ionawr 23ain fod Mrs. Davies, Llandinam, wedi cyflwyno i bob myfyriwr gopi o lyfr Dr. Orr, Glasgow, ar