Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr • Yaofynydd. Cylchgrawn Misol y Gymdeithas Undodaidd Gymreig. " Profwch bob ỳeth: deliwchyr hyn sydd dda."—Paul. Cyfrbs Newtdd.] MEDI, 1902. [Cyf. II. Rhif 9. NODION Y MI5. CgljSYSTIOLAETII un o Journalists enwocaf y Deheudir, a ddeil tftgjC swydd bwysig mewn cysylltiad ag un o bapyrau dyddiol Caer- dydd, yw, mai Yr Ymofynydd, yn ddiamheu, yw y goreu o'r misolion Cymreig. Dywedai Methodist, o Benygraig, Cwm Ehondda, yn ddiweddar, mai dim ond dau Fisolyn Cymreig a gyhoeddid oeddent yn fwy o werth na'r pris a godid am danynt, a'r ddau hyny oedd Trysorfa'r Plant a'r Ymofynydd. Yr ydym yn clywed yr un 'stori o lawer o fanau. Ac yn awr pan mae y Postal Mission Cymreig ar fin cael ei gychwyn, beth pe byddai rhai o'n pobl gyfoethog (ac mae gyda ni lawer o honynt yn Ngheredigion a Morganwg) yn gosod eu dwylaw yn eu llogellau, dipyn yn ddyfnach nag arfer, ac yn helpu y Gymdeithas i wasgar Yb Ymofynydd dros hyd a lled y Dywysog- aeth. Dyma waith cenhadol allwn i wneud, a'i wneud i bwrpas ond i ni dreio. Mae y Diafol wedi marwyn y diwedd. Y Parch. D. Stanley Jones, olynydd Dr. Herber Evans, Caernarfon, sydd yn dweyd hyny yn Y Geninen am Ebrill:—" Na ! mae Cymru wedi deffro i angenion newydd, ac amgylchynir ei bywyd goreu gan elynion na freuddwyd- iodd yr hen bobl erioed am eu bodolaeth. Nis gwyddom fawr am y pechod gwreiddiol y soniai y tadau gymaint am dano, ond credwn fod anwybodaeth, Uygredd, meddwdod, difrawder, ac ariangarwch y dyddiau hyn yn fifeithiau mwy byw na'r un anfantais a ddaeth trwy Adda erioed. Felly ni ddylem wario ein nerth i ymladd aW hen Satan sydd wedi marw. * ■ * * * * Dywed yr oes hon wrth eu har- weinwyr fel y dywedodd meibion y prophwydi wrth Eliseus : * Wele y lle hwn yr ydym yn trigo ynddo ger dy fron di sydd yn rhy gyfyng i ni': rhaid i ni gael mwy o le mewn credo ac ymarferiad," &c. Dar- llener yr holl ertbygl ar " Y Pregethwr Newydd" a cheir gweled yn amlwg fod ryw ysprydiaeth newydd yn codi ei ben yn mhwlpudau