Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr • Yaofynydd Cylchgrawn Misol y Oymdeithas ündodaidd Gymreig. " Profwch bob ỳeth :• deliwch yr hyn sydd dda."—Paul. Cyfres Newydd.] RHAGFYR, 1902. [Cyp. II. Ehip 12. NODION Y MIS. ^RFEREM feddwl fod pob datguddiad yn nhiriogaeth crefydd ___ wedi gorphen pan ysgrifenwyd y gair diweddaf o'r Beibl. Yn sicr, dyma'r dyb uniongred ar y pwnc hyd yn ddiweddar. Ond ym- ddengys wedi'r cyfan mai camsynied oeddym yn hyn ; oherwydd un o amcanion " Undeb yr Eglwyswyr i hyrwyddo cynydd mewn syn- iadaeth grefyddol Ryddfrydig " sydd fel y canlyn : " Amddiffyn hawl a dyledswydd yr Eglwys i ad-drefnu ei chred o bryd i bryd yn ol fel y gofynir gan ddatguddiad cynyddol yr Yspryd Glân." Sefydlwyd y gymdeithas uchod yn 1898, ac y mae rhai o bobl enwocaf yr Eglwys Sefydledig yn aelodau o honi. Un arall o'i ham- canion yw dwyn o amgylch deimlad mwy cyfeillgar rhwng yr Eglwys Sefydledig a'r enwadau Ymneillduol. I'r dyben hwn gwahoddir dynion enwog o bob enwad i draddodi darlithiau ar bynciau perthyn- àsol i amcan y gymdeithas. Bydd yn ddyddorol i sylwi a wahoddir rhywun o wyr enwog yr enwad Undodaidd—yr unîg enẁad gwirion- eddol ryddfrydîg yn y deyrnas. Yn y ddarlith gyntaf o'r tymor presenol ymddengys fod Dr. Freemantle, Deon Ripon, wedi ymdrin â phynciau dyrys genedig- aeth wyrthiol Iesu Grist, ymgnawdoliad, gwyrthiau, Iawn, ac adgyf- odiad yn y fath fodd ag i beri i un o'r gwrandawyr i ofyn iddo ar y diwedd, beth oedd y gwahaniaeth rhwng yr hyn a ddywedwyd ganddo ag Undodiaeth ? Ni chlywsom beth oedd yr ateb, os rhoddwyd un ó gwbl. Os na roddwyd, dyddorôl iawn fyddai ei gael.