Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr * Y/AOFYNYDD. Cyîchgrawn Misol y Gymdeithas Undodaidd Gymreig. " Profwch bobỳeth : deliwchyr hyn sydddda."—Paul. Cyfres Newydd.] TACHWEDD, 1902. [Cyf. II. Ehif 11. NODION Y MIS. í^y^MDDENGYS fel pe mai y pwlpud yw'r unig le y goddefir i yjp^ ddynion draethu syniadau ydynt (a dyweyd y lleiaf am dan- ynt) yn blentynaidd, ac yn sicr, yn y dyddiau hyn, ydynt yn ar- ddangos drychfeddyliau hynafol i'r eithaf am ddull Duw o lyw- odraethu'r bydysawd. O'r cyfryw natur oedd sylw o eiddo Esgob Llundain, mewn pregeth a draddodwyd ganddo tranoeth i'r coroniad, fod Duw wedi danfon yr afiechyd diweddar ar ein brenin er gwneicd y genedl yn well. Gwyddem fod syniadau tebyg i hyn yn ffynu yn gyffredin iawn mewn cylchoedd crefyddol nad yw diwylliant meddyl- iol wedi gweithio ei ffordd iddynt eto. Ond disgwyliem fod un sydd yn llanw cylch mor bwysig yn Eglwys Lloegr yn meddu gwell drych- feddwl na hyn am Dduw a'i ffordd. Byddai'r un desgrifiad yn darawiadol iawn am lawer o'r hyn ddy- wedir mewn gweddiau, yn ogystal ag am y syniad cyffredin am ddyben gweddi. Wrth wrando llawer gweddi, gellid meddwl mai Duw sydd eisiau ei gyfnewid, ac nid dyn. Mae rhai o'n darllenwyr yn ddiameu yn cofio ám gyfarfodydd gweddi yn amser sychder neu wlybaniaeth.er darbwyllo Duw i newid yr hin. Yn amser rhyfel- oedd (fel yn y rhyfel diweddaf yn Neheu Affrica), mae'r ddwy blaid yn arfer erfyn ar Dduw i fod o'u tu. Mewn newyddiadur yn ddi- weddar gwelsom weddi wedi ei chyfansoddi gan brif gaplan y fyddin ar ran y milwyr oeddent yn dychwelyd o Affrica, Nid y weddi ei hun a dynodd ein sylw penaf, er hyny, ond y nodyn canlynol ar ol y weddi:—" Gellir cael y weddi hon, yr hon sydd wedi cael cymer- adwyaeth Archesgob Oaergaint a'r Câd-lywydd, trwy oruchwylwyr arferol y Llywodraeth." Mae'r syniad fod cymeradwyaeth y ddau «chod yn angenrheidiol er gwneud y weddi yn dderbyniol yn ddigrif