Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR • Y/AOFYNYDD Cylchgrawn Misol y Gymdeithas Undodaidd Gymreig. " Profwch bob ỳeth : deliwch yr hyn sydd dda."—Paul. Cyfres Newydd.] GORPHENÀF, 1902. [Cyp. II. Ehip 7. PLEIDWYR CYNYDD MEWN CREFYDD. ROWLAND WlLLIAMS, D.D., Gan y Parch. E. Gwilym Eyans, B.A., (Oxon.), Chesterfield. [PARHAD.] JWCHLAW pob dim, gadewch i ni gael digon o oleuni." Hyn oedd cyfarwyddyd Rowland Wiliiams i ben-adeiladydd ei bersondy newydd yn Broad-chalke, Wilts. Fel Goethe gynt, gweddiai gwrthrych ein herthygl am " ragor o oleuni," er y gwyddai, i'w fawr drallod, fod yn rhaid iddo droedio drwy dywyll nos culni ac anwybodaeth ei amgylchynedd cyn torai gwawr goleuni claer gwir- ionedd a rhyddid arno. Ac yn ddiameu 'roedd lleni'r nos yn disgyn eisoes ar Rowland Williams. Dywed Lowell wrthym fod crisis yn mywyd pob dyn a chenedl, canys, " Gofyn unwaith wneir i bob dyn, ac unwaith hefyd i bob gwlad, Ar ryw adeg i ymrestru dros y Gwir yn erbyn Brad, Daw rhyw achos inawr a Dwyfol, gan ddwyn i ni Dda neu Ddrwg A'r dewisiad a â heibio byth, tuhwnt i wên a gwg." Daeth crisis bywyd Rowland Williams i'r amlwg yn Chwefror 1860, pan gyhoeddwyd y bydenwog a chwyldroadol " ESSAYS AND REVIEWS." Hwn oedd losgfynydd terfysglyd ar anialdiroedd cysglyd Prydain dduwinyddol. Yn lle mwg a thywyllwch oesol y daeth tân ysol, wedi ei gyneu gan saith o ddewrion Eglwysig, o Rydychen a Chaer-