Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr * Yaofynydd. ... . ' ' ' Cylchgrawn Misol y Gymdeithas Undodaidd Gymreig. " Profwch bob peth : deliwch yr hyn sydd dda"—Paul. Cyfres Nbwtdd.] AWST, 1902. [Cyf. II. Ehif 8. DYLEDSWYDD RHIENI TUAÖ AT YR YSGOL SUL. Papyr a ddarllenwyd yn Nghyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yn Gellionen, Gorphenaf 10, 1902, Gan y Parch. Jenkyn Thomas, Pendleton. ^AB dyn yn ei gyfanswm yn cael ei wneud i fyny o amrywiol elfenau, ac y mae i bob elfen ei swydd briodol a'i phwysig- rwydd neillduol mewn bywyd. Efallai y gallwn ddosranu y cyfan i'r corfiforol, y meddyliol, y moesol a'r ysprydol. Rhanai Paul y :dyn i'r anianol a'r ysprydol, neu, mewn geiriau ereill, y marwol a'r anfarwol, yr hyn sydd gyfnewidiol a darfodedig, a'r hyn sydd fyth barhaol. Hoff ydym weithiau o ymfalchio yn yr agwedd allanol, yr osgo ystwyth, y cryfder gewynol, y llygaid caruaidd ddysgleiriant fel gemau, y ffurf brydferth, y gwallt modrwyog. Ondpethau cyfnewid- ioll ehedog, darfodedig yw y rhai hyn ar y goreu. Y corff, yr anian- ol, a'u gwrid yn berthynasau agos i'r byd anifeilaidd, a dderfydd fel cysgod; yr yspryd sydd yn ein codi o'r llwch i wychder bywyd yr Anfeidrolj aç yn ein gwneud yn berthynasau i'r angelion. Nis gall- wn wneud heb i . Yr Edfen Gorfforol 'jn y bywyd bwn. Mewn byd materol nid gwiw ymsymud fel ysprydicln ar wyneb meusydd Uafur a blaenfynediad. Ös am gymer- : yçt rhan yn-ngwaith, bywyd, rhaid yw wrth wasanaeth y corff; a 'gpreu i gyd pa brydferthaf, iachusaf, a hoenusaf y bydd y corff hwn. Gredaf weitniauiod yma: amryẅiaeth yn ngwëad y defnydd materol a gyfansodda y corff dynol. Mae edefyn garw wedi ei weu i fewn i